04/07/2009

Car pwy ydi hwn? - Who's car is this?




Oedd y car hwn wedi ei barcio mewn lle wedi ei glustnodi ar gyfer gyrrwyr anabl wrth ochr Siambr Dafydd Orwig, Caernarfon dydd Mawrth diwethaf er nad oedd bathodyn anabl arno ac hyd y gwn i tydi'r perchennog ddim wedi ei gofrestru gyda unrhyw anabledd.
Tybed pwy ydi'r perchennog? Tydi'r car ddim "Yma o Hyd", efallai am fod y perchennog wedi colli ei sedd yn yr etholiad diwethaf, dwn i ddim?
DIWEDDARIAD - Mae Rhydian Fon o Gangen Plaid Cymru Bontnewydd yn datgan nad yw'r lle yma wedi ei glustnodi ar gyfer gyrrwyr anabl - fel mae'r lluniau ychwanegol yn dangos yn glir, mae o. Os ydwi yn anghywir mi rof i £500 i Gangen Plaid Cymru Bontnewydd, os ydwi yn gywir, tybed os wneith Rhydian a pherchennog y car sicrhau fod Plaid Cymru yn rhoi £500 i Llais Gwynedd. Paidiwch a trio amddiffyn yr aniffynadwu.


This car was parked in a designated area for disabled drivers near the Council Chamber in Caernarfon on Tuesday, despite not having a blue badge or the driver being registered disabled as far as I am aware.
Who could the owner be I wonder? It's a nice motor, Presidential like I would say..and it has a Plaid Cymru sticker on the back....Hmm, who's Plaid's president these days?
UPDATE - Rhydian Fon from the Bontnewydd Branch of Plaid Cymru states that this area is not designated for disabled drivers. As the additional photo's clearly show, it is! If I am wrong, I will pay £500 to the Bontnewydd Branch of Plaid Cymru, however if I am right, I'd expect Rhydian and the owner of the car to give £500 to Llais Gwynedd. Don't try and defend the indifencable...put up or shut up!

25 comments:

Dave said...

Parking in a disabled bay when you're not disabled is just wrong. Especially when done by a supposed 'pillar of the community'.

One note though, I would've blurred the number plate. They could claim you're invading their privacy.

GWILYM EUROS ROBERTS said...

Dave - Invading their privacy? Like they invaded a designated parking area for disabled drivers you mean?

Anonymous said...

Mae gennyf nifer o gwestiynnau Gwilym.

A oedd y car mewn tiwn ?

Mae Volvos yn dda i'w ddrefio pan fod yr eira yn wyn ?

A fuasai yn iawn os buasai wedi parcio ei Gee Geffyl Bach yn y llecyn i'r Anabl.

Gobeithio na fydd hyn yn cael i ganu yn y Western mail.

Aha mae'r darnau rwan yn disgyn i'w le, efallai fod hiraeth yn ei galon ar ol colli (cael ei chwalu0 yn etholiad Mai 2008.

Dave said...

I understand your frustration (I share it about disabled access rights), but I think you are breaking the law here. Remember Google had to go through entire cities blurring number plates on Google Street View because of legal issus.

GWILYM EUROS ROBERTS said...

Cheers Dave...The plate is blurred as advised.
I take it no laws are being broken now?

Anonymous said...

Mae'r dyn yma ishio...
"Lessons history, lessons geography,
Lessons english o hyd ac o hyd.
Ac ambell i lesson bach mewn parcio, chware teg,
Am na parciwr shit oeddwn i!"

Alwyn ap Huw said...

Yr wyt yn hynod angharedig Gwilym!

Yr wythnos diwethaf bu farw canwr enwoca’r byd yn ddim ond hanner cant oed. Mae ail ganwr enwoca'r byd yn tynnu at oed yr addewid, ac yr wyt ti am wadu lle iddo gael parcio yn ei benwynni - rhag dy gywilydd.

GWILYM EUROS ROBERTS said...

Alwyn - Mae'r ail ganwr enwoca yn y byd yn edrych yn wych, Gwelais Cliff Richard yn chwarae tenis diwrnod o'r blaen ar y teledu ac yn siarad am Wimbledon...efallai ei fod o ar ei ffordd i'r Ganolfan Tenis yng Nghaernarfon?

Anonymous said...

Gwil
Mawr obeitthaf fod swyddogion y cyngor wedi rhoi ticed bach melyn ar y car
Mae rhywun wedi cael llond ei fol o'r cyn cynghorydd yma yn busnesu ymhob dim - hyn yn cynnwys eisiau cau Cartref Bontnewydd - cartref a gafodd ei rhedeg am nifer o flynnyddoedd gan yr Eglwys Bresbryteraidd ag unwaith cymerodd y cyn cyngor e' trosodd yna dim ond cwynion gan y bobol lleol
"They could'nt organise a piss up in a brewery"
D Dd

rhydian fôn said...

Mae dau le sydd wedi eu dynodi i'r anabl. Dwi wedi parcio yn y lle drws nesa i'r car (lle mae'r car glas) yn aml, Dydi'r un lle mae'r car arian ddim yn le i'r anabl. Ddrwg gen i sbwylio dy hwyl Gwil.

Translation: I've parked in the space where the blue car is a few times - it is a diabled space. The silver car is not in a disabled parking spot. Sorry to spoil this nice story.

Anonymous said...

Wel Rhydian dangos dy £500. Ti gyfangwbl yn anghywir y tro hwn. Y broblam sydd gennyt yw dy fod yn gweld haul o berfeddau y rear passage yr unigolyn hwn a nei di ddim hyd yn oed cyfaddef dy fod eto wedi gwneud galwad anghywir.

GWILYM EUROS ROBERTS said...

Rhydain - Mae'r holl darn yma o dir wedi ei glustnodi ar gyfer gyrrwyr anabl - fel mae'r lluniau yn dangos. Nawn ni gyfarfod yno unrhyw adeg i mi gael profi'r pwynt i ti. Mi wnai hefyd rhoi £500 i Cangen Plaid Cymru Bont os dwi'n anghywir. Os ydwi yn gywir, gei di a gyrrwr y car rhoi £500 i Llais Gwynedd. Iawn? :-))

TRANSLATION: The whole of this area is designated for disabled drivers as the additional photo's clearly show. I am more than happy to meet you there anytime to prove my point to you. I will also give the Bontnewydd Branch of Plaid Cymru £500 if I am wrong. In return, if I am right, then you and the owner of the car can give Llais Gwynedd £500. Ok? :-))

rhydian fôn said...

Fel dwi wedi dweud Gwil, mae yn ddau le sydd wedi eu dynodi i bobl anabl. Mae un lle i'r anabl yn gyffredinol. Mae'r ddau le sydd wedi eu dynodi i geir arbennig gyda gyrrwyr anabl yn rai a ellir eu defnyddio gan eraill drwy wahoddiad. Mae gen i resymau da iawn i gredu fod gyrrwr y car arian wedi ei wahodd i barcio yma gan nad oedd y lle yn y cefn ar agor.

As I have said Gwil, there are two spaces reserved for specific cars with disabled drivers. There is a space as pictured which is open to the disabled generally. The spaces reserved for specific disabled drivers may be used for others by invitation - if the specific cars aren't there, nobody is losing out. I have good reason to believe that the driver of the silver car was invited to park in this space as the parking around the back was not open.

GWILYM EUROS ROBERTS said...

Rhydian - Ti'n newid dy stori rwan! Dywedaist yn wreiddiol nad oedd y safle lle barcwyd y car yn le i yrrwr anabl -Anghywir! Mae'r lle wedi ei glustnodi ar gyfer gyrrwr anabl...ti rwan yn dweud fod y perchennog wedi derbyn gwahoddiad i barcio yno!? Gan pwy yn union? Sgen ti dystiolaeth o hynny?
Pan wyt ti mewn twll, stopia dyllu...dwi'n edrych ymlaen i dderbyn y £500 achos dwi wedi profi dy fod yn anghywir ac ti wedi cydnabod hynny yn dy neges diwethaf. Ydi Llywydd dy Blaid yn defnyddio mannau parcio anabl mewn llefydd eraill yng Nghymru? - Paid dweud wrthai. Ydi gan ei fod wedi cael gwahoddiad i wneud hynny!?
TRANSLATION:
Rhydian, you're changing your story now! You originally stated that the space in question was not reserved for a disabled driver -WRONG! I have proved beyond all doubt that it is. You now want us to believe that the driver of the car in question was invited to park there!? By whom exactly? Have you got evidence to back this claim?
When you are in a hole my friend, take my advice, stop digging...I look forward to receiving the £500 as I have proved that you were wrong and you've confirmed this in your latest comment!
Does your Party's President park in other disabled parking spaces in other areas of Wales? Don't tell me, yes, because he's invited to do so!?

rhydian fôn said...

Mae'r stori yr un ac ydoedd yn wreiddiol. Mae dwy le parcio wedi eu dynodi i'r anabl - gyda dynodiad "CERBYD XXX YN UNIG". Mae yna un neu ddwy sydd yn agored i'r anabl - hynny yw, llefydd parcio anabl. Dydi'r rhai sydd wedi eu dynodi i gerbyd arbennig ddim yn cyfrif fel lle parcio anabl - hynny yw, does neb arall yn cael parcio yn y llefydd yma heb wahoddiad. Os nad yw'r person hwnnw yno, a ti wedi cael dy wahodd i ddefnyddio'r lle, be ydi'r broblem? Os wyt ti eisiau manylion, cysyllta berchennog y car arian. Ond a ddylet ti fod a tystiolaeth fod y car yn "dwyn" lle anabl yn hytrach na cael ei wahodd i barcio mewn lle sydd wedi ei ddynodi i un gyrrwr arbennig?

My story remains the same. There are two spaces reserved for specific disabled drivers - denoted "VEHICLE XXX ONLY". Ther is another one or two spaces open to all Blue Badge holders - that is, disabled parking space. The reserved spaces are not disabled parking - they are not open to anyone whoi is not that particular vehicle, except by invitation. If tha vehicle isn't there and you've been invited to park there, where's the problem? If you want to know more, I suggest you contact the car's owner. However, shouldn't you have some evidence that the car was "stealing" a disabled parking space, rather than being invited to park in someone else's reserved space before making these allegations?

GWILYM EUROS ROBERTS said...

Rhydian - Mae'r tystiolaeth yn siarad dros ei hyn. Does dim byd mwy i ddweud...mae dy deurngawrch di-amod i'w edmygu ond arnat ti £500 i Llais Gwynedd, fedri di yrru'r siec yma. Diolch.

TRANSLATED
The evidence speaks for itslef. There is nothing else to add...your unconditional loyalty is admirable, but you still owe Llais Gwynedd £500, you can send the cheque here. Thanks.

rhydian fôn said...

Your thirst for scandal regarding Plaid Cymru is ridiculous. Your comment to the Daily Post was:

“What if an old lady who was disabled wanted to park there? I would never park in a disabled parking bay and I’ve never done."

The old lady you talk about could not have parked there. It is a parking space reserved for one disabled driver only. It is not open to anybody else, disabled or not, except by invitation. Your pictures cleary show that they are reserved spaces.

GWILYM EUROS ROBERTS said...

Rhydian - The old lady couldn't have parked their cos the Plaid President had parked their first..he was'nt suppose to be their either was he!
Anyway...I think that this strory has run its course..."Thirst for scandal against Plaid"...I thought you said originally the man had done nothing wrong!? Where is the scandal then? No mention of the £500 you owe Llais I see?...And let me get this right, I am the one in the wrong here according to you? Hmmm...wrong again me thinks my friend.

rhydian fôn said...

Mai'm reit eglur i mi mai ti sydd yn anghywir yma. Byddai person a oedd wir yn poeni am berson iach yn parcio mewn lle anabl wedi gwybodi y dderbynfa, a gadael iddynt ddelio gyda'r mater. Mae dy awch am sgandal i wneud a'r Blaid wedi dy arwain i gymryd llun a'i ddanfon i'r wasg heb i ti geisio darganfod beth oedd yr gwir amgylchiadau.

I think it's quite clear that you are in the wrong. A person concerned that a non-disabled person was taking a disabled space would have notified the reception and let them sort it out. Your desire for scandal led you to take a picture to the press before you had bothered to ask what was happening.

Anonymous said...

Os ydi unrhyw un yn amau bod Llais Gwynedd yn llawn o dospotiaid diwerth sy'n gwneud dim byd ond cega'n ddisail, babiaidd a chwerw am Blaid Cymru, fe ddylen nhw gael cip ar y blogiad yma. Pathetig Gwilym, tyfa fyny wir dduw!

Anonymous said...

Mae'r ddau lun olaf yn dangos lle parcio anabl gwag, ydyn, ond nid yr un lle parcio a'r car arian yn y llun cyntaf - mae hyn yn berffaith amlwg, acv mae honni i'r gwrthwyneb yn gamarweiniol.

Anonymous said...

ma ishe bywyd arno ti, ffati

Anonymous said...

Rwyt ti'n gwneud ffwl o dy hunan gynghorydd. Sdim byd gwell gyda ti wneud gyda dy amser?

GWILYM EUROS ROBERTS said...

Rhydain - To think that you stated that the space was not originaly marked for a disabled person, you now protest that I should of told the receptionist!!! - How's about the driver should'nt have parked there at all anyway?

Anon - Despots...hmm am sefyll i fynnu dros be sydd yn iawn? Ti'm digon o ddyn /dynes i rhoi dy enw i dy neges...pathetic ta be?

Anon - Lle parcio i'r anabl ydi o dwi wedi dweud mi roi £500 i'r Blaid os dwi'n anghywir..mae'r dystiolaeth yn dangos yn glir fod fy mhres yn saff.

Anon - Diolch i ti am dy eiriau caredig y babi di asgwrn cefn xx

Anon - Ffwl? Yn ol chdi efallai? Ond mae fy nghydwybod yn glir ac oes ti'n iawn, mae geni i lawer o bethau gwell i'w wneud ac mi wnai barhau i'w gwneud mhw yn ei tro. Be ti'n ei wneud efo chdi dy hunain?...Sa chwilio am chydig o asgwrn cefn yn ddechra da 'fallai? Wedyn efallai fyddi di ddigon o ddyn neu ddynes i roi dy enw ar dy negeseuon bach winllyd.

GWILYM EUROS ROBERTS said...

Dwi erioed wedi cael cyn gymaint o ymateb i edefyn na dwi wedi cael i'r edefyn hwn.
Syndod sut mae parcio di-hid yn gwneud rhai pobol gynhyrfu cyn gymaint.
Fyddai ddim yn cyhoeddi dim mwy o sylwadau nac yn gwneud sylwadau pellach ar y mater....mae pethau llawer pwysicach angen sylw yn does?