11/12/2009

Brad yr aelod lleol - Betrayed by the local member


Wrth edrych yn ol ar y drafodaeth ysgolion yn y Cyngor ddoe, y cyfraniad mwyaf "bizarre" o'r p'nawn oedd un y Cyng.Dewi Owen o Aberdyfi a gynigiodd i gau ysgol y pentref yn 2014 a hefyd bledleisiodd yn groes i'm gwelliant i ac i farn ei gymuned leol.
Dwi ddim yn adnabod Dewi yn dda ond mae ei ymddygiad ar y mater ysgolion wedi bod yn rhyfedd ers y dechrau ac ni amlygwyd hynny mwy nac ar lawr y Cyngor ddoe.
Mae o wedi bradychu ei fobol ac mi fentrai ddweud rwan y bydd Dewi Owen ar y blaen i gau ysgolion eraill ar hyd a lled y Sir.
Sgwn i faint fydd wedi cau erbyn yr Etholiad Lleol nesaf? Mae un peth yn saff, fydd Dewi ddim yn cynrychioli Aberdyfi wedi hynny...Fedrai ddim gweld hynny rhywsut gan fod y be wnaeth o ddoe yn anfaddeuol ac does genai ddim amheuaeth y wneith ei etholwyr o ddim anghofio hynny!


Looking back on yesterday's debate on the schools, the most bizarre contribution of the afternoon was made by Cllr.Dewi Owen from Aberdyfi who proposed to close the village school there in 2014 and who also voted against my amendment to keep the school open.
I don't know Dewi that well, however from what I have seen, his behaviour regarding the school's matter has been very odd, and that was no more so obvious than on the floor of the Council yesterday.
He has betrayed the people who elected him and I will venture to say that Dewi Owen will now be at the forefront of the campaign to close as many other schools as he can across the County from now on.
I wonder how many will have closed before the next Local Elections? One thing is certain Dewi Owen won't be representing Aberdyfi after then. For the life of me, I can't see his electors forgetting how he betrayed them yesterday, for it was unforgivable and they deserve better!

5 comments:

Dyfrig said...

Gwelliant Dewi oedd bod Ysgol Aberdyfi yn aros ar agor tan 2014, yn hytrach na chau yn 2011, er mwyn gweld a fyddai niferoedd plant yn codi. Roedd y modd y cyflwynwyd y gwelliant ychydig yn ddryslyd, ond dwi ddim yn credu bod yr hyn a wnaeth Dewi yn gyfystyr a brad.

GWILYM EUROS ROBERTS said...

Dyfrig - Doedd dim son am weld os byddai nifer y plant yn codi..Gofynais y cwestiwn dwy waith iddo ac be ddywedodd oedd "Cadw'r ysgol ar agor nes bydd yr ysgol fro wedi ei hadeiladu" i mi roedd hynny yn gyfystur a chau, dim bwriad i'w chadw ar agor ac mi roedd pobol Aberdyfi siaradais a hwy wedyn yn hynod flin ac yn siomedig dros ben..."Mae o wedi ein bradychu!" oedd eu geiriau nhw.

Anonymous said...

Dwi'n meddwl mae'r peth gora fasa Dewi yn gallu ei wneud ydi ymddiswyddo'n reit handi mae o wedi gadael cymuned Aberdyfi i lawr ac mae pawb yn ardal Dysynni wedi siomi yn ei ymddygiad haerllyg a gwirion ddoe yng Nghaernarfon, mae'n amlwg fod Plaid Cymru wedi gaddo gormod iddo.

Anonymous said...

Efallai ei fod yn syniad i'r rhan fwyaf o 'gynghorwyr y blaid' roi'r gorau iddi? Os wyf i wedi deallt yn iawn, mae Cynghorwyr i fod i gynrychioli y bobl sydd yn byw yn eu ardal?? Os ydy'r gymuned am gau ysgol. Iawn, dylai'r cynghorwr gefnogi hyn. Ond os yw'r gymuned am gadw'r ysgol, onid ddylai'r cynghorwr lleol eu cefnogi??????

Druan o'r 609 a bleidleisiodd i blaid cymru flynyddoed yn ol.

Anonymous said...

GWARTHUS ! Gobeithio y bydd etholwyr yr ardal yn ymateb yn y bwth pledleisio pan ddaw etholiad. Siaradodd y dyn rwtsh llwyr. Gobeithio bydd etholwyr yn cofio hynny. Gobeithio wir fod gan LLG rywun yn sefyll yn yr etholaeth yma pan ddaw yr amser.