
Yn gynnar y prynhawn yma derbyniais neges ar fy ffon symudol oedd wedi ei adael neithiwr yn dweud fod difrod mawr wedi ei achosi i feddi yn fynwent Bethesda yma yn y Blaenau.
'Dwi newydd ddod 'nol o'r fynwent 'rwan ac roedd yr olygfa yno yn un drist a chwbwl gwarthus.
Hyd yr wyf i'n deallt, rhywben nos Wener bu rhywun neu rhyw rhai yn y fynwent a difrodi dros 50 o feddi yno!
Gall geiriau ddim disgrifio be dwi'n feddwl o'r rhai sydd wedi gwneud hyn...SCUM ydi'r gair Saesneg er nad yw hynny yn ddigon i'w disgrifio.
Tra roeddwn yn y fynwent roedd tua 12 o deuluoedd yno yn edrych i weld os oedd bedd eu annwyliad dal yn gyfa. Deuthais ar draws un gwraig lleol, dwi'n ei adnabod yn iawn oedd yn dweud bod bedd ei thad wedi cael ei difrodi.
Dwi hefyd wedi gweld beddi plant sydd wedi eu difrodi! - Fel tasa galar y teuluoedd yma ddim yn ddigon, mae nhw rwan yn garo delio gyda'r trallod yma hefyd.
Roedd degau o deuluoedd wedi ymweld a'r fynwent ddoe yn ol be dwi'n ddeallt, eto rhai ohonynt yn eu dagrau gan fod y SCUM wedi ymweld a beddi eu annwyliad y noson cynt.
Nid dyma'r tro cyntaf i hyn ddigwydd yn y fynwent hon. Dwi rwan am alw ar yr Hddlu a Chyngor Gwynedd i wneud popeth yn eu gallu i warchod y fynwent yn well.
Dwi hefyd yn gofyn i bwy bynnag sydd yn gwybod unrhywbeth ynglyn a phwy sydd wedi gwneud hyn i ddod ymlaen gyda enwau atai i neu yn unionsyth at yr Heddlu.
Mae'n rhaid dwyn y person/pobol yma i gyfraith cyn gynted ac sy'n bosib ac dylai'r llysoedd ddelio a hwy yn y modd mwyaf llym ac sy'n bosib.
Mae yma yn y Blaenau heddiw teuluoedd blin iawn a thrist iawn oherwydd gweithredoedd aflan y SCUM a ymwelodd a fynwent Bethesda nos Wener.Early this afternoon I received a message on my mobile that had been left last night, telling me that a number of graves had been desecrated and damaged at Bethesda Cemetary here in Blaenau Ffestiniog.
I've just got back from the cemetary now and the scene that I saw was heartbreaking and utterly disgraceful.
As I understand it, on Friday night someone went to the cemetary and damaged over 50 graves located across the cemetary, some belonging to children!
I have nothing but utter contempt for the SCUM that have caused such mindless damage and terrible heartache to the grieving families.
Whilst I was there this afternoon, at least 12 families were there checking their loved ones graves for any damage. I spoke to one lady whose late father's grave had been damaged and desecrated.
I understand that dozens of families had also visited the cemetary yesterday and from what I have been told, some were understandably upset and in tears after surveing what the SCUM who visited Bethesda had done on Friday night.
This is not the first time that such incidents have happened at this cemetary however, now, I beleive that Gwynedd Council and the Police will have to act to improve the security at the cemetary. I also think that there is a duty on us, the residents of Blaenau to weed out whoever the SCUM that did this and insist that the police bring them to justice and that the courts deal with them accordingly and give them the maximum sentence that such wanton ditruction and disregard deserves and not some laughable community order.
Someone somewhere knows who did this. I would appeal to whoever knows anything, to come forward and tell the police or tell me..all I need is a name/names and I will inform the police. There are many angry and upset families in and around Blaenau because of this wicked act that has been purpotrated by SCUM. Please do the right thing and let the person/person's who have done this be brought to justice now.
Heb os ac onid bai, mae argyfwng ariannol Cyngor Gwynedd yn dechrau taro adra, gyda dewisiadau caled iawn yn mynd i'n gwynebu ni fel aelodau dros y blynyddoedd nesaf.
I mi yn bersonnol, y blaenoriaeth uwchlaw dim byd arall fydd gwarchod gwasanaethau rheng flaen. Gan i mi, dyna yw hanfod awdurdodau lleol.
Serch hynny mae'n rhaid sicrhau gwerth am arian ac gwneud yn siwr fod yr adnoddau sydd gan y Cyngor yn cael eu defnyddio yw llawn potensial.
Mae rhaglen ar gyfer Bwrdd y Cyngor prynhawn dydd Mawrth yn dechrau ar y gwaith o ddarganfod yr arbedion. Mae llawer o'r hyn sydd ynddo yn bethau y gallwn ei gefnogi ond mae un neu ddau o eithriadau.
Mae mwy i ddod ac dwi yn credu fod angen i rhai adrannau edrych yn agosach ar yr hyn y mae nhw'n eu gynnig fel arbedion a derbyn bydd rhaid i bethau newid er gwell neu er gwaeth yn dibynnu pa ffordd yr ydych yn edrych ar y sefyllfa.
Mae un peth arall sydd yn amlwg iawn i bawb erbyn hyn hefyd sef methiant Llywodraeth y Cynulliad i sylweddoli ar yr argyfwng sydd yn gwynebu Awdurdodau Lleol Gwledig fel Gwynedd.
Mae yma bellach achos i herio y ffordd mae Llywodraeth y Glymblaid Llafur/Plaid Cymru yn ariannu y rhan yma o Gymru. Ac mi fydd hynny yn sicir yn un o'r pethau y bydd yn rhaid i ni ei wneud yn ystod yr wythnosau a misoedd nesaf.Without any shadow of doubt, the financial crisis facing Gwynedd Council is beginning to hit home, with a number of difficult choices having to be made by us, elected members over the coming years.
Personally, my aim will be to protect frontline services as much as I can. To me, that is the very essence of local authorities, first class, frontline services for the community.
Having said that, we must ensure that these services are run efficiently and provide value for money.
The agenda for Tuesday's Council Board meeting make's stark reading however there are elements of the proposed cuts that I can and will support, whilst there are others that I have serious doubts about supporting if at all.
More cuts are inevitable and certain departments need to look harder at themselves and make more savings centrally so that things are improved for better or worse, depending from which percpective you look at it.
Another issue that is now abundently clear is the failure of Welsh Assembly Government to fully realise the crisis that is facing rural local authorities like Gwynedd.
There is now a strong case to challenge the Labour/Plaid Coalition Government regarding their failure to understand and act in dealing with this issue. That is something that we must and will do during the coming weeks and months.
Mae'r ardd efo pabell mawr ynddi gyda lle i tua 8 gysgu o dan ei chynfas. Mae na swn chwerthin a sgrechian wrth i'r plant chwarae ar y trampoline ac mae 'na arogl bwyd bendigedig yn dod o'r gegin gefn.
Mae fy mab, Morgan yn 12 oed heddiw ac mi fydd ei ffrindiau yn gwersylla yma heno.
Penblwydd hapus iawn i ti boi!XXXIn the garden there's a large tent with room under its canvass for at least 8 to sleep. The sound of laughter and screams can be heaerd from the garden as the children play on the trampoline and there's the lovely smell of food cooking coming from the kitchen.
My son, Morgan is 12 years old today and his friends are camping here tonight.
Happy Birthday to you my boy! XXX
Dros yr wythnos diwethaf rwyf wedi bod o amgylch fy Ward yn dosbarthu fy Adroddiad Blynyddol am fy mlwyddyn gyntaf fel aelod o Gyngor Gwynedd a Chyngor Tref Ffestiniog.
Gweler isod yr adroddiad yn llawn;
ADRODDIAD BLYNYDDOL MEHEFIN 2009
NEGES AT DRIGOLION WARD DIFFWYS A MAENOFFEREN, BLAENAU FFESTINIOG
Ar Fai'r 1af 2008 cefais y fraint a’r anrhydedd o gael fy ethol i’ch cynrychioli fel aelod o Gyngor Gwynedd am bedair blynedd hyd at yr etholiadau lleol nesaf yn 2012. Yn ystod yr ymgyrch etholiadol, mi ddaru mi addo ymweld â phob cartref yn y Ward pob blwyddyn i gyflwyno adroddiad blynyddol yn ogystal ag i gynnig cyfle i chi, yr etholwyr i godi unrhyw faterion gyda mi wyneb yn wyneb er mwyn i mi fynd i ymrafael a hwy ar eich rhan yn ystod y flwyddyn nesaf.
‘Dwi’n un o 13 aelod o Lais Gwynedd ar Gyngor Gwynedd yn ogystal â bod yn aelod o Fwrdd y Cyngor, fi hefyd yw deilydd y Portffolio Adnoddau Dynol.
Cefais fy ethol hefyd i’ch cynrychioli ar Gyngor Tref Ffestiniog.
Mae’r adroddiad yma yn amlinellu’r camau ‘dwi wedi eu cymryd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf i gwrdd â’r heriau rydym yn ei wynebu yn lleol ac yn ogystal â chyfarfod a rhai o’r addewidion wnes i gyn yr Etholiad llynedd.
Yr Economi
• Yn dilyn cyfarfod cefais yn Nhachwedd gyda’r Gweinidog dros Ddatblygu Economaidd, Llywodraeth y Cynulliad, mi ddaru mi ynghyd a swyddogion o Gyngor Gwynedd allu denu cyllideb angenrheidiol i ymgymryd ag astudiaeth dichonoldeb manwl i’r angen a chyfleoedd posib all godi wrth uwchraddio Rheilffordd Dyffryn Conwy rhwng y Blaenau a Chyffordd Llandudno. Mi ddechreuodd y gwaith hwn ym mis Mawrth ac mi rwyf i ynghyd a swyddogion o’r Cyngor a’r Cynulliad yn edrych ymlaen at dderbyn canlyniadau’r astudiaeth o fewn yr wythnosau nesaf.
• Rwyf wedi cefnogi’n frwd, gwaith Blaenau Ymlaen a’r Strategaeth Ddatblygu sydd wedi ei lunio ganddynt er mwyn sicrhau twf a ffyniant economaidd ar gyfer y dyfodol yn y Blaenau. Cwblhawyd y rhan gyntaf o’r gwaith hwn gan gwmni Miller Research diwedd Chwefror. Maen nhw wedi bod yn gyfrifol am lunio cynlluniau cyffroes ar gyfer ail ddatblygu canol y dref. Mae’r cynlluniau yma wedi derbyn llawer o gymeradwyaeth gan drigolion lleol. Rwyf nawr yn gweithio gyda swyddogion o Gyngor Gwynedd i geisio diogelu cyllid er mwyn symud ymlaen gyda’r cynlluniau yma fel bod y gwaith yn cychwyn o fewn y 12-18 mis nesaf. ‘Dwi hefyd yn cadeirio is-grŵp Twristiaeth sydd yn edrych ar faterion yn ymwneud a marchnata’r dref a chroesawu twristiaeth i’r dref ac yn enwedig y Ganolfan Groeso unwaith bydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn rhoi’r gorau i reoli’r Ganolfan ym mis Hydref.
• Rwyf wedi pwyso am becyn o fesuriadau er mwyn cynnig cyngor a chymorth ymarferol i fusnesau lleol. Yn ystod y misoedd diwethaf mae sawl pecyn cymorth wedi cael eu cynnig yma yn y Blaenau ar gyfer busnesau newydd ac er mwyn adfywio eiddo masnachol. Serch hynny, credaf yn gryf y gallai ac y dylai mwy cael ei wneud i gefnogi busnesau lleol. Dyna pam rwyf wedi galw ar Gyngor Gwynedd i brynu mwy o nwyddau a gwasanaethau yn lleol. Rwyf hefyd wedi ysgrifennu at y Gweinidog Llywodraeth Leol yn y Cynulliad i ofyn iddo ostwng trethi busnes mewn ardaloedd tebyg i’r Blaenau sydd wedi eu taro gwaethaf gan y dirwasgiad economaidd presennol.
• Dwi yn gweithio ar y cyd gydag asiantaethau allanol a’r Cynulliad Cenedlaethol er mwyn adnabod buddsoddwyr mewnol posib allai ddod a swyddi cyfleoedd eraill i’r ardal.
Oherwydd y wasgfa ariannol byd eang, mae’r Blaenau wedi gweld ei siar o ddiswyddiadau a thoriadau eraill mewn oriau gwaith a chyflogau dros y misoedd diwethaf. Oherwydd yr argyfwng economaidd, nid yw’r gobeithion o sicrhau buddsoddiad enfawr yn lleol gan y sector breifat yn uchel iawn ar hyn o bryd. Serch hynny, mae’n bwysig ein bod yn parhau gyda rhaglenni hyfforddiant a datblygu sgiliau a gwella ein is-adeiladedd yn lleol er mwyn i’r ardal fanteisio ar gyfleoedd posib all godi wrth i’r argyfwng leihau mewn amser.
• Rwyf wedi cefnogi’r gwaith a wneir gan Antur ‘Stiniog i ddatblygu ardal y Blaenau fel cyrchfan i dwristiaid a rhai sydd yn mwynhau gwneud gweithgareddau awyr agored.
Hoffwn longyfarch tîm Antur Stiniog am ddatblygu sawl cynllun cyffroes gan gynnwys llwybrau beicio mynydd yn lleol, fydd wedi eu cwblhau yn cynnig cyfleoedd economaidd a chymdeithasol i drigolion lleol. Dwi’n edrych ymlaen At gefnogi’r cynlluniau yma mewn pa bynnag modd posib er mwyn troi’r weledigaeth yn realiti.
Addysg
Yn dilyn yr Etholiad llynedd, collodd grŵp Plaid Cymru eu mwyafrif ar Gyngor Gwynedd wrth i Lais Gwynedd gipio 13 o seddi ar y Cyngor oherwydd ein safiad yn erbyn cynlluniau’r Blaid i ad-drefnu Addysg Gynradd ar draws y Sir. Union wedi’r etholiad mi dynnodd y Cyngor eu cynlluniau gwreiddiol ar gyfer ad-drefnu yn ôl. SERCH HYNNY mewn cyfarfod arbennig o’r Cyngor ar ddechrau Ebrill mabwysiadwyd rhaglen ad-drefnu newydd all arwain at rhai ysgolion yn cau neu yn un oar draws Wynedd. Dim ond ‘ychydig wythnosau sydd ers i Ysgol Manod dderbyn adroddiad gwych gan arolygwyr ESTYN tebyg i’r adroddiad gafodd similar Ysgol Tanygrisiau pan arolygwyd yr addysg yno, sydd heb unrhyw amheuaeth yn dystiolaeth glir fod ysgolion lleol yn llwyddo i ddarparu addysg o ansawdd i’n plant ac mi rwyf yn gado y byddaf yn parhau i ymgyrchu i sicrhau mai fel yna fydd pethau yn parhau.
• Byddaf yn parhau i bwyso ar y Cyngor i fuddsoddi rhagor o arian yn ein hysgolion er mwyn sicrhau eu bod nhw yn chwarae rhan fwy blaenllaw yn ein cymuned o ddydd i ddydd tra ar y rhy’n bryd yn darparu addysg o’r safonau uchaf i blant y Fro.
Fel aelod o Gorff Llywodraethol Ysgolion y Moelwyn a Maenofferen, dwi wedi gweithio gyda’r prif athrawon a’r llywodraethwyr yn y ddwy ysgol i adnabod ardaloedd ble mae angen buddsoddiad a gwariant er mwyn gwella’r cyfleusterau i’r disgyblion oddi fewn ac o gwmpas yr ysgolion. Dwi’n falch o ddweud fod peth arian wedi ei ddiogelu gan Gyngor Gwynedd er mwyn gwneud rhai gwelliannau. Fy ngobaith fydd i ddenu rhagor o arian a buddsoddiad i ysgolion lleol yn ystod y flwyddyn i ddod.
Gofal ac Iechyd
• Rwyf wedi a byddaf yn parhau i bwyso ar Fwrdd Iechyd Lleol Gwynedd a’r Cynulliad Cenedlaethol er mwyn diogelu Ysbyty Coffa Ffestiniog ar gyfer y tymor hir yn ogystal â diogelu cyllid digonol er mwyn ei datblygu er mwyn lles a gofal y gymuned.
Nawr fod Ysbyty Alltwen wedi ei hagor ym Mhorthmadog, mae’r Gweinidog Iechyd yn Llywodraeth y Cynulliad wedi cadarnhau mewn llythyr diweddar ataf y bydd adolygiad ar ddyfodol tymor hir Ysbyty Coffa Ffestiniog yn cael ei gynnal mis Ebrill nesaf. Yn ei llythyr ataf, mae’r Gweinidog wedi fy sicrhau y bydd yr adolygiad yn dryloyw, agored ac yn cymryd i ystyriaeth farn trigolion a chleifion yr ardal - byddaf yn mynnu dim llai.
• Rwyf yn gweithio tuag ag at wella gwasanaethau gofal cartref a phryd ar glyd er mwyn cwrdd ag anghenion trigolion hyn yr ardal.
Mae’r gwasanaethau yma’n “llinell byw” i amryw o’n henoed, mae’r ffioedd wedi codi ac mae’r gwasanaeth o dan bwysau mawr. Rwyf yn benderfynol fod angen gwarchod y gwasanaethu yma a'u bod yn wir yn derbyn rhagor o fuddsoddiad er mwyn cwrdd ag anghenion yr henoed a’u gofalwyr.
• Tra ‘dwi wedi croesawu’n gynnes iawn, y buddsoddiad sydd yn cael ei wneud gan Gyngor Gwynedd i adeiladu uned 10 gwely ar gyfer dioddefwyr dementia ym Mryn Blodau ynghyd a’r buddsoddiad sylweddol i ddatblygu 34 o unedau byw’n annibynnol yn Llan Ffestiniog, mae’r penderfyniad i gau cartref gofal Bryn Llywelyn yn adlewyrchiad trist o gyn lleied mae’r Cyngor yn gwrando ar farn y gymuned leol.
Y plediais i gau Bryn Llywelyn o 29-28 pleidlais, gyda 21 aelod o Blaid Cymru yn cytuno a safbwynt yr Aelod Cynulliad, Dafydd Elis-Thomas i gau'r cartref, yw’r pwynt isaf i mi yn ystod y flwyddyn ddiwethaf fel eich Cynghorydd. Dyma adlewyrchiad trist ar Blaid Cymru sydd wedi symud o fod yn blaid oedd yn sefyll dros degwch, cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol. Yn sicr, anwybyddwyd barn y 13 trigolion, eu teuluoedd, eu gofalwyr a’r gymuned ehangach gan Blaid Cymru yn ystod y drafodaeth arweiniodd at y penderfyniad cwbl anfoesol yma.
• Yn ystod y 12 mis diwethaf, mae sawl achos wedi bod yn lleol ble mae ambiwlans wedi methu a chyrraedd claf o fewn y 6 munud penodedig oherwydd methiannau gyda rheolaeth y gwasanaeth. Tra rwyf yn hynod ddiolchgar ac yn gefnogol i waith arbennig ein parafeddygon lleol, dwi wedi ac fe fyddaf yn parhau i bwyso am adnoddau ychwanegol yn lleol fel na fydd methiannau’r gorffennol ddim yn digwydd eto.
Tai
• Ar Fawrth 31ain, cyhoeddwyd fod Tenantiaid y Cyngor wedi pleidleisio o fwyafrif llethol i drosglwyddo stoc tai'r Cyngor i ofalaeth landlord cymdeithasol cofrestredig newydd - Tai Cymunedol Gwynedd. Am y rheswm yma, dwi’n credu’n gryf y bydd tai cyngor yn yr ardal yn cael eu huwchraddio a’u hadnewyddu ond bydd y gwaith yma yn ôl pob son yn cymryd ychydig yn fwy na’r tair blynedd oedd wedi ei nodi ar y dechrau ar gyfer cwblhau'r gwaith.
• Rwyf wedi ymgyrchu i ymestyn yr ardal adnewyddu tai sydd eisoes wedi ei gyflwyno mewn rhai darnau o’r dref fel ei bod yn weithredol ar draws y Ward gyfan. Yn dilyn trafodaethau gyda Swyddogion y Cyngor, bydd y Cynulliad Adnewyddu yn parhau yn Sgwâr y Parc ac ar hyd y Stryd Fawr yn ystod y 12 mis nesaf.
• Yn ystod y flwyddyn hon, byddaf yn gweithio gyda Swyddog Tai Fforddiadwy Cyngor Gwynedd i adnabod beth yn union yw anghenion tai'r gymuned leol yma yn y Blaenau yn ogystal ag adnabod tiroedd ac eiddo y gallai eu datblygu ar gyfer darparu tai fforddiadwy i bobol leol.
Cyfraith a Threfn
• Yn ystod y flwyddyn hon, byddaf yn gweithio’n agos efo’r heddlu yn y rhyfel yn erbyn cyffuriau yn lleol. Diolch i fuddsoddiad o £10,000 gan y Cyngor Tref a £5,000 gan y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol, bydd fy nghynnig, sydd wedi derbyn cefnogaeth gan y Cyngor Tref, i osod system Camerâu Cylch Cyfyng o gwmpas y dref yn helpu yn y rhyfel yn erbyn cyffuriau yn ogystal â lleihau achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol ar ein strydoedd.
• Mae grŵp cefnogol wedi ei sefydlu’n lleol er mwyn cynnig cefnogaeth i deuluoedd sydd yn byw gyda phroblemau cyffuriau ac alcohol. Mae cwrs hyfforddiant hefyd wedi ei drefnu er mwyn dysgu rhieni sut i adnabod unrhyw arwyddion os yw eu plant yn cymryd cyffuriau. Dwi’n gobeithio mynychu'r cwrs hwn a byddaf yn cefnogi ymdrechion a gwaith y grŵp yn ystod y flwyddyn nesaf.
Yr Amgylchedd a Hamdden
• Rwyf yn ymroddgar i ddiogelu’r Ganolfan Hamdden a Phwll Nofio lleol rhag unrhyw doriadau er mwyn sicrhau y byddent yn parhau i agor ar gyfer defnydd i’r gymuned.
Mae adnoddau hamdden Cyngor Gwynedd yn wynebu dyfodol ansicr, serch hynny fe allai datblygiadau diddorol ddigwydd yn y maes hynny yn lleol yn weddol fuan fydd yn datblygu ac yn gwarchod yr adnoddau sydd ar gael yn y Blaenau i’r dyfodol.
• Rwyf wedi cefnogi menter “Y Dref Werdd” sydd wedi gwneud cyfraniad clodwiw i wella’r amgylchedd yn lleol. Dwi wedi cynorthwyo’n ymarferol yr ymdrechion i lanhau’r Afon Bowydd ac rwyf yn gefnogol i’r egwyddor o sefydlu Canolfan Ail-gylchu yn ardal Ffestiniog er mwyn gwella delwedd y Blaenau fel “Y Dref Werdd”.
Fy manylion cyswllt
Os ddaru mi eich methu pan alwais heibio eich cartref, neu os oes gennych unrhyw faterion hoffech i mi ddelio a hwy yn ystod y flwyddyn i ddod, gallwch gysylltu â mi unai drwy ffonio 07768 025630 neu drwy e-bostio gwilym@llaisgwynedd.com
Mae hefyd croeso i chi ymweld â’n nghymhorthfa fisol i, rwyf yn ei gynnal ar y cyd gyda’r Cynghorydd Dafydd Lloyd Hughes ar y dydd Sadwrn cyntaf o bob mis rhwng 10yb -11.30yb yn y Ganolfan Dysgu Gydol Oes, Maenofferen (Llyfrgell).Galwch heibio i’n gweld, does dim angen apwyntiad.
Am y newyddion diweddaraf ac i weld beth yw fy safbwynt ar wahanol faterion, ewch i’m Gwefan www.gwilymeurosroberts.blogspot.com
Hoffech chi fy noddi i?
Efallai eich bod yn ymwybodol fy mod ers Ionawr 1af eleni wedi bod wrthi yn ceisio colli pwysau er mwyn codi £5,000 tuag at Dŷ Gobaith, yr hosbis ar gyfer plant sydd yn dioddef o salwch terfynol, ger Conwy. Fy nod ydi colli 5 stôn erbyn Rhagfyr 31ain. Dwi’n falch o ddweud fy mod, hyd yn hyn, wedi colli 3 stôn sydd yn golygu fy mod wedi mynd heibio’r hanner ffordd. Hyd yma ‘dwi wedi llwyddo i godi o gwmpas £1,200 a gyda’ch cefnogaeth chi, fy ngobaith yw agosáu tuag at y targed o £5,000 rwyf wedi ei osod.
Os hoffech fy noddi i, fedrwch chi wneud hynny drwy lenwi ffurflen noddi mewn salw un o siopau’r dref neu yn electroneg drwy'r Wefan ganlynol: www.justgiving.com/gwilymeurosroberts
I’r rhai ohonoch sydd eisoes wedi fy noddi, estynnaf fy niolchiadau cywiraf.During the last week I have been distributing my Annual Report covering my first year as a member of Gwynedd Council and Ffestiniog Town Council to every household within my Ward.
The report in full is available to read below;
Annual Report, June 2009
A MESSAGE TO THE RESIDENTS LIVING IN THE
DIFFWYS A MAENOFFEREN WARD, BLAENAU FFESTINIOG
On May 1st, 2008 I was honoured to be elected as your representative on Gwynedd Council for four years until the next local elections in 2012. During the election campaign I promised that I would visit each home in the Ward once a year to deliver my annual report and to give you, the electors the opportunity to raise any issues of concern with me face to face so that I can tackle them on your behalf over the coming year.
I am one of 13 Llais Gwynedd members on Gwynedd Council as well as being a member of the Council’s Board and I am the Portfolio Holder for Human Resources.
I was also elected to represent you on Ffestiniog Town Council.
Outlined within this report are the actions that I have taken over the year to meet some of the pledges I made regarding the challenges we face locally prior to the Election last May.
The Economy
• Following a meeting I had in November with the Assembly Government’s Economic Development Minister, I along with officers from Gwynedd Council managed to secure the required funding to conduct a detailed feasibility study into the projected need and opportunities that may arise from upgrading the line. That work has commenced in March and I along with officials from Gwynedd Council and the Welsh Assembly Government wait to hear the study findings within the next few weeks.
• I have actively supported the work of Blaenau Ymlaen and its Development Strategy for town in order to ensure future economic growth and prosperity in Blaenau. The first phase of this work was completed by Miller Research at the end of February. They have been responsible for drawing up detailed plans for the redevelopment of Blaenau’s Town Centre. These plans have received a warm welcome by many local residents. I am now working with officers from Gwynedd Council to secure funding to move these plans forward and I hope that re-development work will begin within the next 12-18 months at the very latest. I am also chair of the Tourism Sub-group that is looking at Tourist Information and marketing for the town once the Snowdonia National Park ceases to run the Information Centre in town this October.
• I have pressed for a package of measures to provide support and assistance to local businesses. A number of business support packages including support for start-ups, commercial premises renewal grants have been made available to businesses in Blaenau over the last few months. However I firmly believe that more could and should be done to assist local businesses. That is why I am actively pressing upon Gwynedd Council to procure more goods and services locally. I have also written to Brian Gibbons AM, the Assembly Government’s Local Government Minister to ask him to lower the business rates in area’s like Blaenau which have been hit hardest by the global economic downturn.
• I am working with outside based organisations and the National Assembly for Wales to identify suitable inward investors to the area in order to attract worthwhile investment and new jobs to the area.
Due to the global recession, Blaenau has seen its fair share of redundancies and other cuts in working hours and wages over the last few months. Due to the economic crisis, the realistic opportunity to draw significant inward investment by the private sector at this current time is not good. However it is important that we continue with training programmes for those who have lost their previous employment as well as improving our infrastructure locally so when things begin to improve, we here in Blaenau can capitalise and attract investment into the town.
• I have supported the work of Antur ‘Stiniog to develop the Blaenau area as a destination for tourists and outdoor pursuit enthusiasts.
The team involved with Antur Stiniog are to be congratulated for developing exciting plans for a number of mountain biking tracks locally that will, once completed provide economic and social opportunities to local residents. I look forward to assisting the project in whatever way possible and to seeing this exciting vision become reality.
Education
• Following last year’s Election, the Plaid Cymru group on Gwynedd lost their overall majority as Llais Gwynedd took 13 seats on the Council due to the stand that the Party made against Plaid’s proposals to re-organise the County’s Primary Schools. Immediately following the election, the Council withdrew its original re-organisation proposals. HOWEVER at a special meeting of the Council in early April, the Council has adopted a new programme that could lead to a number of schools in Gwynedd being closed or amalgamated.
I am adamant that no primary schools in the town should be closed or amalgamated. Only a few weeks ago, Ysgol Manod received a brilliant report from the school inspectors at ESTYN similar to previous reports for Ysgol Tanygrisiau, that is above all, clear evidence that local schools are succeeding to provide excellent education for our children and I will campaign vigorously to ensure that’s the way it stays.
• I will continue to press the Council to invest more money in our schools, to ensure that they play an even greater role within our community from day to day whilst at the same time providing the highest possible standards of education for the area’s children.
As a member of the Board of Governors of both Ysgol y Moelwyn and Ysgol Maenofferen, I have worked with the head teacher’s and governors at both schools to identify areas that need investment and expenditure to improve facilities for pupils in and around the schools. I’m pleased to say that some of the needed money to carry out these improvements has been forthcoming from Gwynedd. I hope that further investment in local schools will be secured over the coming year.
Care and Health
• I have and will continue to put pressure on the Gwynedd Local Health Board and The National Assembly for Wales to ensure the long-term future of the Ffestiniog Memorial Hospital and that sufficient funding is secured to further develop it for the community’s benefit and well being.
Now that Ysbyty Alltwen has opened in Porthmadog, the Assembly’s Health Minister has written to me to confirm that a review on the future of Ffestiniog Memorial Hospital will begin next April. The Minister has assured me that the review will be independent, detailed and open to consultation with the local community. For this reason I am more determined than ever to save our local hospital.
• I am working to ensure that the home care and meals on wheels services are improved in order to meet the needs of the elderly living in the area.
These services are a “lifeline” to many elderly residents, fees have been increased and the service is under pressure. I am determined to ensure that these services are protected and receive further investment to meet the needs of the elderly and their carers.
• Whilst I have warmly welcomed the investment made by Gwynedd Council to build the 10 bed dementia unit at Bryn Blodau along with the significant investment to develop the 34 independent living units at Llan Ffestiniog, the decision to close Bryn Llywelyn is a sad reflection on how very little the Council listens to the views of the local community.
The vote to close Bryn Llywelyn by 29-28 votes, with 21 Plaid Cymru members supporting the view of local AM, Dafydd Elis-Thomas to close the home, has been the lowest point of the last year for me as your Councillor. Sadly it reflects how far Plaid has moved from being the party that stood for fairness, equality and social justice. Certainly, the wishes of the 13 residents, their families, their carers and the wider community were ignored by Plaid in the debate that lead to this immoral decision.
• Over the last 12 months we have seen a number of incidents locally where ambulances have failed to reach emergency calls within the allotted 6 minutes, due to systematic failures in the management of the service. Whilst I fully support and appreciate the excellent work of the local paramedic crews I have and will continue to press for additional resources for the service locally so that previous failings do not happen again
Housing
• On March 31st, it was announced that Council Tenants had voted by a significant majority to transfer the Council’s housing stock to a new registered social landlord – Gwynedd Community Homes. For this reason I now firmly believe all the Council Housing within the area will be part of a major upgrading programme, however initial indications show that it may take slightly more than three years as originally intended to complete this work.
• I have campaigned to extend the housing renewal scheme that has been introduced in certain parts of the town so that it covers the whole of this Ward. Following initial discussions with Council Officers, the scheme will now continue in Park Square and down the High Street over the coming 12 months.
• Over the coming year I shall be working with Gwynedd Council’s Affordable Housing Officer to identify the exact needs of the local community as well as suitable land and properties that may be developed to provide affordable homes for local people.
Law and Order
• Over the coming year I will be working closely with the local police, in particular the local Community Beat Manager to step up the war on drugs locally in Blaenau. Thanks to a £10,000 investment by the Town Council and £5,000 by the Community Safety Partnership, my proposal, which, has been supported by the Town Council, for the installation of CCTV in and around the town should help in the war on drugs and tackle incidents of anti-social behaviour.
• A local support group has been established to provide support to families living with drug and alcohol problems. A training course has also been organised to “drug proof your kids”-this course is aimed at parents who want to know and understand how to identify if their children are taking illegal substances. I hope to attend this course as well as supporting this group in the work that it does over the next year.
The Environment and Leisure
• I am committed to safeguarding the Leisure Centre and Swimming Pool from any cuts and ensure that they stay open for the community’s use.
Gwynedd Council’s leisure facilities face an uncertain future, however here in Blaenau there may be some interesting developments in the near future as initial discussions have already taken place regarding the development and long-term future of the facilities on offer.
• I have supported the “Green Town” initiative, which has made an important contribution to enhancing the local environment. I have been actively involved in cleaning the Bowydd River and I fully support the principal of establishing a recycling station in the Ffestiniog area in order to enhance Blaenau’s “Green Town” credentials.
My contact details
If I missed you, when I called at your home, or if you have queries you’d like to raise with me over the coming year, you can contact me either by calling me on 07768 025630 or e-mailing me at gwilym@llaisgwynedd.com
Alternatively you can visit me at my monthly surgery which I hold alongside Councillor Dafydd Lloyd Hughes on the first Saturday of every month between 10am -11.30am at the Maenofferen Centre (Library).Drop in and see me, no appointment is needed.
To keep up to date with my latest news and views, visit my website www.gwilymeurosroberts.blogspot.com
Would you like to sponsor me?
Some of you may be aware that since January 1st this year I have been trying to lose weight in order to raise £5,000 for Tŷ Gobaith, the hospice for terminally ill children near Conwy. My target is to lose 5 stones by December 31st. I am glad to say that do date I have lost 3 stone in weight, so I have passed the halfway mark. The amount raised so far is around £1,200 so with your support I hope to get closer to the £5,000 target that I have set.
If you’d like to sponsor me, you can do so by filling in a sponsorship form in a number of shops in Blaenau:
Alternatively you can sponsor me online by visiting www.justgiving.com/gwilymeurosroberts
To those who have already supported me, please accept my sincerest thanks.
Bydd Arddangosfa o luniau gan Jeremy Moore a cherddi gan Gwyn Thomas yn cael ei arddangos yn y Ganolfan Groeso yma yn y Blaenau o ddydd Sadwrn yma hyd at ddiwedd mis Medi.
Dwi'n edrych ymlaen i weld yr arddangosfa sydd o'r enw "Rhwng y Ddaear a'r Nefoedd" gan fy mod wedi clywed fod y lluniau o'r ardal yn drawiadol a'r cerddi yn ysbrydoledig.
Gobeithio'n fawr y wneith trigolion lleol ac ymwelwyr i'r ardal fanteisio ar y cyfle i ymweld a'r arddangosfa yn ystod y misoedd nesaf.An exhibition of photography by Jeremy Moore accompanied by poetry by Gwyn Thomas will be on show at the Tourist Information Centre in Blaenau from this Saturday until the end of September.
I am looking forward to seeing the exhibition which is called "Between Earth and Heaven" due to the fact that I have heard that the photographs of the area are stunning and that the poetry is inspirational.
I hope that local residents as well as visitors to the area will take the opportunity to view the exhibition over the coming months.
Yn dilyn rhai wythnosau o ymchwilio a holi, bydd cyfarfod yn cael ei gynnal p'nawn Dydd Gwener yma i glywed canfyddiadau Cwmni ATKINS wrth iddynt gwbwlhau eu astudiaeth dichonoldeb i'r posibilrwydd o uwchraddio'r rheilffordd rhwng y Blaenau a Chyffordd Llandudno.
Dwi'n credu y gall y rheilffordd fod yn un arf wrth i ni geisio adfer economi yr ardal hon. Dwi'n edrych ymlaen yn eiddgar i glywed canfyddiadau yr ymghynghorwyr yn y gobaith y bydd yn arwain at buddsoddiad sylweddol i'r ardal bydd yn creu swyddi i'r dyfodol.
Mi wnai adael i chi wybod y diweddaraf yn dilyn y cyfarfod dydd Gwener.Following a number of weeks of research and interviews, a meeting will be held this Friday afternoon to hear the findings of ATKINS company who have carried out a feasibility study into the possibilities of upgarding the Conwy Valley rail line between Blaenau and Llandudno Junction.
I beleive that the railway could be an important asset in our attempts to improve the economic prosperity of this community. I am looking forward to hearing the consultants findings, in the hope that they will lead to further investment in the area that will lead to new jobs being created in the near future.
I will provide you with an update following Friday's meeting.

My friend Nigel Doughty from Oldham will be getting married in a few weeks, so this weekend is Nige's Stag Weekend.
I spent last night with him and a few old friends and some new ones in Nottingham and today we spent most of the day Paintballing near Sherwood Forest.
This was my first experience of paintballing...it certainly won't be my last! - I have'nt laughed so much in a long time!
Talk about re-living childhood memories of cowboys and indians and war games.
Being shot stings!...I took a hit on at least 12 occssions throughout the day 4 of which I have bruises to prove..but it was well worth it.
Nigel, being the groom was dressed in a cow suit (including the udders!)..no camoflauge suit for him so he took a few hits!
His soon to be father-in-law Steve took so many hits, he looked like a paint sample card!
The final game of the day saw every man for himself and Nige's giant uncle, Paul made the Terminator and Rambo look like Bambi or Mickey Mouse!
Whilst I'm back in Wales tonight, the boys are out on the town in Nottingham again tonight. I'm sure a few beers will sooth away the bruises and hurt ego's.
Thanks for the memories and I'm sure that my introduction to Paintballing has certainly got me chomping at the bit to do it again soon...if you've never done it, get a group of friends together and give it a go...you'll have a great time and laugh your socks off...I certainly did that today!
Fel mae llawer ohonoch chi bellach yn ymwybodol, polisi Plaid Cymru yma yng Ngwynedd ydi cau ysgolion bach, dyna'r rheswm pam gollodd y Blaid rheolaeth ar y Cyngor yma 'chydig dros blwyddyn yn ol a dyna pam y furfwyd Llais Gwynedd ac ennill 13 o seddi ar y Cyngor a dros 7,000 o bleidleisiau.
Ers blynyddoedd mae llawer wedi dweud fod y Blaid yn pregethu un neges yng Nghaergybi a Chaernarfon a neges gwahanol iawn yng Nghaerfyrddin a Chaerdydd.
Os oes prawf pendant o hynny ei angen arnoch, dyma ddau ddarn o dystiolaeth....cofiwch fod y Blaid am gau ysgolion bach yng Ngwynedd, ond yn Wrecsam a Sir Fynwy, mae nhw am gwffio i'w cadw nhw ar agor!
Neith Arewinydd Plaid Cymru, Ieuan Wyn Jones, neu'r Arch Rhagrithiwr, Dafydd Elis-Thomas ddweud wrth y genedl plis, be yn union ydi polisi eich Plaid ar ysgolion bach? Achos dwi a llawer i un arall dybiwn i ddim cweit yn deallt eich safbwynt erbyn hyn! Yr unig beth wn yn iawn yw eich bod chi i gyd yn ymddangos fel llwyth o ragrithwyr!
Cywirwch fi os ydwi'n anghywir?Like many of you are aware by now, Plaid Cymru's policy here in Gwynedd is in favour of closing small rural schools - that is the reason why Plaid lost overall control of the Council at last May's election, that was also the reason why Llais Gwynedd was formed, leading to us winning 13 seats on the Council and over 7,000 votes.
For years many have said that Plaid went about preaching one message in Holyhead and Caernarfon and another message in Carmarthen and Cardiff.
Here are a couple of examples that confirm this beyond all doubt....remember in Gwynedd, Plaid want to close small rural schools, however in Wrexham and Monmouthshire, Plaid are fighting to save small rural schools and keep them open!
Will the leader of Plaid Cymru, Ieuan Wyn Jones or their Hypocrite in Chief, Dafydd Elis-Thomas please explain to the nation what exactly is Plaid Cymru's policy on small rural schools? Cos I and many others I would imagine don't quite understand what is your stance on this issue by now!? The only thing I really know is that you all appear to be a load of hypocrites!
Correct me if I'm wrong?
Heno am 7 o'r gloch yn neuadd bentref Llanegryn ger Tywyn, Meirionnydd bydd Llais Gwynedd yn cynnal cyfarfod cyhoeddus er mwyn clywed barn trigolion ardal Tywyn ynglyn a chynlluniau Cyngor Gwynedd i ad-drefnu addysg gynradd yn nhalgylch Ysgol Uwchradd Tywyn.
Dyma'r cyntaf o gyfres o gyfarfodydd bydd Llais Gwynedd yn ei gynnal mewn ardaloedd lle mae'r Cyngor yn edrych ar ad-drefnu y ddarpariaeth addysg.
Ein gobaith fel grwp ar y Cyngor ydi cael clywed barn y rhieni, athrawon, llywodraethwyr, plant a thrigolion fel y gallwn ni wedyn cyfleu unrhyw bryderon, gobeithion a dyheadau sydd gan y cymunedau yn ol i'r Cyngor wrth i'r penderfyniadau pwysig hyn ynglyn a dyfodol addysg o fewn y Sir gael ei trafod.
Cofiwch mai Llais Gwynedd ydi Llais y Pobol ar Cyngor Gwynedd, dewch draw i Llanegryn heno i fynnu bod eich llais chi yn cael ei glywed.
Tonight at 7pm in Llanegryn village hall near Tywyn, Meirionnydd, Llais Gwynedd will be holding a public meeting in order to hear the views of the residents living in the Tywyn area regarding Gwynedd Council's proposed re-organisation of primary education in the Tywyn High School catchment area.
This is the first in a series of meetings that Llais Gwynedd intends to hold in areas where the Council are looking to re-organise the education provision.
Our hope as a group on the Council is that we will hear the views of parents, teachers, governors, children and residents so that we can then convey any fears, hopes and aspirations that the community may have back to the Council as the important decisions regarding the future of education across the County is discussed.
Remember Llais Gwynedd/The Voice of Gwynedd is the People's Voice on Gwynedd Council, so if you live in the Tywyn area and you'd like your voice to be heard, please join us at the meeting tonight.
Bought this album last week and after a few listens, this is definately a grower.
Well worth a listen with some great tracks, my favourites are 10/10,Candy, No Other Way and Simple Things.
Llongyfarchiadau mawr i Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri ar agor Hafod Eryri yn gynharach heddiw.
Mae llafur caled Aneurin Phillips, Prif Weithredwr yr Awdurdod a'i dim wedi dwyn ffrwyth gyda'r adeilad yma yn glod i'r Parc ond hefyd i'r genedl gyfan.
Dylid hefyd llongyfarch y gweithwyr dyfal a thalentog adeiladodd yr Hafod ym mhob tywydd dros y blynyddoedd diwethaf, y rhan helyw ohonynt yn grefftwyr lleol.
Pleser hefyd ydi gweld cysylltiad y Blaenau gyda'r adeilad eiconic newydd hwn - mae peth o'r ithfaen tu allan i'r adeilad yn dod o chwarel Cwt y Bugail ac mae cerddi a geiriau y Dr Gwyn Thomas i'w gweld tu fawn i'r adeilad ac ar y ffenestri.
Dwi'n edrych ymlaen yn arw i gael mynd am dro i gopa'r Wyddfa rhywben yn ystod yr wythnosau nesaf i weld yr Hafod dros fi fy hun.Congratulations to the Snowdonia National Park Authority on the opening of Hafod Eryri on the summit of Snowdon earlier today.
The hard work of Aneurin Phillips, SNPA, Chief Executive and his team has paid dividends with this building not only being a credit to the National Park but to Wales as a nation.
Congratulations should also be extended to those who worked on the construction of this magnificent and iconic building in all kinds of weather over the past few years. Many of these crafts people are local.
Its also great to note that there is a Ffestiniog connection with Hafod, the granite on the outside is from Cwt y Bugail Quarry and the words of local poet, Dr Gwyn Thomas adorn the windows of the new building.
I'm looking forward to walking up to the summit sometime in the next few weeks to see the Hafod for myself.
Yn sgil y ffaith fod e-bost cyfrinachol gan grwp Llais Gwynedd at swyddogion y Cyngor wedi dod i feddiant y Wasg, mae erthygl wedi ymddangos yn rhifyn yr wythnos hon o GOLWG yn cyfeirio at y ffaith fod Llais Gwynedd yn credu fod modd i'r Cyngor leihau ei staff o thua 600 o weithwyr yn ystod y 3 blynedd nesaf wrth geisio darganfod £16m o arbedion.
Fel deilydd Portffolio Adnoddau Dynol ar Fwrdd y Cyngor dwi yn gwbwl argyhoeddedig na fedr lefel presennol staffio'r Cyngor barhau wrth i ni geisio darganfod yr arbedion yma - byddai dweud yn wahanol yn anonest.
Gwn yn iawn fod amryw o aelodau'r Cyngor (ar draws pob Plaid) yn teimlo fod gormod o staff gennym (rhai yn credu 1,000 yn ormod -dwi ddim o'r farn hynny fy hun).
Serch hynny wrth ymateb i'r her o ddarganfod yr arbedion sylweddol sydd angen ei wneud a thrwy ceisio amddiffyn gwasanaethau rheng flaen i'r cyhoedd yn enwedig y rhai mwyaf anghenus a bregys yn ein plith, credaf fod cynghorwyr Llais Gwynedd wedi bod yn onest, euddfed ac yn realistig.
I rhoi hyn i gyd o fewn ei gyd-destun, mae gan Cyngor Gwynedd ar hyn o bryd 7,000 o staff. Mae gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri tua 140 o staff ac eleni mae'nt yn cael gwared o 10 swydd...mae 50 o 140 mewn saith mil, fellu ar gyfer y 50 hynny mae 10 swydd yn mynd sydd yn dod a chi at 500 yn syth, gan ychwanegu 100 arall sydd yn dod a ni at y 600, sydd ddim yn afrealistig os ewch chi i edrych yn fanwl ar ffordd mae'r Cyngor yn gweithio.
Dwi wedi gofyn am gymahariaethau gyda Awdurdodau eraill ar draws Cymru er mwyn edrych mewn manylder os yw'r cynigion yma yn rhai a allai ddigwydd yn naturiol gan osgoi unrhyw ddiswyddiadau gorfodol.
Be sydd yn drist yw ymateb "arweinydd" y Cyngor, Y Cyng Dyfed Edwards sydd yn disgrifio cynnig Llais Gwynedd yn "amrwd ac anghyfrifol" mae'n ychwanegu "Os ydi Llais Gwynedd yn credu bod modd gwneud hyn, ddyle nhw enwi pa swyddi y medrwn ni wneud hebddyn nhw. Mae 600 o swyddi yn ddim yn bell o fod yn 10% o staff y Cyngor. Oes yna 100 o weithwyr cymdeithasol fedra ni ni wneud hebddyn nhw? Oes yna 100 o athrawon fedra ni neud hebddyn nhw?".
Mae'r ymateb yma yn ceisio sgorio pwyntiau gwleidyddol rhad ac yn amlwg yn anwybyddu difrifoldeb a realiti y sefyllfa lle rydym ni ynddi. Does neb yn son am gael gwared o athrawon a gweithwyr cymdeithasol ac wrth edrych ar leihau y nifer o swyddi, bydd rhaid gwerthuso yn fanwl yr effaith fydd colli swyddi penodol yn cael ar wasanaethau rheng flaen.
Mae'r "arweinydd" yn gwybod yn iawn nad yw y sefyllfa bresennol yn gynnaliadwy ac os ydi o yn meddwl yn wahanol yna mae o yn anghywir- dwi'n mawr obeithio y cawn fel aelodau o'r Bwrdd a'r Cyngor yn ehangach gael deiolog adeiladol a synhwyrol ar y mater pwysig a sensetif hwn yn ystod y misoedd nesaf. Mae'n fater llawer rhy bwysig i chwarae "politics" gyda gan fod gwasanaethau a chefnogaeth i drigolion y Sir yn y fantol.
Mae'n ymddangos fod Cai Larsen wedi ei ddryllio cyn gymaint gyda pherfformiad siomedig Plaid Cymru yn Etholiadau Ewrop fel ei fod yn gorfod gwneud cyhuddiadau gwbwl di-sail a gwallgof ynglyn a chefnogwyr Llais Gwynedd.Os oes yna unrhyw egwyddor yn perthyn i Cai, yna ddylai ef ymddiswyddo ar unwaith fel Cadeirydd Pwyllgor Rhanbarth Arfon Plaid Cymru ac ymddiheuro yn gyhoeddus am wneud sylw mor dwp a hyn!
"'Dwi ddim yn amau am eiliad bod cydadran o bleidlais Llais Gwynedd wedi rhoi croes i UKIP (a'r BNP o ran hynny)- ond fel mae'r blog yma wedi dadlau sawl gwaith, pleidlais wrth Gymreig ydi rhan arwyddocaol o bleidlais Llais Gwynedd. Cofier Mr Walker er enghraifft". Menaiblog...aka Cai Larsen
Lle ni i gyd ar draws y pleidiau, beth bynnag yw ein gwahaniaeth barn ar addysg gynradd yng Ngwynedd ac sut mae'r Cyngor yn cael ei reoli ydi sefyll ysgwydd yn ysgwydd yn erbyn hiliaeth a ffasgwyr y BNP ac nid gwneud sylwadau di-sail fel mae Cai wedi 'neud.
With James Purnell's resignation tonight, with a damning condemnation of Gordon Brown's leadership coupled with massive losses at tonight's Local Government Elections in England and a woeful showing that will become apparent in the European Elections when results are announced on Sunday, I see Gordon Brown resigning by late on Monday afternoon.
Interesting times my friends!
Cofiwch bydd y Cyng.Dafydd Lloyd Hughes a mi ar gael bore dydd Sadwrn yma yn y Ganolfan Dysgu Gydol Oes (Llyfrgell, Maenofferen) rhwng 10am -11.30am.
Nid oes angen apwyntiad ac os gallwn fod o gymorth i chi, yna piciwch draw i'n gweld.Remember, Cllr.Dafydd Lloyd Hughes and myself will be available between 10am -11.30 this Saturday morning at the Life Long Learning Centre (Library), Maenofferen.
There is no need to make an appointment and if you think we can help you in any way, please feel free to pop in and see us.