08/11/2009

Faint o Gynghorwyr Sir ddylai Gwynedd gael? - How many County Councillors should Gwynedd have?


Neu be ddylai'r cwestiwn fod ydi...Faint o Gynghorwyr Sir sydd angen i redeg Cyngor Gwynedd?
Mae'r Comwisiwn Ffiniau yn dweud y dylai un cynghorydd gynrychioli oleiaf 1,750 o etholwyr. Felly y tebygolrwydd yma yn ardal y Blaenau yw y bydd y Ward ydw i'n ei chynrychioli, Diffwys a Maenofferen (850 o etholwyr) yn diflannu ac y ddwy Ward arall yn cynyddu yn eu niferoedd fydd yn golygu wedi'r etholiadau lleol nesaf yn 2012mai 2 Gynghorydd Sir fydd yn cynrychioli Blaenau a Llan yn hytrach na'r 3 presennol.
Yn bersonnol dwi'n credu y dylai niferoedd y Cynghorwyr Sir yng Ngwynedd fynd i lawr o'r 75 presennol i 50...Gwn fod eraill yn awyddus i gadw'r nifer o gwmpas 60, un peth sydd yn sicir, erbyn yr etholiadau lleol nesaf bydd llai o seddi ar y Cyngor Sir, bydd hynny yn siwr o wenud pethau'n ddiddorol dybiwn i?


Or maybe the question should be....How many County Councillors are needed to run Gwynedd Council?
The Boundary Commission recommends that one councillor should represent at least 1,750 electors. Therefore the likelyhood here in the Blaenau area is that the Ward that I currently represent, Diffwys and Maenofferen (850 electors) will disappear and the other two Wards will increase in numbers and that the next local elections in 2012 will be for 2 seats representing Blaenau and Llan instead of the current 3.
I personally beleive that the number of County Councillors in Gwynedd should be reduced from the current 75 to 50....I know that others are keen to keep the numbers around 60, one thing is sure, by the next local elections, there will be less seats on the County Council and that will certainly make things more interesting I imagine?

3 comments:

Me said...

75 councillors? Good grief, what a shock! Less is more, same goes for MPs and AMs. Politics is bust.

Anonymous said...

Cynghorydd Aeron Jones? Ydw i'n iawn i ofyn ai'r Cynghorydd Aeron Jones sydd ar Gyngor Gwynedd yw'r "Me" uchod sydd yn synnu at faint o gynghorwyr sydd ar gyngor Gwynedd?

Ac yn ymateb yn Saesneg?

Ai dim ond y fi sy'n gweld hyn ychydig bach yn rhyfedd? Oni ddylai cynghorwyr wybod faint o gynghorwyr sydd ar y cyngor? Neu efallai na fu ef erioed mewn cyfarfod o'r Cyngor? Dwm im wir!

GWILYM EUROS ROBERTS said...

Anon - Rargian fawr, sgen i ddim syniad pwy ydi Me fwy na sgen i syniad pwy ydych chi.