Wel son am hwha!! Mae rhai cefnogwyr Plaid Cymru yn llychio hisi ffit go iawn am fy mod i wedi bod digon heurllyg i bwyntio allan na ddyliai ei Llwydd fod wedi parcio mewn lle sydd wedi ei glustnodi i yrrwyr anabl.
Mae Rhydian Fon wedi 'sgwennu llythyr yn y Daily Post yn rhoi chwip din go iawn i mi am be dwi wedi ei wneud, mae o'n gyfleus yn son am ei anabledd ond mae o wedi gadael allan ei fod o yn aelod o'r ry'n Gangen o Blaid Cymru a'r Llywydd.
Yna mae Cai Larsen, sydd hefyd yn bennaeth Ysgol Gynradd Trefor ac yn aelod o Blaid Cymru sydd yn gyson yn ymosod ar Llais Gwynedd ac unrhyw un arall sydd ddim yn cytuno a'r Blaid mewn ffyrdd digon amheus a chysidro ei swydd yn ceisio fy ngwawdio ac yn dadlu i raddu mai stunt ydi'r ffaith fod y Wasg wedi cymryd y stori i ddechrau oddi ar y blog hwn.
Yna mae gennym ni y coleg hwnnw o sylwebyddion gwleidyddol call a rhesymol sydd yn ymgynyll ar Maes-e yn cynnig ei sylwadau a'i geiriau caredig amdanaf yn y fan honno.
I fod yn glir, dwi wedi bod yn ymgyrchu yma yn lleol ers i mi gael fy ethol i Gyngor Gwynedd ar faterion yn ymwneud a pharcio i'r anabl, mi wnes i hyynny ym mis Awst y llynedd ac eto yn mis Medi ac byddaf yn dal i fynd a'r maen i'r wal ar ran fy etholwyr.
Pan da chi yn gweld rhywun o statws Llywydd y Blaid yn dangos amharch tuag at eraill drwy "ofyn am barcio" - ei eiraiu o nid fi, mewn lleoliad wedi ei glustnodi ar gyfer rhywun gyda anabledd, yna mae rhaid gwneud safiad yn erbyn hynny, o gofio fod gennyf i achosion teilwng iawn yma sydd yn dal i frwydro am le er mwyn hwyluso ei bywyd o ddydd i ddydd.
Dwi'n credu fod ymateb ar y We yn adlewyrchiad trist o Dafydd Iwan (ddylai fod wedi bod yn ddigon o ddyn i gydnabod ar ei union ei fod wedi gwneud yn anghywir)a rhai o gefnogwyr ei Blaid ac dyna pam dwi ddim am un funud yn derbyn unrhyw feirniadaeth ohonof am wneud y peth iawn. Well what a a fuss!! Some Plaid Cymru supporters have thrown a complete wobbler due to the fact that I have been "trecherous" enough to point out the fact that their Party President had parked in a space that should be used by disabled drivers only.
Rhydian Fon has written a letter to the Daily Post slating me for my actions - ironically he highlights his disability but conveniently fails to mention that he is also a member of the same Branch of Plaid Cymru as the Party President.
Then there's
Cai Larsen, an active Plaid blogger at nights and headteacher of Trefor Primary School during the day who uses questionable language and has questionable ideas for someone of that status who dares say anything about his beloved Party - who takes me to task due to the fact that press took the story originally from my blog.
Then we have that college of wise and reasoned political commentators who post their comments on
Maes-e, some of their compliments for myself are a joy to behold!
To be perfectly clear I have been consistant on the matter of parking for the disabled since I was elected last May, as these posts in
August and
September of last year clearly demonstrate and I will continue to take the matter up on behalf of people living in my Ward who need such a space to improve their quality of life from day to day.
When you see someone of the status of Plaid's President "asking to park"- his words not mine in a designated space for a disabled driver it is only fair and proper to make a stand simply due to the fact that if he's prepared to take up their designated space, would he be prepared to take their disability as well!?
I think that some of the responses to this issue on the Internet are a sad reflection on Dafydd Iwan (who should have been man enough and own up immediately to say that he had done wrong) and on Plaid Cymru as some of these people are clearly members or supporters of the Party. That is why I will pay no attention to their critiscism and insults simply due to the fact that I know what I have done is the right thing.