
Pythefnos yn ol roedd arolygwyr ESTYN i mewn yn Adran Addysg Cyngor Gwynedd i arolygu rheolaeth a threfniadaeth y gwasanaeth addysg yn ganolog.
Yn ol y Cyng.Dyfrig Jones, mae'r adran wedi cael sgor o 3 (1 yn rahgorol a 5 yn wael) am berffomiad presenol sydd yn llai na 50% ac sydd yn siomedig iawn o'i gymharu a pherfformiadau ein hysgolion sydd hefyd yn cael eu arolygu gan ESTYN.
Mae angen felly gofyn cwestiynau treiddgar, am reolaeth ac arweiniad yr Adran, yn wleidyddol ac yn ymarferol.
Yn ol y cyfaill o Gerlan mae'r Cyngor hefyd wedi sgorio 3 am nad yw'n barod i wneud penderfyniadau anodd ynglyn ac ad-drefnu addysg yn y Sir.
Mae'n mynd mor bell a dweud fod y Cyngor wedi bod ar fin derbyn sgor o ddau nes i'r arolygwyr gael cyfarfod ffurfiol gyda un o'r Cynghorwyr ac yna eu bod nhw wedi penderfynu tynu marc oddi ar y sgor.
Fel un gafodd sgwrs ffon gyda un o'r arolygwyr, tydi hyn ddim syndod i mi a dylai fod o ddim yn syndod i neb arall chwaith o gofio'r ffordd cwbwl annerbyniol mae'r Adran a'r Arweinydd Portffolio wedi delio gyda'r mater hyd yma.
Dwi ddim yn gweld pethau yn gwella chwaith nes bydd yr Adran a'i Arweinydd yn barod i fod mwy cymodlon a chynhwysol wrth fynd ati i enyn cefnogaeth i'w cynlluniau.
DIWEDDARIAD - Mae Dyfrig bellach wedi tynnu ei edefyn gwreiddiol yn ol ac wedi rhoi hwn yn ei le. Fodd bynnag mae'r hyn dwi wedi ysgrifennu uchod yn ymatebiad i'r honiadau wnaeth o yn ei edefyn gwreiddiol. Roedd Grwp Plaid Cymru yn cyfarfod nos Fercher, sgwn i a'i yn y fan honno glywodd o'r "sibrydion" a gan bwy y clywodd o nhw?..Diddorol fyddai cael gwybod yn te?
A fortnight ago a team of ESTYN inspectors spent a week inside Gwynedd Council's Education Department to inspect management and operational matters centrally.
According to Cllr.Dyfrig Jones, the Department scores a 3 (1 being excellent - 5 poor)for its current performance which is less than 50% and very disappointing when compared with our schools marks which are much better in comparison (they are all inspected by ESTYN too).
Some very pertinent questions therefore need to be asked about the management and leadership of the Department practically and politically.
According to the friend from Gerlan, the Council has also scored a 3 in relation too its plans for re-organising primary education provision in the County.
He goes so far as to suggest that the score would have been a 2 until one of the inspectors had an officialmeeting with a Councillor after which he decided to mark it down to a 3.
As I had a telephone conversation with one of the inspectors, this does not surprise me at all and it shouldn't really be a surprise to anyone else either given the totally unacceptable way that the Department and the Portfolio Leader have dealt with the matter so far.
I cannot envisage an improvement in this score until the Department and its Leader begin to listen, compromise and be more inclusive in their attempts to re-organise the service in order to win support for their proposals.
UPDATE - Dyfrig has now removed his original posting and replaced it with this. What I have written above is a direct response to alligations made by him in his original posting. The Plaid Cymru group met on Wednesday night, I wonder if it was there that he heard these whispers?...If so, I'd be interested to know from who's mouth they were whispered?..The answer would be intersting wouldn't it?


24 comments:
Pwynt bach pedantic: Pan mae sgor rhwng 1 a 5, mae 3 yn hafal i 50%. Nol i'r ysgol am fwy o wersi maths i chdi...!
Sach llian a llydw!..Roeddwn i wastad yn cymryd mai hanner 5 oedd 2.5 serch hynny dwi'n cymryd y pwynt (pedantic ;-) a byddaf yn gofyn am fwy o waith cartref maths y penwythnos 'ma :-)
Dwi ddim yn siwr am y sgors. Ydy nhw golygu rhwybeth? Mae angen canolpwyntio am y dysgu yn hytrach 'na am yr holl rhifau, fi'n credu.
Mae'n od i fi bod athrawon yn gorfod dysgu cymaint o "subjects". Mae gormod o blant mewn un stafell dysgu.
Mae 3 yn golygu "Nodweddion da yn gorbwyso diffygion".
Cytuno 100% gyda canolbwyntio ar ddysgu.Ac yma yng Ngwynedd mae athrawon a staff ein ysgolion yn gwneud yn arbennig o dda.
Mewn ysgolion cynradd, does dim dewis gan athrawon ond i ddysgu ystod o bynciau. Mae nhw yn gwneud hynny'n dda ac mae canlyniadau yn profi hynny.
Ynglyn a mater niferoedd mewn dosbarth, mae hynny yn broblem mewn rhai ysgolion.Byddai modd gostwng y niferoedd hynny yn syth petai'r Llywodraeth Llafur/Plaid yng Nghaerdydd yn cyllido addysg yn gywir gan eu bod ar hyn o bryd yn rhoi £500 y pen yn llai tuag at addysg ein plant ni yma yng Nghymru o'i gymharu a faint mae addysg plant yn Lloegr yn cael ei gyllido.
Gan nad oes gen i ffynhonell ar gyfer y stori, dwi wedi ei thynnu oddi ar y blog. Bydd yr adroddiad yn cael ei gyhoeddi ar ol y Nadolig, ond dwi'n credu bydd Liz Saville Roberts yn cyfeirio ato yn y Cyngor Llawn ar y 10fed.
Y gwir ydi bod Estyn yn bryderus ynglyn a gallu'r Cyngor i weithredu newidiadau angenrheidiol. Nid beirniadaeth o gynllun ad-drefnu addysg gynradd y Cyngor sydd yn adroddiad Estyn, ond beirniadaeth o'r rhai sydd yn sefyll yn ei ffordd.
Dydi dy ffethiau ddim cweit yn iawn tro yma Gwilym.
Roedd adroddiad Estyn yn sgorio Addysg ar nifer o is-rannau ee gwella ysgolion, Angenion arbennig, arweiniaeth ac ati.
Un sgor o'r nifer oedd y 3 ti'n son amdano, roedd sgoriau eraill yn yr adroddiad yn 1 a 2 - (yn ol pob son wrth gwrs - does dim adroddiad wedi ei llunio eto).
Ar y llaw arall dwi'm yn gweld Estyn yn newid barn am radd ar ol siarad ac un person - stori wellt 'di honno. Pa bynnag ran o'r adroddiad sy'n derbyn gradd '3', doedd y rheswm ddim yn codi o gyfarfod gyda un cynghorydd.
Dyfrig - Mae dy sylw di yn gwbwl amhygoel.
"Gan nad oes gen i ffynhonell ar gyfer y stori, dwi wedi ei thynnu oddi ar y blog".
Felly neud y stori i fynnu nes di? Peth anghyfrifol i'w wneud yn yr hinsawdd presenol ti'm yn meddwl?
"Bydd yr adroddiad yn cael ei gyhoeddi ar ol y Nadolig, ond dwi'n credu bydd Liz Saville Roberts yn cyfeirio ato yn y Cyngor Llawn ar y 10fed".
Onid fyddai hynny yn anheg, anghyfrifol ac yn amhroffesinol heb i bawb arall gael cyfle i'w weld a'i wyntyllu - Mi fedr Liz fod yn ddewisiol iawn efo pa ddarnau y bydd hi'n dyfynu oddi wrtho a'i gyd-destun.
"Y gwir ydi bod Estyn yn bryderus ynglyn a gallu'r Cyngor i weithredu newidiadau angenrheidiol. Nid beirniadaeth o gynllun ad-drefnu addysg gynradd y Cyngor sydd yn adroddiad Estyn, ond beirniadaeth o'r rhai sydd yn sefyll yn ei ffordd".
Sylw gwarthus o gofio nad ydi'r adroddiad wedi ei gyhoeddi eto, nad oes gen ti unrhyw sail iddo ac o gofio nad oes gen ti "ffynhonhell" i dy stori. Mae genai ofn mai siarad ar dy gyfer wyt ti unwaith eto frawd. Tro nesaf cyn sgwennu fath lith, gwna'n saff o dy ffeithiau!Ond mae'n debyg fod hynny'n gofyn gormod, felly dal ati i gyhoeddi dy gelwyddau.
Anon - Diolch i chi am eich sylw. NID fi sydd wedi son am y sgor NA chynnwys yr adroddiad, ail adrodd yn union yr hyn mae Dyfrig Jones eisioes wedi ei honi ydw i wedi ei wneud.
Mae'n amlwg fod ei ffeithiau o'n anghywir gan ei fod o rwan wedi tynnu'r honiadau'n ol oherwydd fel yr ydych chi newydd grybwyll nid oedd ei ffeithiau o'n gywir.
Diolch am ategu yr hyn oeddwn i eisioes yn ei gredu am beth roedd y cyfaill o Gerlan wedi sgwennu.
"Mi fedr Liz fod yn ddewisiol iawn efo pa ddarnau y bydd hi'n dyfynu oddi wrtho a'i gyd-destun. "
Go brin byddai hynny yn digwydd - NOT!
Yn union!
Pan dwi'n deud nad oes gen i ffynhonell ar gyfer y stori, dwi'n amlwg yn cyfeirio at ffynhonell wedi ei chyhoeddi. Pan ysgrifenais i'r cofnod yn wreiddiol, roeddwn i o dan yr argraff bod yr adroddiad wedi ei gyhoeddi, ond wedi edrych ar wefan Estyn, fe sylweddolais nad dyna'r achos. O ystyried hyn, fe dynais i'r cofnod i lawr.
Felly naci, nid dyfeisio'r stori nes i. Ond gan nad oes gen i dystiolaeth i gefnogi'r hyn yr oeddwn i'n ei ddweud, dwi wedi ei thynnu oddi ar y blog.
Dyfrig - Hmmm, swnio fel tipyn o smonach i mi gyfaill...Wedi dweud hynny, nid dyma fyddai'r tro gynta i Blaid Cymru wneud smonach ar y Cyngor gyda addysg yn nace? Y gwir plaen ydi eich bod mewn tipyn o dwll erbyn hyn...Onid y peth gorau i chi wneud felly fyddai stopio tyllu!?
tydy Dyfrig ddim yn tyllu twll dyfnach a dyfnach iddo fo ei hyn yn fama? Ella sa'n well iddo roi taw arni nes iddo dyfu i fyny ychydig a chael profiad o fywyd go iawn?
Cyfangwbl nid yw hyn yn dderbynniol. Cwyn i'r ombwdsman gan y cyhoedd neu gan gynghorydd yw'r unig ffordd i sortio hyn allan.
Fel mae'n digwydd mewn ysgol, mae Estyn yn adrodd ar lafar ar ddiwedd y cyfnod arolygu. Maent yn adrodd y lefelau a rhoi rhesymau bras ar sut ddaethant i'r casgliad. Mae staff a llywodraethwyr yr ysgol felly yn gwybod be ydi'r graddau a does dim yn eu rhwystro rhag adrodd hyn. Ymhen rhyw 6 wythnos caiff yr adroddiad terfynnol, swyddogol ei chyhoeddi fel y gellir dyfynnu ohonni.
Dwi'n siwr y bod hawl gan y cyngor i adrodd yn fras am y lefelau a'r rhesymau cyn i'r adroddiad gael ei chyhoeddi yn llawn. Fyddai ddim pwynt i Liz na neb arall gam ddehongli na dethol a dewis ei 'hoff' rannau gan y bydd yr adroddiad terfynnol yn dweud y stori i gyd.
Fel mae Anon yn son ynghynt, fyddai Estyn byth yn newid barn am radd ar ol siarad ac unigolyn, mae'n rhaid iddynt weld tystiolaeth neu'r 'lack' ohonno cyn dod i farn. peidiwch a llyncu'r stori honno.
Anon - Diolch am y cyfraniad diwethaf ac am grynhoi fel mae pethau'n sefyll.
Y cwestiwn yma Anon (yr un diweddaraf felly) ydi os oes 'adroddiad yn ol' ffurfiol wedi digwydd.
Mewn achos ysgol dydi'r arolygiad ddim drosodd nes bod y llywodraethwyr wedi derbyn adroddiad llafar ffurfiol. Hyd hynny mae'n dal yn bosibl i raddau a chanfyddiadau newid.
Felly ni fyddai'n briodol i staff drafod yn gyhoeddus yr adroddiad maen nhw wedi ei dderbyn hyd i'r adroddiad ffurfiol sy'n cau'r broses ddigwydd.
'Dwi'n cymryd bod adroddiad ffurfiol i rhywun neu'i gilydd(Bwrdd y Cyngor?)yn cau archwiliad Awdurdod Addysg.
Os oes adroddiad felly wedi digwydd, does yna ddim problem efo trafod y mater ar y We.
Ar y llaw arall, os oes yna adroddiad anffurfiol (i'r staff dyweder) wedi digwydd, ond nad oes yna un ffurfiol wedi bod, yna gellir dadlau bod trafodaeth gyhoeddus - fel hon - yn llygru'r broses, a byddai hynny'n codi cwestiynau cyfreithiol.
Cai - Sylw teg a sylw dilys iawn. Dyna pam roeddwn i methu credu fod Dyfrig wedi gwneud yr hyn y wnaeth o.
Unwaith oedd o wedi gwenud yr honiadau y wnaeth o ac ychwanegu at hynny mewn sylwadau mewn arena cyhoeddus fel ei flog o ar blog yma, yna'n naturiol mi oedd o yn mynd i enyn diddordeb ac arwain i ymatebion a thrafodaeth pellach ar y mater.
'Dwi'n gwybod nad chdi gigciodd y bel yma gyntaf, ond mae yna drafodaeth ar y mater ar dy flog di - a chdi sy'n gyfrifol am beth sy'n cael ei ddweud ar hwnnw.
Na, caniatau sylwadau pobl eraill ydw i ac ymateb iddynt.
Ti'n iawn mai nid y fi ddaeth a'r mater yma i'r arena cyhoeddus. Aelod o'r Blaid wnaeth hynny er mwyn ceisio sgorio pwyntau gwleidyddol rhad.Dwi yn meddwl ei bod hi'n iawn i pobl gael datgan barn ar yr hyn oedd o'n ei honi a dyna sydd yn digwydd yma.
Que Sera, Sera
Mae 'na ddau beth sydd angen eu hateb yn y fan hyn
1) A oedd hi'n briodol i mi fod yn trafod yr adroddiad ar fy mlog?
Mae BlogMenai ac un o'r cyfranwyr di-enw yn amlinellu'r broses o roi adroddiad ffurfiol llafar, sydd yn cau pen y mwdl ar y broses arolygu. Fy nealltwriaeth i yw bod yr adroddiad llafar hwnw wedi ei roi i'r Adran Addysg, ac felly mae'r cyfnod arolygu swyddogol wedi dod i ben. Felly dwi ddim yn credu i mi dorri unrhyw reol. Ond pan dynnais i'r cofnod oddi ar fy mlog, doeddwn i ddim yn siwr beth oedd y sefyllfa, ac felly roeddwn i'n credu ei bod hi'n ddoeth dileu'r cofnod tan yr oeddwn i'n fwy pendant. Erbyn hyn, fel dwi'n ei ddweud, dwi wedi cael fy sicrhau nad ydw i wedi torri unrhyw reolau.
2) Ailadrodd sylwadau.
Mae gen i ofn bod dy afael di ar y gyfraith yn ddigon simsan ar adegau, Gwilym. Drwy "ganiatau" sylwadau pobl ar dy flog, rwyt ti'n cymeryd cyfrifoldeb cyfreithiol drostynt. Petawn i'n enllibio rhywun yn yr neges hon, fe fyddai cyfrifoldeb arno ti i beidio a chyhoeddi'r sylw. Petai ti'n gwrthod gwneud hynny, fe fyddet ti yr un mor euog o enllib a minnau. Mae dy gyfrifoldeb di dros y blog yma yr un fath a chyfrifoldeb golygydd dros ei bapur newydd. Mae croeso i chdi anghytuno a mi, ond fel rhywun sydd wedi bod yn olygydd cylchgrawn, mae gen i beth profiad o gyfraith newyddiadurol. Dwi'n dy sicrhau di mai ffaith ydi hon, nid barn.
What will be, will be :-))
Dyfrig - Dwi'n deallt rheolau enllib yn reit dda...a dwi hefyd yn deallt mai fy nghyfrifoldeb i ydi y sylwadau dwi'n caniatau ar y blog yma,dyna pam ydw i ddim yn gadael DIM BYD i ymddangos yma nes ydw'i wedi ei gymeradwyo a creda fi,, mae na sylwadau "dodgy" iawn yn cyrraedd o bryd i'w gilydd a dwi ddim a wnai byth eu cyhoeddi.
Post a Comment