
Fel mae pawb yn gwybod erbyn hyn, mae grwp Plaid Cymru ar Gyngor Gwynedd yn benderfynol o gynnig sawl toriad a chynydd mewn cost gwasanaeth sydd yn mynd i gael effaith andwyol ar wasanaethau rheng flaen i pob un ohonom sydd yn byw ac yn gweithio yma.
O fabwysiadu rhai o gynigion Plaid Cymru, fydd y gweithlu benywaidd o fewn y Sir yn dioddef yn enbyd hefyd.
Gadewch i mi egluro...
Mae Plaid Cymru eisioes wedi neu yn bwriadu:
*Cymeradwyo codiad o 50% mewn ffioedd gofal yr henoed
*Cau cartref gofal Bryn Llywelyn ac mae nhw'n awyddus iawn i gau oleiaf 8 cartref arall.
*Cynyddu pris cinio ysgol £1 y dydd
*Torri grant o £250,000 i Mudiad Ysgolion Meithrin fyddai'n golygu cau bron pob un o gylchoedd meithrin Gwynedd.
*Cau 5 o ysgolion cynradd ym Mro Dysysnni ac mae nhw eisiau cau oleiaf 20 o rhai eraill ar draws y Sir.
Ym mhob un o'r achosion uchod, merched sydd yn llunio canaran uchel iawn, iawn o'r gweithlu fydd yn cael ei hefeithio'n uniongyrchol gan y penderfyniadau yma.
Mewn llawer i deuluoedd yng Ngwynedd, does dim dewis ond i'r ddau riant weithio ac mewn amryw o achosion er nad yw'r wraig yn ennill "mega bucks" o'r engreifftiau uchod mae nhw yn ennill digon i ysgafnhau'r baich ariannol cynyddol sydd ar deuluoedd y dyddiau yma.
Os bydd Plaid Cymru yn llwyddo gyda'r cynigion gwarthus yma, pa effaith fydd hynny yn gael yn gymdeithasol? Fydd teuluoedd ifanc ble mae angen i'r gwr a'r wraig fod yn gweithio yn aros yn y Sir? Dwn i ddim? Ond yn sicir, o edrych ar y ffeithaiu yma a'i pwyso a mesur, unwaith eto fe welir yn glir nad oes gan y Blaid ddim strategaeth na dim affliw o syniad sut mae rhedeg a rheoli gwasanethau cyhoeddus yn effeithiol.
Os ydych yn ddynes yng Ngwynedd efallai y dylech ystyried o ddifri cyn pleidelisio i'r Blaid eto, gan mae'n berffaith amlwg nad ydynt yn ystyried eich cyfraniad pwysig chi i'n economi ni nac i'n cymdeithas ni.
Like everybody knows by now, the Plaid Cymru group on Gwynedd Council are determined to push ahead with planned cuts and increased charges that will have a severe effect on frontline services for all of us who live and work here.
By adopting Plaid Cymru's proposals, the female workforce in Gwynedd will be hit hardest.
Let me explain....
Plaid Cymru have already or they intend to:
*Implement a 50% increase in care charges on the elderly
*Closed Bryn Llywelyn Care Home and they want to close at least another 8
*Increase the cost of school dinners by £1 per day
*Cut the £250,000 garnt to the Welsh medium pre-school group Mudiad Ysgolion Meithrin which will in essence see all their groups in Gwynedd close.
*Close 5 primary schools in the Bro Dysynni area and they have plans to close at least another 20 across the county.
In all of the cases mentioned above, women form the largest part of the workforce by a long way and it is their employment that is at stake with these decisions.
Within many families across Gwynedd, there is no option but for both parents to work and lots of families although the woman may not be earning "mega bucks" from many of the above examples, their income goes some way to ease the ever increasing financial burden that is so often put upon families these days.
If Plaid Cymru get away with implementing these disgusting proposals,what effect will they have socially? Will the young families that need both the male and female to be working, stay in the County? I don't know? But certainly by looking at all of these facts and weighing them up, once again it becomes quite clear that Plaid Cymru has no vision, startegy or a clue about running and managing effective public services.
If you are a woman in Gwynedd, maybe you should seriously consider whether or not to vote for Plaid Cymru, as they clearly do not value the important contribution that you make to our county economically or socially.


1 comments:
Dwi wedi darllen adroddiad gan un o cyfarwyddwyr Cyngor Gwynedd lle oedd o yn nodi bod un o'r heria mwya yn Gwynedd oedd cadw Merched Cymraeg yma, a dwi'n cytuno hefo. Felly mae'n cwestiwn dilys iawn i ofyn Gwil, ond rhaid i fi dweud gennai syniad beth ydi ei weledigaeth nhw, a hynnu yw i tynnu nol o ardaloedd wledig ac i crynodi mewn ambell i amddiffynfa trefol.
Post a Comment