31/07/2009

Amser i sortio hyn allan - Time to sort this out




Ers sawl blwyddyn bellach mae 'na broblemau wedi bod yn dilyn symud Clwb Rygbi Bro Ffestiniog o gaeau'r Ddol, Tanygrisiau i cae Dolawel yn y Blaenau.
Fel rhan o'r cynllun oedd yn fod i rhyddhau tir ar gyfer datblygiad diwydiannol, datblygwyd y safle 7 acer (Cae Peips) fel caeau ar gyfer Ysgol y Moelwyn gan fod yr Ysgol wedi trosglwyddo Dolawel i'r Clwb Rygbi.
Ymddengys ers bron i ddegawd fod problemau enbyd wedi bod gyda Cae Peips, gyda canol y cae fel bowlen ac o gofio'r glaw sydd yn syrthio yma yn Stiniog o bryd i'w gilydd mae'r cae yn ymdebygu i lyn ar adegau.
Rwan mae hyn i gyd yn creu problemau mawr i'r ysgol yn ogystal a chlwb pel droed ieuenctid y Blaenau sydd yn hyfforddi ac yn datblygu dros 100 o beldroedwyr ifanc yn yr ardal rhwng 8 a 16 mlwydd oed.
Gan nad ydynt yn medru chwarae ar y Cae Peips mae nhw wedi bod yn chwarae ar Y Ddol yn Tanygrisiau - oedd wythnos diwethaf yn gartref i Syrcas ymwelodd ar dref.
Erbyn hyn mae'r cae hynny wedi ei ddifrodi yn reit ddrwg mewnn un gornel ac mae pryder rwan os bydd y cae mewn cyflwr digon da ar gyfer dechrau'r tymor newydd.
Dwi wedi bod yn pwyso am fisoedd i'r sefyllfa yma gael ei ddatrys gan fod Ysgol y Moewlyn a pheldroedwyr ifanc y Blaenau wedi cael ei trin yn wael iawn allan o'r holl bennod yma ac byddaf ar y cyd a'r Cyng. Dafydd Lloyd Hughes yn mynnu fod Cyngor Gwynedd sydd wedi bod yn gyfrifol am yr holl gynllun yn datrys y sefyllfa gwbwl annerbyniol yma...a hynny ar unwaith!


For a nearly a decade the saga relating to Cae Peips and the former rugby pitches at Y ddol in Tanygrisiau has rumbled on.
Cae Peips is shaped like a bowl, and what should be a football pitch more often resembles a boating lake!
Due to this Ysgol y Moelwyn and the towns youth football teams which have over 100 players ranging between the ages of 8 and 16 have been struggling to find somewhere to play their matches.
Last season, Y Ddol was their temporary home, last week a Circus was held there and that pitch has now been damaged and may not be fit for the beginning of the new football season which is only a few weeks away!
The whole situation is unacceptable and is little more than farcical.
Both Cllr. Dafydd Lloyd Hughes and I are determined to sort the situation out as soon as possible so that the school and the youth football teams have decent and proper facilities to play on and we will be pressing upon Gwynedd Council who have been responsible for creating this problem to sort it out immediately as quite frankly this is just not good enough!

0 comments: