

Gyda'r tymor twristiaeth ar ei anterth rwan fod yr ysgolion wedi cau mi fydd yna filoedd a'r filoedd yn heidio i'r Blaenau a'r Rheilffordd Ffestiniog dros yr wythnosau nesaf.
Mae Blaenau yn dref hynod o unigryw mewn sawl ffordd, mae rhai yn galw'r dref "Y twll yng nghanol y Parc Cenedlaethol"...disgrifiad cwbwl anffodus, nad ydwyf yn hoff ohono o gwbwl.
Erbyn hyn credaf fod gan y Blaenau lawer iawn i gynnig i Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri ac yn yr un modd, mae gan y Parc lawer i gynnig i'r Blaenau.
Mae hanes diwydiannol a diwyllianol Blaenau yn anhygoel, cyplyswch hynny i gyd gyda cynlluniau cyffroes Antur Stiniog a chynlluniau Y Dref Werdd, mae gennym rhywbeth unigryw a gwerthfawr i ychwanegu i'r Parc Cenedlaethol.
Yn yr un modd, mi all y Parc cyfaethogi elfennau amgylcheddol, cadwriethol ac amgylchedd adeiladol y dref a hynny ar adeg pan fydd dros £3.5m yn cael ei wario ar ganol y dref o fewn y 18 mis nesaf.
Oes, dwi'n meddwl fod yma bendant gyfle i drafod cynnwys Blaenau o fewn Parc Cenedlaethol Eryri, dyna pam dwi wedi gofyn am gyfarfod buan gyda Chadeirydd a Phrif Weithredwr Awdurdod y Parc er mwyn i ni gael trafodaeth synhwyrol ar y posibiliadau hyn.
Be ydy'ch barn chi ar hyn?
Now that the schools have closed for the summer holidays, the tourist season is in full flight and over the next few weeks, thousands and thousands of visitors will be coming to Blaenau on the Ffestiniog Railway.
This is a unique town in so many ways, some people cal it "The hole in the middle of the National Park", a description I hasten to add that I don't like as I think that its unfair and ignorant.
I genuinely feel that Blaenau has a lot to offer to the Snowdonia National Park and in the same way, I think that the National Park has a lot to offer Blaenau.
The industrial and cultural heritage of Blaenau is amazing, add to that, the plans that Antur Stiniog are in the process of developing along with the great work being undertaken by the Green Town Initiative, we have something truly unique and precious to offer the National Park.
In the meantime, the National Park could enhance the environmental, conservational and built environment work within the town, at a time when over £3.5m will be spent on regenerating the town centre within the next 18 months.
Yes, I certainly believe that we should at least have an open and frank debate about having Blaenau in the Snowdonia National Park, that is why I have contacted the Chairman and the Chief Executive of the Snowdonia National Park today so that we can start this debate and have a sensible conversation about the pro's and con's of such a move.
What do you think?


11 comments:
Wyt ti wirioneddol eisiau gwneud Blaenau yn rhan o'r Parc?Oes, mae 'na fanteision twristaidd, ond fe fyddai pob cais cynllunio yn cael ei benderfynnu ganddyn nhw, yn hytrach na gan gynrychiolwyr etholedig Gwynedd - rhywbeth a fyddai'n fy mhoeni i, yn bersonol.
Pam lai? Mae'r byd wedi newid ers 1951 - ar y pryd hynny, y tirwedd oedd y prif reswm am fodolaeth y parc, ac efallai nad oedd cynnwys Blaenau ddiwydiannol yn briodol. Erbyn hyn, mae cadwraeth yn cynnwys elfen amgylcheddol a diwylliannol i gadwraeth hefyd, a mae hanes Blaenau yn ddiddorol iawn. Hen bryd i'r twll yn y parc gael ei lenwi.
Dyfrig - Tydi'r ystyriaeth honno ddim yn fy mhoeni llawer i fod yn onest gan fod yna aelodau etholedig o Wynedd ar Awdurdod y Parc ac mae'r broses gynllunio o fewn y Parc yn decach gan fod yr ymgeisydd yn cael cyfle i annerch y Pwyllgor wrth gyflwyno ei gais...rhywbeth na sydd yn digwydd yng Ngwynedd. Hefyd, pan drafodwyd materion yn ymwneud a Blaenau wrth fabwysiadu y Cynllun Datblygu Unedol, yn gwbwl groes i ddymuniadau aelodau lleol sydd ar Gyngor Gwynedd, yn groes i farn y cyhoedd ac yn groes i farn Cyngor Tref Ffestiniog, ddaru Pwyllgor Craffu yr amgylchedd dderbyn argymhellion gwael, wedi ei gynnig gan gynghorydd o Dyffryn Ogwen a dim ond ar bleidlais fwrw Cynghorydd o Fangor gafodd o ei fabwysiadu....ti'n cofio? Dwi'm yn meddwl all y Parc fod dim gwaeth na hynny...ti?
Rhydian - Yn hollol...pam lai?
Oes, mae 'na gynrychiolaeth o Gyngor Gwynedd ar bwyllgor cynllunio'r Parc, ond mae yn llai cynrychioliadol a llai democrataidd na'r Cyngor. Mater o farn yw pwysigrwydd y pethau hyn, wrth gwrs.
Dwi'n ymddiheuro dim am yr hyn a wnaed yng nghyd-destun y CDU, gyda llaw. Roedd y penderfyniad a wnaed yn un cwbl gywir, ac fe allwn i amlinellu pam yn hawdd. Ond dwi ddim yn credu bod gan neb o dy ddarllenwyr ddiddordeb mewn cael eu diflasu gen i.
Dyfrig - Llai cynrychioliadol ydi...lai democrataidd...mater o farn ydi hynny...o be dwi'n glywed am Pwyllgor Cynllunio Canolog y Cyngor.
Dwi'n meddwl fyddai llawer o ddarllenwyr gan gynnwys mi fy hyn ddiddordeb yn y mater CDU, mae pawb yn lleol dwi'n ei adnabod gymherodd rhan yn meddwl fod y penderfyniad yn un dwl.
Sut yn union mae rhywun yn gallu dadlau nad yw Pwyllgor Cynllunio Canolog Gwynedd yn ddemocrataidd? Mae pob Cynghorydd ar y pwyllgor wedi ei ethol gan drigolion Gwynedd; mae seddi ar y pwyllgor wedi eu rhannu yn ol dyraniad grwpiau gwleidyddol y Cyngor; ac mae pob penderfyniad yn cael ei wneud drwy bleidlais. Beth allai fod yn fwy democrataidd?
Mae mater y CDU yn gwbl syml. Roedd Arolygwr Cynllunio Cenedlaethol Cymru wedi gofyn i Wynedd dynnu safle ar gyrion Blaenau Ffestiniog allan o'r CDU, a hynny oherwydd ei fod yn cynrychioli lledaenu ffiniau'r dref i mewn i gefn gwlad agored. Roeddwn i'n cytuno gyda'r Arolygydd, fel yr oedd mwyafrif aelodau'r pwyllgor. Ac felly fe basiwyd cynnig yn derbyn argymellion yr arolygydd.
Dyfrig - Ti'n saethu dy hunain yn dy droed mewn dau baragraff!
Ble mae'r democratieth pan mae Arolygydd (anetholedig...ti'n cytuno a fo!?..hmmm) ac aelodau etholedig o ardal arall yn penderfynu be sydd orau i Blaenau yn groes i farn trigolion lleol, y Cynghorwyr etholedig ar y Cyngor Tref a'r tri Chynghorydd etholedig ar y Cyngor Sir....mae dy "ddemocratiaeth" di yn wahanol iawn i un mi mae genai ofn gyfaill mwyn.
Un corff democrataidd yw Cyngor Gwynedd. Does gan aelodau Blaenau ddim veto dros faterion Blaenau, dim mwy na sydd gen i veto dros faterion Gerlan. Mae Gwynedd yn sir rhy fach i gael ei thorri yn 75 o fiefdoms unigol, pob un yn cystadlu yn erbyn ei gilydd.
Ac wrth gwrs, mae'r Arolygydd Cynllunio yn cael ei benodi gan gorff arall sydd wedi ei ethol yn ddemocrataidd - y Cynulliad.
Dwi'n deallt democratiaeth fel rhywbeth aml-haenol a chymleth. Ti'n dewis dehongli democratiaeth mewn dull cwbl wahanol, a llawer mwy naif. Os wyt ti'n wirioneddol gredu y dylid cael system lle mae pobl Blaenau yn cael yr hawl i reoli popeth sydd yn digwydd o fewn y dref, yna mae'n bryd i chdi sefydlu mudiad i ymgyrchu dros annibynniaeth i Blaenau.
Dyfrig - Mae'r sylw diwthaf yn amlygu dau beth.
1. Dy ddiffyg profiad di.
2. Dy ddiffyg parch tuag at daldleuon cwbwl cyfiawn gan trigolion un ardal penodol.
Wedi dweud hynny, mae anwybyddu barn rhesymegol pobol yn un o'r sgiliau penodol sydd angen i fod yn gynghorydd Plaid Cymru yng Ngwynedd felly mae'n dda gweld dy fod yn plesio dy meistri gwleidyddol o leiaf. Da iawn chdi washi, dal di ati ;-)
1)Mae'r busnes "diffyg profiad" yn dechrau mynd yn joc. Dwi'n 32 oed, ac eto dyma'r eildro mewn wythnos lle mae 'na Gynghorydd Llais Gwynedd sydd lai na 10 mlynedd yn hyn na fi wedi penderfynnu siarad efo fi fel taswn i'n blentyn 12 oed. Beth yn union ydi'r "profiad" enfawr 'ma sydd yn dy wneud di neu Aeron Jones yn gymwys i fod yn Gynghorydd, ond nid y fi? Fel y dywedodd rhywun wrtha i dros y penwythnos, dyw'r busnes "diffyg profiad" yn gwneud dim i fy niweidio fi, ond mae'n gwneud i chdi ac Aeron edrych yn hynod o nawddoglyd.
2) Mae 'na wahaniaeth rhwng parchu barn rhywun, a chytuno gyda'r farn honno. Dwi'n parchu safbwynt aelodau lleol Blaenau ar y CDU, ond dwi'n anghytuno a hi. A dyna fy hawl fel aelod etholedig o'r Cyngor. Yn groes i be' ti'n ei feddwl, does gen i ddim "meistri gwleidyddol". Dwi'n berchen ar fy safbwyntiau fy hun, a does neb - yn aelodau lleol nac yn arweinwyr plaid - yn gallu newid hynny.
Mae'n bosib yr ai ati i drafod aelodau lleol mewn rhagor o ddyfnder ar fy mlog fy hun, pan gai gyfle.
Dyfrig - "Calm down", dwi ddim yn meddwl nad wyt ti'n gymmwys i fod yn gynghorydd na fod genai unrhyw brofiadau sydd yn fy wneud i yn well na thi fel cynghorydd na fel person...OND...mi fues i yn Gynghorydd o'r blaen am 6 blynedd ac yn Gadeirydd Pwyllgor Cynllunio a Datblygu Econmaidd...sydd yn gyfustur a deilydd y portffolio erbyn hyn....
Tydi hynny ddim yn fy neud i yn spesial...OND mae o yn rhoi y gallu i mi weld pa gamgymeriadau dwi ac eraill wedi ei wneud yn y gorffenol ac dwi'n licio meddwl mod i wedi dysgu o rheini....mi wnei edrych yn ol pan fyddi di yn 42 a meddwl..sa well swn i ddim wedi gwneud hynny, neu dweud hynny...dyna oeddwn i yn ei feddwl ac os oedd o'n dod drosodd yn nawddoglyd, yn sicir nid dyna fy mwriad.
Duw yn unig a wyr, efallai mewn degawd y byddi wedi gweld y goleuni ac ymuno a Llais Gwynedd!? Ti am y 'Steddfod? Falla welai di yno?..Hwyl i ti am y tro.
Post a Comment