30/09/2009

Diwedd Bwrdd Iechyd Lleol Gwynedd - The end of Gwynedd Local Health Board


Dyma ddiwrnod olaf bodolaeth Bwrdd Iechyd Lleol Gwynedd a teimladau cymysg sydd gen i am hynny.
Yn gyntaf dyliwn i nodi'n gryf nad wyf yn ffan o Bwrdd Iechyd Lleol Gwynedd am y ffordd ddaru nhw "ymgynghori" ar ddyfodol Ysbyty Coffa Ffestiniog ac yn groes i ddymuniad y gymuned leol, bygwth ei chau.
Diolch i brotestiadau'r gymuned ac ymdrechion y Pwyllgor Amddiffyn mae hi dal ar agor ac bydd adolygiad annibynol sydd wedi ei gomisynu gan y Gweinidog Iechyd ar ddyfodol yr Ysbyty yn cael ei gynnal mis Ebrill nesaf.
Pam y teimladau cymysg felly? Wel mae llawer yn teimlo fod ffurfio Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr (enw sydd yn llifo oddi ar y dafod!) yn mynd a penderfyniadau ymhellach oddi wrth y cymunedau mae nhw yn effeithio arnynt - wedi dweud hynny dwi wedi clywed o sawl cyfeiriad fod penneithiaid y Bwrdd newydd yn gweld gwerth mawr i ysbytai cymunedol fel sydd yma yn Blaenau, ffaith os yn wir fydd i'w croesawu.
Gwynt teg felly ar ol Bwrdd Iechyd Lleol Gwynedd a gobeithio bydd criw Betsi yn gwrando, yn gwarchod ac yn datblygu ein Ysbyty Coffa ni yma yn y Blaenau ac pan fydd yr adolygiad yn digwydd yn mis Ebrill y byddent yn ymrwymo i wneud hynny.


Today is the last day in the life of Gwynedd Local Health Board and I have mixed feelings about that.
Firstly I should add that I am no fan of Gwynedd LHB given the way that they ignored the view of this community when they "consulted" on the local Memorial Hospital's future a few years ago by recommending that the Hospital should be closed.
Thanks to the protests by the community and the campaigning by the Hospital Defence Committee the hospital is still open although an independant review regarding its future has been commissioned by the Assembly's Health Minister and is due to proceed in April 2010.
Why the mixed feelings then? Well, many believe that the establishment of the Betsi Cadwalader University Local Health Board (a name that flows freely off the tounge!) will take decisions away from the communities that they effect - having said that I have been told by various sources that some of the heads of the new Board see a lot of value in local community hospitals like we've got here in Blaenau, a fact that if it's true I warmly welcome.
So long! then Gwynedd LHB is what I say and I hope that the crew at Betsi LHB will listen, preserve and develope Ffestiniog Memorial Hospital and when the review to the hospital's future begins in April that they commit to do excactly that.

2 comments:

Ringothen said...

Dyna ni Gwilym - ar ôl hir addo dwi wedi mewngofnodi o'r diwedd. Felly dyma ddechrau ar adborth.

Mae dy frogarwch yn amlwg i bawb yn ogystal a dy deyrngarwch i d'etholwyr. Ond, fel mae cynghorwyr sir yn gyffredinol yn dueddol o wneud o dro i dro, mae nhw'n anghofio cadw llygad ar y targed.

Y targed yn yr achos hwn? Gofal iechyd a chymdeithasol o'r ansawdd uchaf a lle fo hynny'n bosibl sicrhau annibyniaeth unigolion yn eu cartrefi eu hunain. Nid yr adeilad (h.y. ysbyty) sy'n bwysig, ond y gwasanaethau.

Felly - Ysbytai Cymunedol o oes yr arth a'r blaidd? Does gen i ddim syniad beth yw costau cynnal Ysbyty Blaenau Ffestiniog, ond mi ddyfalwn ein bod yn siarad am ymhell dros filiwn y flwyddyn (bosib iawn ei fod yn llawer uwch). Wyt ti'n gwybod? Nawr - dychmyga mai miliwn ydyw - er mwyn gwneud y pwynt. Sawl person sy'n cael aros yn ysbyty Blaenau Ffestiniog? 30? Eto - dim syniad gen i.

Ond tybed petai'r miliwn o bunnoedd blynyddol ar gael i dalu am nyrsys cymunedol, meddygol cymunedol, therapyddion, ac ati ac ati yn Blaenau - meddylia am y peth - gwasanaethau gwych yng nghartref yr unigolyn - ac nid nifer fychan, ond cannoedd o unigolion. Ie, yr unigolion hynny sydd o bosib yn dy holi di am brinder gwasanaethau iechyd cymunedol yn yr ardal.

Nid yw'r adeilad yn bwysig. Gallai cynghorydd gyda gweledigaeth arwain syniadaeth am drefn newydd well, nid ceisio cadw status quo yr hen fyd sydd ddim yn addas ragor.

Wyt ti, neu fi, eisiau mynd i'r ysbyty yn Blaenau neu gartref henoed? Wel efallai y bydd rhaid yn y pen draw, ond oni fyddai'n well gwybod fod gwasanaethau parod, rhad ac am ddim, o safon uchel yn y gymuned i bawb.

Sori am y rant, ond dwi hefyd eisiau gweld gwasanaethau o'r safon uchaf - y gorau un - i bobl y Blaena, ond dwi eisiau rhywbeth amgenach nag achub hen adeilad.

GWILYM EUROS ROBERTS said...

Ringothen - Croeso, a diolch am yr adborth.

Dwi ddim yn cytuno a thi mod fy llygad oddi ar y targed ar y mater yma.

Gwelwyd ni yn colli'r frwydur i gadw Bryn Llywelyn ar agor -serch hynny bydd uned dimentia newydd yn agor ym Mryn Blodau yn y Gwanwyn ac fydd y gwaith o adeiladu 28 o unedau cosgodol newydd a modern yn Llan Ffestiniog yn dechrau o fewn y misoedd nesaf felly bydd gofan "annibynol" yn cael ei ddarparu yn dda iawn yn yr ardal hon maes o law.

Os collwn ni yr ysbyty yna ni fydd gwlau meddygol na gofal lliniarol ar gael yma..Porthmadog, Llandudno neu Fangor fydd yr agosa' i ni yma.

Eisioes bu adegau ble nad oedd gwlau ar gael yn Allt Wen ac bu rhaid rhoi gofal i pobl yma yn Stiniog ac yn aml mae achosion o "bed blocking" yn digwydd ym Mangor gan nad yw claf digon da i fynd adra ond byddent digon da i dderbyn gofal a thriniaeth yma yn Blaenau.

12 gwely meddygol sydd yma ac mae lle i gnyddu hynny i 16...16 gwely meddygol ar gyfer poblogaeth o dros 5,000...tydi hynny ddim yn llawer nac ydi?

Mae'r adeilad yn gadarn, mewn cyflwr da ond angen uwchraddio chydig yma ac acw...yn yr hinsawdd economaid presennol (a thoriadau mawr ar y gweillmewn gwariant cyhoeddus)byddai ei ddatblygu yn llawer rhatach ac cynnig gwerth am arian o'i gymharu ac adeiladu unrhyw beth tebyg i hynny yn newydd.

Ti'n gwneud camgymeriad bach yn rhagdybio y byddai pawb yn dymuno neu'n gallu cael ei gwarchod adra er mae'n debyg mai dyna fyddai dymuniad ni i gyd yn enwedig yn ein dyddiau olaf.

Mae angen ysbyty gyda gwlau meddygol yma i gyd-fynd gyda;r datblygiadau.

Mae colli aelod annwylo'r teulu yn ddiawl o straen heb orfod teithio i Fangor neu Llandudno yn ddyddiol, dwi wedi siarad gyda sawl teulu yn yr ardal yma oedd yn gweld yr ysbyty lleol yma fel lle urddasol, cynnes a chroesawgar iddynt wrth ofalu a chynnal eu annwyliad yn ei dyddiau olaf gan nad oedd modd iddynt fod gartref...fedrai ddim rhoi pris ar hynny ond yn reddfol credaf mai'r peth cywir yn foesol ac yn egwyddorol ydi ymgyrchu i sicrhau parhad di amod i'r adnodd pwysig hwn i'n cymuned ni.

Diolch i ti am gynnig dy ddadl mewn ffordd call a theg...ond chydal ar Sais, y tro hwn, "we beg to differ".

Edrych ymlaen i drafod materion ymhellach gyda thi o bryd i'w gilydd.