29/07/2009

Trefniadau munud olaf - Last minute arrangements


Gyda'r Eisteddfod Genedlaethol mater o ddyddiau i ffwrdd mae unigolion, teuluoedd a mudiadau ledled y wlad yn brysur yn gwneud trefniadau munud olaf cyn ei throi hi tuag at Y Bala lle fydd y Brifwyl yn cael ei chynnal eleni.
Mi fydd gan Llais Gwynedd stondin yno (Rhif 504) felly piciwch draw yn ystod yr wythnos os byddwch yn ymweld gan y byddwn ni i gyd fel cynghorywr yno rhywben o bryd i'w gilydd drwy'r wythnos.
Mae wythnos yr Eisteddfod yn un prysur gyda'r pleidiau gwleidyddol i gyd ac amryw i fudiad yn cyhoeddi cynlluniau a strategaethau o pob math.
Tydi Llais Gwynedd ddim gwahanol ac os bydd yna unrhyw gyhoeddiadau o bwys mi cewch glywed amdanynt ar y blog hwn os na fyddwch yn gallu mynychu'r 'Steddfod.
Mae un peth yn saff, bydd y bwtias genai gan ei bod yn darogan tipyn o law am y dyddiau i ddod, wedi dweud hynny os bydd Steddfod eleni yn debyg i'r un diwethaf gynhaliwyd yn Y Bala yn 1997 mae'n anhebyg y wneith hynny amharu dim ar fwyniant neb.
Edrychaf ymlaen i'ch gweld yr wythnos nesa' ar stondin 504.


With the National Eisteddfod only a matter of days away, individuals, families and organisations across the country are making last minute preperations before heading towards Bala where this years event is being held.
Llais Gwynedd will have a stand there (No.504) so please feel free to drop in and say hello as all of us councillors will be there at one point or another during the week.
Eisteddfod week is usually busy with all the political parties and a host of organisations announcing new policy initiatives or strategies.
Llais Gwynedd will be no different and if there are any announcements of interest that will be made at the Eisteddfod, they will be posted on this blog in case you are unable to attend the event.
One thing is certain,I'll have my wellington boots with me as the weather forecast does not look to good. Having said that if this year's Eisteddfod will be anything at all compared to the one that was last held in Bala in 1997, then I very much doubt if the weather will dampen anyones enjoyment at this years festival.
I look forward to seeing you sometime next week on stand number 504.

0 comments: