31/08/2009

Blaenau yn cael cweir gan Pwllheli - Blaenau thrashed by Pwllheli

Wedi gem gyfartal dydd Sadwrn yn Llandyrnog, roedd Blaenau adra heddiw i Pwllheli. Os fydd y perfformiad yma yn fesur o'r tymor i ddod yna mae'r hogia mewn trafferth.
Roedd Pwllheli yn gynta i'r bel ac yn awchy am y tri phwynt nhw enilliodd drw rhoi chwip din go iawn i'r Amaturiaid o 5-1.
Roedd ail gol yr ymwelwyr werth ei weld ac byddai wedi bod yn deilwng mewn unrhyw gynghrair o'r Alliance i'r Champions League.
Llanberis sydd yma nesa p'nawn Sadwrn ac bydd y cefnogwyr yn disgwyl llawer gwell ymdrech na be welwyd p'nawn ma.


After securing a draw on Saturday at Llandyrnog, Blaenau were home this afternoon againt Pwllheli. If this afternoon's performance is a measure of the season ahead, then the lads are in trouble.
Pwllheli were first to the ball and were far hungrier for the three points than their hosts and deservedly ran out emphatic winners by 5-1.
The visitors second goal would grace any league from the Cymru Alliance to the Champions League, pure class by Pwllheli's Darren Thomas.
Llanberis are the next visitors to Cae Clyd on Saturday and I'm sure that all Amatures fans will be hoping for a far better performance than this afternoon's.

Amser am brotest tanwydd arall? - Time for another fuel protest?



Mae'r cyhoeddiad fod pris tanwydd am gynyddu 2c eto i 105c y litr yn ergyd arall i'r economi.
Mae'r Llywodraeth yn dweud fod nhw yn gwneud hyn er mwyn cynyddu gwariant cyhoeddus! Celwydd llwyr, gan ei fod yn ffaith fod llai o arian yn cael ei roi o San Steffan i'r Cynulliad ac o'r Cynulliad i'r Awdurdodau Lleol (Cofiwch fod angen arbed £16m yma yng Ngwynedd oherwydd y toriadau yma).
Be sydd yma ydi treth i ad-dalu'r arian sydd wedi ei wario i achub y banciau, arian nad oedd gan y wlad i ddechrau.
Mae cynydd o'r fath yn cael effaith mwy andwyol arnom ni yma mewn ardaloedd gwledig ble mae defnyddio ceir yn hanfodol i lawer iawn ohonom i fynd o gwmpas yn ddyddiol. Mae hefyd yn golygu bydd prisiau popeth bron yn codi gan fod costau cludiant yn naturiol yn codi hefyd.
Credaf bod hi'n hen bryd i ni ystyried protestiadau fel y rhai cafwyd blynyddoedd yn ol gan fod hyn yn gwbwl annerbyniol ac mae'n amlwg na ellir gadael i sefyllfa o'r fath barhau llawer mwy.


The announcement that fuel duty will rise again by 2p at midnight so that the avarage price of petrol will be 105p per litre at the pump is another serious blow to the economy.
The Government says that its doing this in order to increase its investment in public spending!
This is a blatent lie as it is common knowledge that Westminster has slashed its contribution to the Welsh Assembly who have subsequently slashed the funding for Local Government (Remember that £16m savings are needed in Gwynedd over the next 4 years because of these cuts).
What we have here is another stealth tax by the Government to pay for the Billions that they have plowed into the banks to stop them going bust....money quite clearly the Treasury did not have.
Such a rise in fuel duty has a greater impact on us here in rural areas as using the car for many of us is not a choice due to the fact that we need to get from A to B for work and public transport is not as frequent and as cheap as in the cities. It also means that the prices of almost everything else will increase due to the added cost of transportation.
I think that it is high time that we seriously considered protesting again like the fuel protests of the past as quite frankly things cannot carry on like this much longer.

30/08/2009

FRAMED - BBC1 31/8/09 8.30pm


Drama wedi ei selio ar y stori wir pan ddaethwyd a llawer iawn o luniau o'r orielau yn Llundain yma i'r mynyddoedd uwchben Blaenau adeg y rhyfel ydi hon, gyda addasiad i ddyddiau heddiw.
Cafwyd llawer ohoni ei ffilmio yma yn ardal y Blaenau felly fydd hi'n dda gweld yr hen dref yn cael ei adlewyrchu mewn golau da a hynny ar deledu cenedlaethol.


This drama is set on true events when some of Britains most impotant works of art were stored during World War II in the mountains high above Blaenau Ffestiniog. This story is a modern adaptaion of those events and by all accounts from todays TV critics is well worth viewing. Most of it was shot on location in and around this area so it will be good to see Blaenau being portrayed in good light on national TV.

Jack Penate - Everything is New


Currently listening to this a lot, not a bad album although its only got 9 tracks on it.
Stand out tracks are the three single releases, the latest being "Pull My Heart Away" and the two previous ones, "Be The One" and "Tonight's Today". The other two tracks of note are "So Near" and "Body Down"...the others are album fillers according to my ears but the one's I have mentioned are all pretty good.
Here are a couple of tracks so you can make your own mind up;


29/08/2009

Bits and Bobs

A creaditable 1-1 draw away for the Amatures today at Llandyrnog, looking forward to Pwllheli's visit here on Monday.
Last night's match at Bala was very enjoyable with a crowd of 633 present to see an entertaining goaless draw thanks to some brilliant goalkeeping by both goalies!
Liverpool scraped to victory by 3-2 away to Bolton...United beat Arsenal by 2-1 thanks to an own goal and a very dubious penalty..no wonder Arsene was miffed at the end!
Paul Flynn is still being...Paul Flynn.
One or two brilliant performances on tonights X-Factor and Noel Gallagher has left Oasis cos he can no longer work with his brother Liam. I must say, I've got a soft spot for Noel as he always comes across as the type of guy you'd like to sit down over a pint with and have a chat about football, music and the world...Liam on the other hand is the type of guy you cross the street to avoid.
Certainly the creative talent has left the band (for the time being)...who knows there may be a reunion tour, next week, next month, next year or in 10 years.
Anyway, here they are doing what they do best......

Cymorthfa dydd Sadwrn nesaf - Next Saturday's Surgery

Cofiwch bydd y Cyng.Dafydd Lloyd Hughes a mi ar gael bore dydd Sadwrn nesaf yn y Ganolfan Dysgu Gydol Oes (Llyfrgell, Maenofferen) rhwng 10am -11.30am.
Nid oes angen apwyntiad ac os gallwn fod o gymorth i chi, yna piciwch draw i'n gweld.


Remember, Cllr.Dafydd Lloyd Hughes and myself will be available between 10am -11.30 next Saturday morning at the Life Long Learning Centre (Library), Maenofferen.
There is no need to make an appointment and if you think we can help you in any way, please feel free to pop in and see us.

Cyfarfod gyda'r Heddlu - Meeting with the Police


Yn dilyn fy nghynnig dderbyniodd cefnogaeth unfrydol y Cyngor Tref mis Gorffennaf, fedrai gadarnhau bydd cyfarfod yn cael ei gynnal rhwng Cyngor Tref Ffestiniog ac un o Uwch Swyddogion Heddlu Gogledd Cymru a Chadeirydd yr Awdurdod Heddlu ar Fedi 21ain am 6 o'r gloch.
Bydd y cyfarfod yn gyfle i'r Cyngor rhannu eu pryderon ynglyn a'r ffordd mae'r ardal yn gael ei phlismona gan ar adegau mae cyn lleied ac un swyddog ar ddyletswydd yma sydd yn anheg ar yr unigolyn ac yn anghyfrifol tuag at y trigolion.


Following my notice of motion that was unanimously supported by Ffestiniog Town Council in July a meeting will be held between the Council and a Senior Officer and Chairman of the Police Authority on September 21st at 6pm.
The meeting will give us as elected representatives to raise our concerns regarding the level of deploiment of officers and resources in this area which at times is dagerously low and unfair on the police officers and irresponsible towards the expectations of local residents.

28/08/2009

Gemau darbi lleol - Local derby matches


Heb os mae dwy gem bel-droed darbi fawr y penwythnos Gwyl Banc yma. Heno ar Maes Tegid y Bala, bydd Bala yn croesawu Porthmadog ac dwi'n edrych ymlaen i'r gem gan mod i erioed wedi gweld Bala yn chwarae o'r blaen ac o gofio'r dechrau da mae nhw wedi ei wneud i fywyd yng Nghyrair Cymru, dylai nhw fod yn ffefrynau ar gyfer y tri phwynt heno.
Yn ol yma yn y Blaenau, prynhawn dydd Llun, bydd yr Amaturiaid yn croesawu Pwllheli ac wedi dechrau digon cymysglud i'r tymor (colli v Rhydymwyn o 6-3 ac yna curo Nantlle Vale 8-2) bydd yr hogia yn gobeithio ennill tri phwynt arall, ond cyn hynny mae ganddyn nhw gem go galed oddi cartref prynhawn yfory yn Llandyrnog.


Without a doubt, there are two big local derby fixtures this weekend for football fans. Tonight at Maes Tegid Bala, Bala Town who have made an excellent start to life in the League of Wales will be enteratining Porthmadog. I'm looking forward to the match as I've never seen Bala play before. And after having a bumper crowd of nearly 1,000 for the visit of Bangor City a couple of weeks ago, I think the turnstiles will be busy again tonight.
Back here in Blaenau, the Amatures are home on Monday afternoon to one of their local rivals when they entertain Pwllheli. After a mixed start to life in the Cymru Alliance, Mel Roberts' boys will be hoping for another 3 points following Tuesday nights demolition of Nantlle Vale by 8-2.
Before that though, they face a tricky away match at Llandyrnog tomorrow.

Plaid yn chwarae gemau - Plaid are playing games


Mae edefyn dwieddaraf "Cheerleader in Chief" Plaid Cymru o'i bunker yn Bontnewydd yn dangos eto pam na ellir bellach ymddiried yn y Blaid i warchod a datblygu gwasanaethau i drigolion Gwynedd.
Ddoe ddaru mi nodi fod yna gynydd ym mhoblogaeth plant o dan 5 oed ar draws Gymru (gan gynnwys Gwynedd), oedd yn fy marn i a sawl un arall yn rheswm pellach pam y dyliwn ni warchod ein hysgolion bychain.
Mae Rhydian Fon yn dadlau mai ffolineb ydi fy nadl a fod y twf yn ardal yr A55(gan yn fanu hynny mae'r boblogaeth mwyaf a rhan helyw o swyddi sector gyhoeddus mae'r Sir mor ddibynol arnynt).
Sydd yn dod a ni at ardaloedd fel y Blaenau a gweddill Meirionnydd a Dwyfor...ardaloedd sydd wedi dioddef yn economaidd a chymdeithasol ers degawdau ac heb weld ffrwyth llafur gan ein Aelodau Cynulliad a Seneddol ers iddynt cael eu hethol yn ol yn 1974 dan enw Plaid Cymru. Yna mae gennym grwp y Blaid ar Gyngor Gwynedd ddaru eistedd ar eu dwylo tra bu Uwch Swyddogion y Cyngor yn derbyn y Cynllun Gofodol sydd wedi anwybuddu anghenion Llyn, Eifionnydd a Meirion yn gyfangwbwl gan ganoli twf yn y Mon/Menai Hub...I fynd a dadl Rhydian i'r eithaf, dylai pobl i'r De o'r bunker yn Bontnewydd symud i'r ardaloedd o amgylch yr A55 os ydynt am gael gwaith,addysg a gwasanaethau cyhoeddus!...Oherwydd tydi'r "trickle down economics" o'r Cynllun Gofodol yn sicir ddim am greu swyddi na gwarchod gwasanaethau gwledig er fod Plaid Cymru wedi cefnogi'r Cynllun.
Onid dylai'r Blaid ac Arweinnwyr Cyngor Gwynedd wedi gweld hynny a bod llawer mwy uchelgeisiol a chanoli twf yma yn ardaloedd fel Blaenau, Bala, Tywyn, Porthmadog, Pwllheli, Nefyn, Aberdaron a Threfor gan dynnu buddsoddiad a chyfoeth i'r ardaloedd yma, fyddai wedyn yn cadw a chynyddu'r boblogaeth tra yn yr un modd yn gwarchod gwasanaethau hanfodol fel addysg.Na, roedd hynny'n rhy anodd dybiwn i?Ac roedd angen gweledigaeth ar gyfer cyflawni'r dasg, ond dyna ni, does dim gweledigaeth gan y Blaid bellach yn nagoes, mae nhw yn falch o gael gafel yn dyn ar bais y Blaid Lafur ym Mae Caerdydd er mwyn cael ychydig bach o rym. Tra mae nhw'n hawlio clodydd am ddenu £1bn i drydaneiddio rheilffordd o Abertawe i Lundain, geith y gweddill ohonom gwffio am ein heinioes a'n gwasanaethau yma yn ein ardaloedd gwledig - yr ardaloedd rhoddodd llawer ohonynt ble mae nhw heddiw a'r ardaloedd y mae nhw bellach wedi eu bradychu.


The latest posting by Plaid Cymru's "Cheerleader in Chief" from his bunker in Bontnewydd gives more evidence (if any were needed)why Plaid Cymru can no longer be trusted to protect and develop services for the residents of Gwynedd.
Yesterday, I noted that the latest statistics released by the Assembly showed an increase across Wales (including Gwynedd) in the number of children aged under 5 and in my view this was even more reason why we should protect our small schools.
Rhydian Fon argues that my arguement is a foolish one due to the fact that the increase in Gwynedd is located in the areas close to the A55 (as it is there that most of the population lives and it is in that area that most public sector jobs that Gwynedd depends upon are located).
Which brings us to areas such as Blaenau and the rest of Meirionnydd and Dwyfor...areas that have suffered socially and economically for decades and have not seen much fruit from the labour of subsequent Plaid politicians who have represented these areas in Parliment and the Assembly since way back in 1974. Then we have the Plaid group on Gwynedd Council who idley watched as officers let the Council sign up to the flawed Spacial Plan of the Welsh Assembly Government and the Mon/Menai Hub which centralised growth in the Bangor and Caernarfon areas, with further economic and social benefit "trickling down" to other areas of the County. This was and still is a flawed model for economic and social development and demonstartes clearly the ignorance of Plaid when it comes to being serious about dveloping and retaining jobs and services in our rural areas...if Rhydian had his way, anyone, living to the South of his bunker at Bontnewydd would have to move towards the A55 for their work, education and services!
Shouldn't Plaid and the Leaders of Gwynedd Council have shown more vision and ambition for our rural communities and ensure that growth would be centralised in areas like Blaenau, Bala, Tywyn, Porthmadog, Pwllheli, Nefyn, Aberdaron and Trefor by drawing in, inward investment and prosperity to these areas thus putting a halt to depopulation and increasing and developing the needs and levels of services and provision in these areas. No, that was too much of a challenge I can imagine and a vision would be needed to undertake such a task. Sadly, that is something that Plaid clearly lacks by now. They are happy to hang on to Labour's coat tails in Cardiff Bay so that they can have a smell of power...and whilst they lay claim to securing £1Bn for electryfying the railway between Swansea and London, the rest of us in these areas of rural Wales can fight for our livelyhoods and for our services - the same areas all those years ago put these people where they are today, only for them to betray us at a blink of an eye!

27/08/2009

Mwy o dystiolaeth pam y dylid gwarchod ein hysgolion - Even more evidence why we should protect our schools


Mae'r bwletin ystadegol diweddaraf gan Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn dangos fod poblogaeth Cymru yn cynyddu rhwng 2007 a 2008.
Mae'r ystadegau hefyd yn dangos fod cynnydd o 2.8% wedi bod yn nifer y plant sydd yng Nghymru o dan 5 oed. Mi welwyd cynnydd o dan y pennnawd yma ym mhob un o sioroedd Cymru - rhagor o rhesymau felly pam na ddylid cau ysgolion yma yng Ngwynedd!

HT I'r Athro Dylan Jones Evans am ddwyn fy sylw at hyn ar ei flog arbennig o.


The latest statistical bulletin for Wales has just been released by the National Assembly and it show that the nation's population has risen between 2007 and 2008.
The statistics also show that there has been a rise of 2.8% in the number of children aged under 5 in Wales. There was an increase under this heading in all of the Welsh counties - even more reason I would say that we shouldn't close schools here in Gwynedd!

HT To Professor Dylan Jones Evans who drew my attention to these figures on his excellent blog.

Tren i Traws...Ta ffwlbri llwyr? - Full steam ahead....or pie in the sky?


Mae tudalen flaen y Cambrian News yr wythnos hon yn son am gynlluniau gwr o dde Lloegr allai arwain at ail agor y rheilffordd rhwng Blaenau Ffestiniog a Thrawsfynydd o fewn blwyddyn.
Hyd y gwn i, does dim ymgynghori wedi bod yn lleol am hyn ac mae'n rhaid i rhywungwestiynu os fyddai cynlluniau o'r fath yn gynnaliadwy yn economaidd ac yn hyfyw?
Serch hynny, dwi'n edrych ymlaen i glywed rhagor am y cynlluniau dros yr wythnosau nesaf er mwyn gweld os oes cyfle yma i ddenu mwy o ymwelwyr i'r ardal yn ogystal a chynnig math arall o gludiant rhwng Traws, Llan, Manod a'r Blaenau.


The front page of this week's Cambrian News declares that the railway line between Blaenau and Trawsfynnydd could re-open in a year, thanks to the proposals that are being developed from a rail enthusiast based in the South of England.
As far as I am aware there has been little or no consultation locally about this and one has to raise some serious questions about the viability of such a venture.
However, I look forward to hearing more about the propsals in the next few weeks to see if this is another potential opportunity to bring more tourists to the town as well as providing an alternative means of transport between Traws, Llan, Manod and Blaenau.

26/08/2009

£16,507.01

Dyna oedd fy nhreuliau am y flwyddyn 2008/09 fel aelod o Gyngor Gwynedd.
Gellir torri'r treuliau i lawr fel ac y ganlyn:
Lwfans Sylfaenol: £10,063.74 (Telir i pob aelod o'r Cyngor)
Lwfans Treuliau: £ 632.22 (Telir i pob aelod o'r Cyngor)
Cyfrifoldeb Arbennig £ 4,589.20 (Taliad fel Arweinydd Portffolio Adnoddau Dynol)
Teithio: £ 1,120.89 (O gartref i gyfarfodydd y Cyngor @ 40c y filltir)
Cynhaliaeth: £ 100.96 (gwestai)

CYFANSWM: £16,507.01


Yn naturiol dwi'n mwy na bodlon i ateb unrhyw gwestiynau am yr uchod.

That's how much I received in expenses for the year 2008/09 as a member of Gwynedd Council.
The expenses break down as follows:
Basic Allowance: £10,063.74 (Paid to every Council member)
Expenses Allowance: £ 632.22 (Paid to every Council member)
Special Responsibility £ 4,589.20 (Payment as Human Resources Portfolio Leader)
Travel: £ 1,120.89 (From home to Council meetings at 40p per mile)
Subsistance: £ 100.96 (Hotels)

TOTAL: £16,507.01

Naturally, I am more than happy to answer any questions regarding the above.

25/08/2009

DVD's worth watching

Seeing as I am currently enjoying the second week of my summer holiday I've seen a couple of good movies on DVD.
The first was Gran Torino which stars and was directed by screen legend, Clint Eastwood.
The other is Revolutionary Road, which is a dark and moving insight into suburban American life in the 1950's. This movie contains brilliant performances by Leanardo Di Caprio and Kate Winslet as the unhappily married couple and the director is Sam Mendes, Ms Winslets real life husband.
If the predicted wet weather is stopping you getting out for a late summer evening walk, you could do worse than renting either one of these to watch at home.

Cau yn llawn o goliau - Field full of goals


Mi sgwenodd Arfon Wyn unwaith am y Cae yn Llawn o Yd. Wel gyfellion, yma yn y Blaenau mae 'na gae yn llawn o goliau!
Son ydw i am Cae Clyd, cartref Amaturiaid y Blaenau gollodd yno dydd Sadwrn o 6-3 yn erbyn Rhydymwyn cyn cyrro Nantlle Vale heno o 8-2...dyna i chi 19 gol mewn dwy gem cynghrair..ac os ydych am ychwanegu'r 3 sgoriodd Glan Conwy yma yng Nghwpan Cymru, cyfanswm o 22 gol mewn tair gem.
Dwi'm yn meddwl bydd yna brinder adloniant i ni y tymor yma a'r Gae Clyd, Pwllheli sydd yma nesa am 2.30pm dydd Llun Gwyl y Banc a cyn hynny mae'r hogia yn chwarae oddi cartref dydd Sadwrn yn Llandyrnog.
Gyda buddigoliaeth gynta'r tymor, dylent fynd yno yn hyderus.


Celtic fans usually sing about the Fields of Athenry. Well my friends, here in Blaenau we have a field full of goals!
I'm talking about Cae Clyd, home of Blaenau Amatures who lost there by 6-3 on Saturday to Rhydymwyn and who won tonight's clash with Nantlle Vale by 8-2...thats a total of 19 goals in two games...and if you add to that the 3 that Glan Conwy scored when they defeated the Amatures in the Welsh Cup that's 22 goals in 3 matches!
I don't think that entertainment will be lacking for us this season at Cae Clyd, Pwllheli are here next at 2.30pm on Bank Holiday Monday, before then, the lads are away at Llandyrnog and following tonight's first win in the League, they can head into Saturday's match full of confidence.

Cofiwch am gefnogwyr y Gogledd - Don't forget the fans up North


Mae'n ymddangos fod y "siwts" sydd yn rhedeg Cymdeithas Pel-droed Cymru ar fin gwneud penderfyniad call o'r diwedd drwy symud gemau rhagbrofol Cymru o Stadiwm y Mileniwm.
Fel un sydd wedi dweud hyn droen o'r blaen, gobeithio'n wir y bydd y gemau'n symud ac yn ogystal a chwarae gemau yn stadiymau newydd Caerdydd, Abertawe a Llanelli y neith y gymdeithas gofio hefyd amdanom ni, cefnogwyr o'r Gogledd a chynnal ambell i gem yn Wrecsam.


It appears that the "suites" who run the FA of Wales are about to make a wise decision at last by moving some of Wales' qualifying games away from the Millenium Stadium.
As someone who has gone on about this in the past, I sincerely hope that the games will be moved and as well as playing them at the new stadia in Cardiff, Swansea and Llanelli, I also hope that the FA will also bear us, the North Wales fans in mind and stage some matches in Wrexham.

24/08/2009

Wedi canu ar y Cochion - The Reds have got no chance


Wedi dychwelyd yn ol o'r Wyddfa a chael pryd neis o fwyd a bath poeth, dyma eistedd i wylio fy nhim, Lerpwl yn chwarae adra yn erbyn Aston Villa.
Fyddai dweud mod i'n siomedig gyda'r perfformiad yn bod yn glen ar y lleia'. Mae'n amlwg nad yw pethau'n iawn ar ac oddi ar y cae yno erbyn hyn.
Tymor diwethaf, dim ond 2 gem gynghrair collodd yr hogia a ddaru ni dal ddim ennill y Gynghrair.
Mae genai ofn wedi'n ail golled o fewn y tair gem gynta'r tymor hwn fod i wedi canu ar fy nhim i unwaith eto'r tymor yma! Os ydi perfformiad heno yn linyn mesur, dwi hyd yn oed ddim yn gweld ni yn gorffen yn y 4 safle ucha' chwaith.
A'i dyma yw dechrau diwedd teurnasiad Rafa? Amser a ddengus.
Yr unig lygedun o obaith ydi mod i'n dal yn ffyddiog y byddwn ni yn gorffen yn uwch nac Everton, ac felly tydi hi ddim yn ddrwg i gyd yn nac ydi?


After returning from my walk up Snowdon, enjoying a nice meal and a hot bath, I sat down to watch my team, Liverpool play Aston Villa at Anfield.
To say that I was dissappointed with the Reds performance would be very kind. Its clear to anyone watching that match that things are far from right at the club both on and off the pitch by now.
Last season we only lost 2 league games all season long and we still didn't win it! Now, 3 games into the new campaign we've already lost twice. Yes, 10 days into the new season, I've already lost all hope that we will win the league. In fact I'd go far as to say, on tonights performance, Liverpool will struggle for a top 4 finnish this season in order to qualify for a Champions League place.
Could this be the beginning of the end of Rafa's era at the club? Time will tell.
The only good thing out of this is the reasuring fact that I am at least confident that we'll finish higher up the table than Everton, so its not all bad is it?

Diwrnod i'r brenin - A day fit for a king





Ar ddechrau'r ail wythnos o'm gwyliau (rydym yn treulio adra wedi wythnos lawr yn y De yr wythnos diwethaf) dyma penderfynu mentro am dro i Gopa'r Wyddfa.
Cawsom ni ddiwrnod clir a braf ar y cyfan ac fel mae'r lluniau yn dangos roedd yna olygfeydd godidog i'w cael ar y siwrna.
Mi gerddodd y plant yn dda ac yn ddi-gwyno,a Catrin y wraig oedd y gynta i'r Copa (fel arfer!).
Mi ddaru mi fwynhau fy hunain yn ofnadwy ac roedd y teimlad o foddhad ac mod i wedi cyflawni rhywbeth wrth ddod yn ol i lawr y mynnydd yn bendant yn lloni fy nghalon.
Gyda llaw, roedd Hafod Eryri yn wych ac o dan ei sang....dwn i ddim faint o baneidiau sydd yn cael eu tolldi yno yn ddyddiol ond myn diawl i tybiaf fod angen teciall go dda arnynt i fynnu yno!
Wedi cyrraedd y gwaelod, roedd fy nhraed a'm pengliniau yn brifo'n o ddrwg, serch hynny roedd y balchder a'r profiad ynddo'i hyn yn mwy na gwneud i fynnu am hynny.


At the beginning of the second week of my holiday (we're spending it at home after having a week down South last week) we decided to head on a family expedition up to the summit of Snowdon.
The weather was clear and mostly sunny and as the photo's show, there were some wonderful views along the way.
The children walked well, without any complaints fairplay, Catrin my wife reached the summit first (as always!).
I throughly enjoyed myself and the feeling of satisfaction and achievement that I felt as I was walking down the mountain, filled my heart with joy.
By the way, the new Hafod Eryri building at the summit looked brilliant and it was packed to the rafters...I haven't got a clue how many cups of tea they make up there in a day, all I know is that the kettle must be on all of the time!
As I reached the bottom, my feet and knees ached like hell, however, the pride I felt and the experience its self more than made up for that.

23/08/2009

Buddigoliaeth a'i seiliau ym Mangor - Victory built on foundations laid in Bangor

Ydi mae Lloegr wedi ennill Cyfres y Llydw prynhawn yma ar yr Ofal (Llundain nid Caernarfon!).
Yng nghanol yr halibalw fydd yn mynd efo'r fuddigoliaeth, faint o glod caiff dinas Bangor yma yng Ngwynedd am rhan Clwb Criced y Ddinas yn natblygiad Andy Flower, Hyfforddwr Tim Lloegr fu'n chwarae dros y clwb sawl blwyddyn yn ol.
Mae'r gan yma i weld yn addas..wedi'r cwbwl chawn ni ddim clywed am ddim byd arall yn y Wasg am ddiwrnod neu ddau rwan na chawn!?


Yes England have won the Ashes Series this afternoon on the Oval (London not Caernarfon!).
In the middle of the euphoria that will greet the victory, I wonder how much praise will be heaped upon the City of Bangor, here in Gwynedd because it was at the City's Cricket Club that the victorious England Coach, Andy Flower played a few years ago.
This song seems very apt as its clear we won't hear about anything else in the press for the next few days now will we!?

Tosturi - Compassion



Trueni na fyddai Abdelbaset Ali al-Megrahi a Lybia wedi tosturio ac ail feddwl cyn gosod y bomb ar yr awyren a chwythwyd allan o'r awyr uwchben Lockerbie a lladd 270 o fobol a phlant dinewed 'chydig ddyddiau cyn y Nadolig 1988.
Fel gwleidyddion ar sawl lefel, boed hynny ar lefel Cyngor Cymuned, Cyngor Sir, Cynulliad, Senedd neu unrhyw gorff llywodraethol arall credaf fod hi'n anorfod ystyriaeth sut effaith mae ein penderfyniadau ni yn mynd i gael ar y pobol mae gennym ni y fraint ac yr anrhydedd o'u cynrychioli.
Lladdwyd 11 o drigolion Lockerbie gan al-Megrahi...fel dinasyddion o'r Alban, byddai dyn wedi meddwl y byddai teuluoedd yr 11 hynny yn cael mymrun o dostiri gan eu Gweinidog Cyfiawnder, Kenny MacAskill..yn anffodus, nid fel yna bu hi, gan fod tosturi Mr MacAskill i gyd mae'n amlwg gyda'r llofrydd a drylliodd eu bywydau hwy bron i 21 o flynyddoedd yn ol.
Mae'r penderfyniad i rhyddhau y dyn yma am ei fod yn marw o gancr yn gyrru neges gwbwl anghywir i weddill y byd ac yn dwyn sen ar Senedd yr Alban.
Does gennyf ddim tosturiaeth o gwbwl tuag at al-Megrahi, dwi wedi cadw hynny ar gyfer teuluoedd y rhai a laddwyd ganddo. Dwi hefyd yn rhanu siom a dicter llawer o'r teuluoedd gyda'r penderfyniad yma sydd yn gwneud sport ar ben unrhyw fath o gyfiawnder i'r rhau a lofryddwyd.
Tybed fyddai Mr MacAskill wedi bod mor barod i ddangos tosturi petai aelod o'i deulu o wedi cael ei ladd y noson honno yn Lockerbie, dwi ddim yn meddwl rhywsut, 'da chi?


Its a shame that Abdelbaset Ali al-Megrahi and his Lybian masters would not have shown a little bit of compassion and not place the bomb which blew a plane out of the night sky over Lockerbie, killing 270 innocent men, women and children a few days before Christmas 1988.
As politicians on all levels be it a Community or County Council, Assembly, Parliement or any other seat of government we should always measure the decisions we take carefully and think on how it will affect the people that we have the honour and privilage to represent.
Al-Megrahi murdered 11 Lockerbie residents that night as the plane hit the ground and devestated a part of the town. As Scottish Citizens, one would imagine that the country's Justice Secretary, Kenny MacAskill would ensure that the remaining family members of the 11 that were murdered by the act of terrorism would receive a level of compassion.
Unfortunately it appears that Mr MacAskills compassion has all been directed to the murderer who turned all their lives upside down that fatefull night in December, almost 21 years ago.
The decision to release this man on compassionate grounds due to the fact that he is dying of cancer sends a completely wrong message to the rest of the world and also brings the Scottish Parliment into disrepute.
I have no compassion at all towards al-Megrahi, I've saved mine for the families of his victims and I also share the anger and disappointment that many of them rightfuly feel at this decission which makes a mockery out of any justice that their loved ones had by the fact that their murderer was behind bars serving a life sentence. We will never know if Mr Mac Askill would have been as compassionate if one of his family members would have been murdered that night in 1988, somehow or other I don't think he would, do you?

22/08/2009

Dwi'n X-cited! - Saturday nights just got a little bit more Xciting!


Ydi mae Simon,Louis, Dani a Cheryl yn eu holau gyda cyfres newydd o'r X-Factor ac os ydych chi wrth eich boddau neu'n casau'r rhaglen...dwi efo'r garfan sydd wrth eu boddau...dyma teledu syml, hamddenol a hwyliog gyda ambell i berfformiad cofiadwy am y rhesymau cywir ac eraill am eu bod mor ofnadwy!
Ta waeth mae nosweithiau Sadwrn o rwan tan y Nadolig yn rhai byddai i yn edrych ymlaen atynt a'r X-Factor.


Yes Simon, Louis, Dani and Cheryl are back as the new series of The X-Factor is back on our screens. This programme is like Marmite, you either love it or hate it? I love it...its simple, lesiurely TV and at times very funny with memorable performances for both the right and so,so, wrong reasons!
Anyway from now until the finale before Christmas, I for one will be looking forward to my Saturday nights and The X-Factor!

Pack it in Mr Flynn!


Reading some of the fall-out regarding the Total Politics top blogs, its obvious that Paul Flynn MP is not happy with his place in the Top 60 Welsh Blogs and feels that there maybe a Plaid Cymru conspiracy to safeguard votes etc for the top places!
The truth is, in fairness to Plaid, they do have a lot of bloggers, some good, some not so good and some which are employed to blog, like Morgan Lloyd at number 1 under the name Gurilla Welsh Fare even if they had voted for each other, that again would be understandable as there would be a strong element of party loyalty involved.
The truth is Labour are missing a trick by not engaging with electors via the blogging media....come to think of it, if Aneurin Glyndwr is the best they can come up with, maybe they should think and start again?
So rather than sucking on a lemon or chewing on sour grapes, maybe Paul should get his mates at Transport House to look again at their communiaction strategy here in Wales, it shouldn't take that long as I doubt whether it extends much further than half of one side of an A4 piece of paper.
Incidentaly, here are the 10 blogs that I voted for in Wales:

1. Gwilym Euros Roberts (I would wouldn't I!)
2. Aeron Maldwyn Jones
3. Miserable Old Fart
4. Hen Rech Flin
5. The Cynical Dragon
6. Glyn Davies – A View from Rural Wales
7. Valleys Mam
8. Blog Menai
9. Dylan Jones Evans
10. Stonemason

Do not try this at home!

A few weeks ago, you may remember that I mentioned the strange experience I had at Nigel and Emma's wedding when I was asked to smash two paving slabs on a man's belly as he lay on a bed of nails!
Here is that very event.......do not try this at home!


21/08/2009

Rhaid cefnogi'r fenter hon - This venture must be supported.


Siomedig iawn oedd clywed nad oedd cynllun Gwallgofiaid wedi diogelu arian gan Gronfa Plant Mewn Angen.
Dyma i chi fenter sydd yn gwneud gwaith arbennig iawn gyda phobol ifanc yr ardal o dan arweiniad ymroddgar ac ysbrydoledig Rhys Roberts.
Byddaf yn ceisio gwneud popeth ac y gallai i sicrhau fod y Cynllun yn cael pob cefnogaeth er mwyn parhau i gynnig sgilaiua phrofiadau arbennig i pobol ifanc yr ardal.
Os gallwch chi, dewch chithau draw i'r cyfarfod yn Y CELL ar Fedi'r 2ail i ddangos eich cefnogaeth.


I was disappointed to learn that the Gwallgofiaid project had not been sucsseful in securing further Children In Need funding.
This is a project that does excellent work with young people in the Blaenau area under the committed leadership of Rhys Roberts.
I certainly intend to do whatever I can over the coming weeks to ensure that the project continues and that it also receives whatever support that is available so that it can continue to inspire and develope the creative talents of young people here in our community.
I'll be attending the meeting on September 2nd to show my support, hopefully you can do the same?

Pob lwc i Conrad a'r Criw - Good Luck to Conrad and the Crew


Bore 'ma am 10am, mi agorodd archfarchnad Eurospar (Euro-spar...rhagofn i chi feddwl fod gen i llwyth o siopau wedi eu henwi ar fy ol ;-)!!)
Yn anffodus gan fy mod dal yng Nghaerdydd yn dilyn dathliadau'r briodas fawr ddoe, doeddwn i ddim yn gallu bod yma yn y Blaenau ar gyfer yr agoriad.
Mi ddaru mi alw heibio diwedd y prynhawn wedi i mi gyrraed yn ol, ac mi roedd y siop o dan ei sang.
Pob lwc i Mr Conrad Davies a'r staff yn ei menter newydd a llongyfarchiadau mawr am sicrhau fod yr iaith Gymraeg yn cael lle amlwg iawn drwy'r holl adeilad a thu allan, mae hynny yn sicir yn engraifft i eraill eu dilyn.Da Iawn!


This morning at 10am, the new Eurospar supermarket opened its doors in Blaenau for the very first time.
Unfortunately as I was still in Cardiff at that time following yesterday's big wedding I was unable to attend the official opening this morning.
I did however, pop by late on this afternoon after coming home and the shop was packed.
Good luck to Mr Conrad Davies and his staff with the new venture and congratulations for ensuring that the Welsh language has a prominent place in the signage both inside and outside the store. This is certainly an example for others to follow. Well done!

Llongyfarchiadau Ynyr a Gwenllian! - Congratulations Ynyr and Gwenllian!


Wel dyma fi'n ol ar ol seibiant bach!
Ddoe bum mewn priodas yng Nghaerdydd ble roedd fy nith, Gwenllian Glyn gyda Ynyr Roberts.
Cafwyd diwrnod arbennig iawn fydd yn aros yn y cof am byth.
Mae Ynyr a Genllian ymysg y pobol mwyaf addfwyn, annwyl a charedig y gall dyn ddymuno eu cyfarfod.
Gallai ddim ond dymuno pob hapusrwydd a iechyd i'r ddau ohonynt a gobeithio y cawn nhw flynyddoedd hir ac hapus gyda'i gilydd.


Well I'm back after a short break!
Yesterday I attended the wedding of my niece, Gwenllian Glyn to Ynyr Roberts.
The whole day was very special and will remain in the memory for ever.
Both Ynyr and Gwenllian are amongst the most genuine, caring and warmhearted people that you could wish to meet.
I sincerely wish them a long, happy and healthy life together.

15/08/2009

Amser i ymlacio - Time to relax

Dwi'n cymryd wythnos i ffwrdd i dreulio amser gyda'r teulu, felly fydd 'na ddim blogio tan nos Wener neu dydd Sadwrn nesa' ar y cynharaf.
Mae gennym ni briodas teuluol yng Nghaerdydd dydd Iau ble fydd fy nith, Gwenllian yn priodi gyda Ynyr, felly fydd hi'n neis gweld pawb a chael cyfle i ddal i fynnu efo hunt a helynt pawb.
Welai chi mewn wythnos! ;-))


I'm taking a week off to spend some time with the family so there will be no blogging until Friday night or next Saturday at the earliest.
We have a family wedding in Cardiff on Thursday when my niece, Gwenllian will be marrying Ynyr, so it will be nice to see everyone, catch up and have a laugh.
I'll see you in a week! ;-))

Diwrnod hanesyddol ac siomedig i'r Blaenau - An historic but dissappointing day for Blaenau


P'nawn 'ma yng Nghae Clyd mi chwaraeodd CPD Amaturiaid y Blaenau eu gem gyntaf yng Nghwpan FA Cymru pan ddaru nhw groesawu Glan Conwy yn y Rownd Ragbrofol 1af.
Siomedig oedd y canlyniad ar y cae gan i Glan Conwy ennill o 3-0, serch hynny oddi ar y cau diolch i ymdrechion criw o wirfoddolwyr ymroddgar mae pethau'n argoeli'n dda.
Dwi'n meddwl mae tymor o ddysgu fydd hon i'r hogiau gan eu bod yn chwarae mewn cynghrair uwch eleni byddai gorffen yng nghanol y tabl yn lwyddiant ynddo'i hyn ac credaf mai dyna fyddai nod realistic am eleni ar y cae.


This afternoon, for the first time ever Blaenau Amateurs FC played in the Welsh FA Cup by hosting Glan Conwy in the 1st Prelimenary Round.
The result was disappointing, with the Amateurs losing 3-0, however off the field, things are really looking good thanks to the dedicated team of volunteers.
I think that this season is one for reconcilidation for the Amateurs, given the fact that theyr are now playing ina higher league, a mid table finish would be a realistic aim, giving a platform to build upon for the future on the field.

Dwi yn y 10 uchaf drwy Prydain! - I'm in the UK top 10!

Yn ol cylchgrawn Total Politics mae'r blog hwn wedi hedfan i mewn i'r 10 uchaf o flogiau Cynghorwyr drwy Prydain. Mae'r blog yn rhif 8 allan o 99 ac mi 'dwi'n ofnadwy o falch efo hynny!
Yr unig broblem ydi ei bod nhw wedi fy nodi fel aelod o Blaid Cymru ac mae nhw wedi cam sillafu fy enw..ond dwi wedi rhoi nhw ar ben ffordd efo hynny erbyn hyn.
Diolch i chi am barhau i ddarllen ac am eich cefnogaeth.


According to Total Politics Magazine this blog has flown into the Top 10 Councillors Blogs in the UK. This blog stands at number 8 out of 99 and I am honoured, humbled and very proud!
The only problem is that they have me down as a Plaid Cymru Councillor and they have spelt my name incorrectly....facts that I have set them staright on and hope will be corrected soon.
Thank you all for continuing to read my musings and for your support.

14/08/2009

Cefnogi'r NHS - Supporting the NHS


Mae'r ffrae ddiweddaraf am yr NHS yn anffodus iawn. Mae sylwadau'r Aelod Seneddol Ewropeaidd Dan Hannan (ydwi wedi ei ganmol yn y gorffenol) "na fyddai'n dymuno'r NHS ar unrhyw un" yn rhai gwbwl anffodus.
Mae'r NHS a'r staff ymroddgar sydd yn gweithio ynddo yn rhywbeth i ni ymfalchio ynddo. Mi ydym ni i gyd efo syniadu sut allai'r gwasanaeth gael ei wella ond tydi hynny ddim yn dweud am un funud fod y safon o ofal ac arbenigedd yn sal.
Fel da ni yn gweld yn lleol yma, mae Ysbyty Coffa Ffestiniog yn cynnig gwasanaeth gwerthfawr iawn i'r gymuned hon. Mae'r buddsoddiad hefyd yn Ysbyty Alltwen hefyd i'w groesawu gan ei fod yn cynnig gwasanaeth arbennig i'r trigolion yn ardal Dwyfor ar y cyd ac Ysbyty Bryn Beryl mewn adeilad newydd pwrpasol.
Dwi wedi bod yn ffodus i dderbyn triniaeth gan yr NHS yn Ysbyty Walton,Lerpwl ac Ysbytai Llandudno a Gwynedd yn ystod fy oes ac mi ganwyd fy mhlant yn Ysbyty Gwynedd ac yn wir i chi ar pob un o'r achlusuron yma, fedrai ddim canmol y staff a'r meddygon digon.
Felly y tro hwn fedrai ddim ond anghytuno'n llwyr gyda sylwadau Dan Hannan a dwi'n mawr obeithio y wneith o ystyried yn ofalus ei sylwadau ac ymddiheuro gan nad ydynt yn adlewyrchu'r NHS ydw i'n ei adnabod.


The latest row regarding the NHS is really unnessecary and unforunate. The comments of Dan Hannan MEP (whom I have praised in the past on this blog) that he "wouldn't wish it on anyone" are so, so wrong.
The NHS and the dedicated people that work within it, is something that we should all be proud of. Granted, we all have our views and opinions how it could be improved, however that doesn't mean to say that the standard of care and expertise that it offers is poor.
As we have seen locally here in Blaenau, the local Memorial Hospital provides an invaluable service to the local community. The investment at Ysbyty Alltwen, Porthmadog is also to be welcomed as that provides important services for the residents of Dwyfor along with Bryn Beryl, Pwllheli in a brand new purpose built building.
I have been fortunate to receive brilliant care and attention at different times in my life at Liverpool's Walton Hospital along with Llandudno and Gwynedd Hospitals and both my children were born in Ysbyty Gwynedd, Bangor and on each of these occassions I cannot praise highly enough the care, skill and dedication of every member of staff and the doctors that I met.
I therefore couldn't disagree more this time with Dan Hannan's unfortunate comments and I hope after a period of careful contemplation on his plane journey back across "the pond" he will duly apologise for his comments upon touching down at Heathrow as they are far from the NHS that I have experienced.

13/08/2009

Gordon Brown..Strictly losing the plot?



The fact that Gordon Brown has appointed another Tsar...this time, ex-Strictly Come Dancing judge Arlene Philips as his Dance Tsar has got me thinking....hold on!?
What's the world coming too!?
Yes, I am overweight and now, near the age of 40, I've decided to do something about it and I am working as hard as I can to lose 5 stonnes (3 down 2 to go and it IS harder now!) by walking, cycling etc...and its not easy, however a lot of it is all in the mind.
Now that we have a Dance Tsar, I may cha,cha,cha my way to work in the morning, waltz to council meetings or even ask one or two Councillors from rival groups if they'd like a tango or a rumba!
Having said that, I may not have the time, I've heard on the grapevine that Gordon Brown wants me to be his Hairstyling Tsar....everyone get shaving! :-)))
Gordon bach, get a life...there are far more important things that you should be doing right now...the economy, Afghanistan, swine flue maybe?..By the way, how much is Arlene getting for this gig? Anyone know?

Gweinyddiaeth Cyfiawnder...yntau Gweinyddiaeth Clowns! ?- Ministry of Justice...or should that be Ministry of Jokers!?


Mae'r newyddion diweddaraf efallai na fydd carchar yn cael ei adeiladu yng Ngharnarfon fel a gyhoeddwyd yn ol yn mis Chwefror yn sicir o fod yn ergyd i'r ardal gan fod disgwyl i'r cynllun rhoi hwb economaidd i Wynedd.
Mae Cyngor Gwynedd wedi gweithio'n galed gyda'r Weinyddiaeth Cyfiawnder ond mae'n amlwg ofewn y Weinyddiaeth nad ydi'r llaw dde yn gwybod be mae'r llaw chwith yn ei wneud.
Mae angen i'r Gweinidog Cyfiawnder tynnu ei fys allan a hynny reit sydyn ddwedwn i, i sortio'r ffiasgo yma allan neu os na fedr o wneud hynny yn fe ddylai o ystyried ei sefyllfa'n ddifrifol gan fod y ffordd mae o wedi delio a'r mater yma yn joc!


The latest news that the proposed jail for North Wales may not now be built at the proposed site at Caernarfon as announced in February is certain to be an economic blow to that area as it had been hoped that the project would be a much needed economic boost for Gwynedd.
Gwynedd Council has worked hard on this and officers have been in close contact with the Ministry of Justice, however from today's annocuncement it appears that the left hand does not know what the right hand is doing in the Ministry!
The Justice Minister needs to pull his finger out on this one, sharpish! And sort the situation out quickly so that all interested parties know exactly what's happening. Unless he can sort this fiasco out, I beleive he should seriously consider his position as to put it bluntly, the whole situation right now is a bloody joke!

12/08/2009

Rhagor o newyddion drwg - More bad news

Mae'r cyhoeddiad diweddaraf gan Gwmni Welsh Slate ynglyn a rhagor o ddiswyddiadau yn naturiol yn bryder i ni yma yn y Blaenau ac yn Nyffryn Ogwen.
Dwi wedi cysylltu gyda Phennaeth Datblygu Economaidd y Cyngor i weld os oes unrhywbeth o gwbwl y gallwn ni ei wneud i helpu yn ystod y cyfnod anodd yma.


Naturally the latest announcement by Welsh Slate regarding further redundancies within the company is of great concern to us here in Blaenau and to the communities within the Ogwen Valley.
I have contacted the Head of Gwynedd Council's Economic Development Department to see if there is anything that he Council can do to help at this difficult time.

Ceilliau! cydiwch ynddynt nawr ac yn y man - Balls! Check 'em out lads.




Mae'r newyddion gwych fod John Hartson yn gwella yn raddol ac yn ymateb i driniaeth ar gyfer cancr ddechreuodd yn ei geilliau cyn ymestyn i'w ymenydd a'i arennau yn ein hatgoffa ni ddynion pa mor bwysig ydi hi i ni gydiad yn ein ceilliau o bryd i'w gilydd er mwyn sicrhau eu bod nhw'n iawn ac nad oes dim o'i le gyda nhw.
Mi fydd tim pel-droed Cymru yn chwarae Montenegro heno gyda bathodynau arbennig ar eu crysu yn hyrwyddo elusen arbennig sydd yn codi ymwybyddiaeth am gancr ceilliau.
Checkemlads ydi enw'r elusen ac mi fydd dolen parhaol i'r elusen o'r blog hwn o heddiw ymlaen.
Pob lwc i John ac dwi'n mawr obeithio y wneith o drechu'r salwch di-eflyg hwn.
A hogiau, cofiwch chithau gydio yn eich ceilliau o bryd i'w gilydd.
Gyda llaw,does dim angen i ni fod a chwyliydd yn trafod hyn a'i wneud o...mi all achub eich bywyd rhyw ddydd


The good news that John Hartson is responding well to treatment for cancer which started in his testicles before spreading to his lungs and brain has been a timely reminder for all of us men how important it is that we check our balls regularly for anything irregular so that we know that everything is in order.
The Wales football team that will face Montenegro tonight will have special badges on the sleeves of their shirts promoting a testicular cancer charity.
Checkemlads is the name of that charity and from now on a link to their website will be included on the links bar from this blog.
Best of luck to John in his fight against this cruel illness.
And remember lads, check your balls from time to time.
By the way, lets not get coy or embarassed about this, one day, it could just save your life

11/08/2009

Da iawn UAC! - Well done FUW!


Llongyfarchiadau mawr i UAC am gefnogi'r ymgyrch i warchod ysgolion bach drwy ymuno yn y bartneriaeth rhwng gwahanol fudiadau yn ogystal a chefnogi'r Loteri newydd yma.Heb os ac onid bai, amaethyddiaeth ydi asgwrn cefn ein ardaloedd gwledig ac mae cannoedd o blant o deuluoedd amaethyddol ar hyd a lled Cymru wedi derbyn ac yn dal i dderbyn addysg o safon mewn ysgolion bach.
Bwriad y cynllun yma ydi sicrhau y bydd hynny'n parhau i ddigwydd am flynyddoedd i ddod.
Os hoffech chi gymryd rhan yn y Loteri newydd, mi fedrwch wneud hynny drwy ymweld a'r safle we hon, lle cewch chi hefyd gyfle i arwyddo deiseb electroneg ar gyfer gwarchod ysgolion bychan.


Congratulations to the FUW for supporting the campaign to protect small rural schools by joining in partnership with a number of other organisations as well as supporting a new Lottery aimed at providing financial assistance towards small schools.
Without any shadow of a doubt, farming is the backbone to many of our rural areas and hundreds of children from farming families have received and still receive a first class education in small schools.
The aim of this scheme is to ensure that this continues to happen for many years to come.
If you would like to take part in the new Lottery, you can do so by visiting this website, where you can also have the opportunity to sign an online petition supporting small rural schools.

10/08/2009

Arbennig - Special

Dyna oedd disgrifiad o Jose Mourinho ohonno ei hunain tra'n rheoli Chelsea, dyna ydi'r gair mae o'n ei ddefnyddio i ddisgrifio'r ffordd mae SKY SPORTS yn darlledu pel-droed hefyd yn yr hysbyseb sydd ar ein teledu ar hyn o bryd.
Ar yr hysbyseb hwnnw mae'r gan yma "Sweet Disposition" gan The Temper Trap a dwi'n eitha hoff ohoni.
Mae'r gan hefyd yn ymddangos yn y ffilm "500 Days of Summer".
Os ydych am ei chwarae, gwnewch hynny yn uchel!....ond peidiwch ac upsetio'r cymdogion! ;-))))


That was the word that Jose Mourinho used to describe himself as manager of Chelsea, that's the word he also uses to desicribe SKY SPORTS' coverage of football as well on their latest TV advertisment.
That advert also features this brilliant song called "Sweet Disposition" by The Temper Trap, and I quite like it.
The song also features on the soundtrack to the film 500 Days of Summer.
If you are going to play this, do so...loudly!...However DO NOT upset your neighbours please! ;-)))))


09/08/2009

Neges at Aelodau'r Cynulliad - A message to all Assembly Members


Dyma gopi o neges ydw'i wedi ei yrru yn gynharach heno 'ma at holl Aelodau Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Ysgrifennaf atoch i ddatgan fy siom a’m mhryder ynglÅ·n â phenderfyniad diweddar Comisiwn y Cynulliad i roi’r gorau i baratoi trawsgrifiadau cwbl ddwyieithog o gyfarfodydd llawn y Cynulliad sydd, yn fy marn i yn warthus ac yn israddio statws yr iaith Gymraeg o fewn y Cynulliad.
Ymddengys fod y penderfyniad i wneud hyn yn groes i bolisi iaith eich sefydliad, ffaith all gael ei gadarnhau os wnewch chi gysylltu gyda Bwrdd yr Iaith Gymraeg.
Mae'r penderfyniad hefyd yn gosod cynsail peryglus iawn i’r sectorau cyhoeddus, gwirfoddol a phreifat ar draws Cymru ac yn hytrach na gosod arweiniad ac arfer da ar fater yr iaith Gymraeg, yn yr achos yma credaf fod Comisiwn y Cynulliad wedi dwyn anfri ar weddill y sefydliad ac nid yw hyn yn esiampl nac arfer da i neb ei ddilyn - yn wir credaf fod hwn yn benderfyniad y dylai fod yn fater o embaras i Gomisiwn y Cynulliad.
Gofynnaf i chi felly i uno yn erbyn y penderfyniad anffodus yma a gofynnaf i chi bwyso ar y Comisiwn i newid eu penderfyniad ar unwaith gan sicrhau statws cyfartal i’r Gymraeg a’r Saesneg, ochr yn ochr drwy wneud yn siŵr y bydd trawsgrifiadau cwbl ddwyieithog o gyfarfodydd llawn y Cynulliad yn dal i gael ei ddarparu.
Byddai methiant i wneud hynny yn sicr yn niweidio hygrededd ein Cynulliad ar adeg pan mae gwir angen cefnogaeth a hygrededd ymysg dinasyddion ar y sefydliad.
Gan obeithio y medrwch lwyddo i wyrdroi’r penderfyniad gwarthus yma.

Yn siomedig,

Gwilym Euros Roberts


Here is a copy of a message that I have e-mailed earlier tonight to every member of the National Assembly of Wales:

I write to you to express my dissapointment and concern regarding the recent decision of the Assembly Commission not provide a fully bilingual written record of proceedings in the Welsh Assembly chamber. The fact that the Assembly Commission has decided that the words of AMs speaking English will not be printed in Welsh, although English will continue to be translated into Welsh discriminates against and also undermines the Welsh language and is indeed against the Welsh Language Policy that has been adopted by the Assembly! – A fact that can be confirmed by the Welsh Language Board, if you wish to check with them.
This decision also sets a precedent and poor example for the public, voluntary and private sector in Wales and rather than setting an example and setting a model of best practice, this decision is shameful and one that should be a matter of embarassment to the Assembly Commission.
I would therefore ask you to unite against this unfortunate decision and I would urge you to press upon the Assembly Commission that it should re-consider its decision immediately, thus ensuring that both the Welsh and English languages are treated as equal and with the same level of respect by providing fully bilingual written records of full Welsh Assembly deliberations in the chamber.
Failure to do so would greatly damage our Assembly’s creadibility at a time when the institution needs all the support and creadibility that it gan get from the citizens of Wales.
Thus hoping you can change this shameful decision.

In dissapointment,

Gwilym Euros Roberts

Llythyr o'r Steddfod (6)


Wel dyna ni, Steddfod aral ar ben, dim ond y Gymanfa heno ac bydd hi'n amser i ddymchwel y Pafiliwn pinc am flwyddyn arall cyn ei chodi ym Mlaenau Gwent ar gyfer Prifwyl 2010.
Heb os ac onid bai, mi roedd hon yn Steddfod wych, gyda'r tywydd yn troi'n braf am y rhan fwyaf o'r wythnos.
Yn amlwg ar gwynebau'r pobl welais i, roeddynt yn mwynhau eu hunain ac bu canmol mawr am y cystadlu a'r cyngherddau min nos.
O safbwynt Llais Gwynedd, roedd hi'n lwyddiant ysgubol gyda llawer o fobl yn datgan eu cefnogaeth i'n gwaith a'r Gyngor Gwynedd ac yn cefnogi'n safbwynt yn erbyn y drefn gyfredol o "ymgynghori" ynglyn ac ad-drefnu addysg gynradd.
Mae sawl un hefyd wedi cefnogi'r ffaith ein bod am rhoi ymgeiswyr yn Etholiadau'r Cynulliad yn 2011.
Dwi wedi blino'n lan ar ol wythnos prysur iawn, mae gennyf wythnos arall o waith cyn y byddaf yn cymeryd hoe fach am bythefnos a threilio tipyn o amser yn mwynhau gyda'r teulu yma ac acw.
Oes, ar adegau mae yna fywyd tu hwnt i wleidyddiaeth weithiau.
Roedd gweld bwrlwm y cytsadlu ar gwynebau hapus yn y Bala yn ystod yr wythnos yn atgoffa rhywun o hynny.
Llongyfarchiadau mawr i drefnwyr y Brifwyl, y Pwyllgor Gwaith Lleol a'r arwyr hynny nad oes fawr o son amdanynt, y stiwardiaid a'r heddlu am sicrhau fod Eisteddfod Meirionnydd a'r Fro 2009 yn un i'w chofio. Diolch yn fawr iawn!

07/08/2009

Llythyr o'r 'Steddfod (5)


Diwrnod hyfryd o haf unwaith eto ar y Maes yn y Bala a'r het haul oeddwn i yn ei wisgo yn denu ambell i sylw canmoladwy gan "fashionistas" y brifwyl...ew mae'n neis bod yn fashiynol am unwaith!!
Doedd dim cadeirio er mawr siom i'r cannoedd disgwyliedig oedd yn eistedd yn y Pafiliwn, gan mai Heddlu Gogledd Cymru oedd wedi talu am y gadair, fydd yr Eisteddfod yn ei rhoi hi yn ol nawr iddynt fel anrheg ymddeol i'r cyn brif gopyn Richard Brunstrom?
Bum mi draw yng nghyfarfod olaf Confeniwn Gymru Gyfan p'nawn 'ma lle ddaru mi ddatgan fy siom a'm anfodlonrwydd llwyr tuag at penderfyniad y Cynulliad Cenedlaethol i beidio a chynhyrchu trawsgrifiadau cwbl ddwyieithog o gyfarfodydd llawn y Cynulliad sydd yn lleihau statws y Gymraeg ac yn groes i'w polisi iaith eu hunain yn ol Cadeirydd a Phrif Weithredwr Bwrdd yr Iaith ddaru mi gyfarfod yn ystod y prynhawn yn crwydro'r Maes.
Roedd hi'n ddiwrnod prysur arall ar y stondin ac mae'r penderfyniad hanesyddol fod Llais am rhoi ymgeiswyr i sefyll ar gyfer Etholiadau'r Cynulliad yn etholaethau Dwyfor/Meirionnydd ac Arfon wedi derbyn cymeradwyaeth llawer ddaru mi gwrdd a hwy yn ystod y dydd tra ar y stondin.
Bydd yr ymgeiswyr yn cael eu dewis ar Hydref 3ydd gan aelodau Llais Gwynedd mewn cynhadledd arbennig ym Mhorthmadog.
Dim ond un diwrnod ar ol a mi fydd y sioe drosodd arwahan i'r Gymanfa Ganu a'r oedfa dydd Sul.

Llais Gwynedd i sefyll yn Etholiadau'r Cynulliad 2011 - Llais Gwynedd to stand in 2011 Assembly Elections



Mae ymgyrchwyr yn erbyn cau ysgolion gwledig yng Ngwynedd am gynnig ymgeiswyr yn etholiadau’r Cynulliad Cenedlaethol.
Dywed Llais Gwynedd, a enilliodd 13 sedd ar Gyngor Gwynedd yn yr etholiadau lleol y llynedd, fod Llywodraeth Cymru’n Un yn disytyrru anghenion cymunedau gwledig yn gyffredinol ac y dylid eu hatal.
“Yn dilyn ein llwyddiant yn dylanwadau ar bolisi ar lefel sirol rydym ni o’r farn erbyn hyn fod Gwynedd angen llais cryf ar lefel genedlaethol er mwyn i fywyd a gwasanaethau ardaloedd gwledig y sir gael tegwch haeddiannol pan ddaw hi’n fater o rannu cyllid a ffurfio cyfundrefnau gyda chyd-destun Cymreig iddynt,” meddai Cynghorydd Alwyn Gruffydd o Lais Gwynedd.
“Mae’r bygythiad i ysgolion gwledig y arwydd o ddifrawder y Cynulliad wrth drafod cymunedau cefn gwlad a’u ffordd o fyw unigryw,” ycnwanegodd.
Mae Llais Gwynedd yn bwriadu sefyll yn y ddwy etholaeth yng Ngwynedd sydd ar hyn o bryd yn nwylo Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol, yr Arglwydd Dafydd Elis Thomas (Plaid) dros Dwyfor/Meirionnydd a’r Gweinidog Diwylliant, Alun Ffred Jones (Plaid) dros Arfon.
“Mae’r deiliaid presennol wedi cael eu cyfle ac wedi methu ymateb I’w gofynion,” ychwanehodd y Cynghorydd Gruffydd.
“Mae yna rwystredigaeth mawr iawn yng nghymunedau gwledig Gwynedd ac nid yw eu cynrychiolwyr yn y Cynulliad yn gwerthfawogi hynny’n llawn,” meddai.
Mae Llais Gwynedd yn gwadd ceisiadau gan unigolion sydd â diddordeb mewn bod yn ymgeiswyr ar ran Llais Gwynedd yn Etholiadau’r Cynulliad Cenedlaethol yn 2011. Dewisir yr ymgeiswyr llwyddiannus mewn cynadledd arbennig a gynhelir ym Mhorthmadog ar Hydref 3 , 2009.
Yn Etholiadau Cyngor Sir y llynedd safodd Llais Gwynedd mewn 26 o wardiau gan dderbyn dros 7,000 o bleidleisiau.
Yn gynt yr wythnos hon cyhoeddodd Llais Gwynedd na fyddent yn cymryd rhan mewn tarfodaethau pellach ynglÅ·n â chau ysgolion gwledig yng Ngwynedd gan honni fod callawiau’r Cynulliad Cenedlaethol ar y mater yn ddiffygiol.
Mae ymwelwyr â phabell Llais Gwynedd ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Y Bala’n cael cyfle i arwyddo deiseb yn galw ar i Gyngor Gwynedd a’r Cynulliad Cenedlaethol ragdybio yn erbyn cau ysgolion gwledig yn unol ag agwedd Llywodrethau Daganoledig Yr Alban a Gogledd Iwerddon ac Awdurdodau Addysg yn Lloegr
“Bu ymateb y cyhoedd i’r ddeiseb yn syfrdanol,” meddai Arweinydd Llais Gwynedd yng Nghyngor Gwynedd, Owain Williams
“Dyma dystiolaeth pendant o nerth yr ymdeimlad drwy Gymru gyfan fod cau ysgolion gwledig yn sylfaenol anghywir,” ychwanegodd.


Campaigners against rural school closures in Gwynedd are to field candidates for election to the National Assembly for Wales.
Llais Gwynedd, which gained 13 seats on Gwynedd Council in last year’s Local Government Elections, claims the Assembly’s One Wales Government is riding roughshod over rural communities in general and needs to be checked.
“Following our successes in influencing policy on a county level we feel that Gwynedd now needs a strong voice in a national forum in order to give the county’s rural life and services a fair crack of the whip when it comes to allocating finances and formulating policies in an all-Wales context,” said Llais Gwynedd Councillor, Alwyn Gruffydd.
“The threat to rural schools is a symptom of the Assembly’s disregard towards rural communities and their unique way of life,” he added.
Llais Gwynedd plan to stand in the two Gwynedd constituencies presently held by the Assembly’s Presiding Officer, Lord Dafydd Elis Thomas (Plaid) for Dwyfor/Meirionnydd, and Culture Minister, Alun Ffred Jones (Plaid) for Arfon.
“Present incumbents have had their opportunity and failed to come up with the goods,” added Councillor Gruffydd.
“There a great deal of frustration in the rural communities of Gwynedd that their current representatives in the Assembly are not answering to their responsibilities,” he said.
Llais Gwynedd is now inviting letters of interest from applicants wishing to become the party’s candidates in the 2011 National Assembly for Wales Elections. The winning applicant will be chosen in a specially convened Llais Gwynedd Conference in Porthmadog on October 3, 2009.
In last year’s Local Government Elections Llais Gwynedd stood in 26 wards and received over 7,000 votes.
Earlier this week the party announced it was boycotting further consultations on school closure in Gwynedd claiming present Welsh Assembly guidelines on the matter were flawed.
Visitors to the National Eisteddfod Maes in Bala are invited to sign a petition calling on Gwynedd Council and the Welsh Assembly Government to presume against rural
school closures in line with the attitude shown by devolved governments in Scotland and Northern Ireland and Education Authorities in England.
“The public’s response to the petition has been overwhelming,” said Llais Gwynedd Leader on the Council, Owain Williams.
“And is ample proof of the strength of feeling throughout Wales that the closure of rural schools is fundamentally wrong,” he added.

06/08/2009

Penderfyniad gwarthus sydd yn is-raddio statws y Gymraeg - Terrible decision that degrades the status of the Welsh language

Mae penderfyniad Comisiwn y Cynulliad i roi'r gorau i gynhyrchu trawsgrifiadau cwbl ddwyieithog o gyfarfodydd llawn y Cynulliad yn un gwarthus sydd yn is-raddio statws yr iaith Gymraeg o fewn ein Cynulliad Cenedlaethol.
Mae hyn yn warth ac yn fater y dylai Bwrdd yr Iaith ac Aelodau Cynulliad ar draws y pleidiau ei gondemnio'n hallt a gofyn am ail-ystyried.
Mae'r penderfyniad hefyd yn gosod cynsail peryglus iawn i gyrff cyhoeddus eraill ar draws Gymru allai ddilyn yr un trywydd gan olygu na fydd cofnodion yn cael ei darparu yn gwbwl ddwyieithog sydd yn fy marn i yn groes i Ddeddf yr Iaith, efallai nid yn llythrenol ond yn sicir mewn ysbryd.


The written record of proceedings in the Welsh Assembly chamber will no longer be fully bilingual in future. In their infinate wisdom Assembly Commission has decided that the words of AMs speaking English will not be printed in Welsh, although English will continue to be translated into Welsh.
Such a decision undermines and degrades the status of the Welsh language and this decision should be reversed immediately and I hope that both the Welsh Language Board and Assembly Mmembers from across the parties will press for such actions.
Although this does not go against the letter of the Welsh Language Act it certainly goes against the spirit of it.

The one eyed coward is alive and well!

There are two sides to every story so I have been told, there are also more than one view on how matters relating to the day to day running of Wales and its services, be they in Gwynedd or in Cardiff.
In Gwynedd, Plaid Cymru are at the forefront of re-organising the primary school education and the majority of their members are in favour of supporting officers reccomendations that at least 25 schools in the County should be closed.
Llais Gwynedd has and continues to oppose such plans, despite agreeing to take part in a "consultation" process on the matter, which has now become apparent is seriously flawed - Llais has withdrawn its support and will now press for changes to the Council and Welsh Assembly Government policy on rural education.
The decision to withdraw from the flawed process has been met with all sorts of expected claims and attacks by Plaid supporters.
None more so than this.
Now Che, who ever he or she may be is totally welcomed to his/her opinion however when I sent two comments countering his/her arguments and comments, he/she decided not to publish them, which again he/she is entitled to do(however he/she did publish 4 out of 5 comments agreeing with his/her view...classy).
However in doing so Che, proves beyond all reasonable doubt that he/she is a one eyed coward, unable to argue his/her point against someone who has a different opinion to him/her.
This has also got me thinking, who is Che? Does this person live or work in Gwynedd?Have they spoken to parents, teachers, governors and children in Gwynedd about this important issue? Is he/she employed by Plaid Cymru? What's his or/her answer to dealing with education provision in Gwynedd and rural Wales?
Anybody knows who he or she is can you let me know he following, a) have they got two eyes? And b)do they have a spine?..because the evidence so far that I have seen shows that they haven't.

05/08/2009

Hwb Ariannol i Antur 'Stiniog - Cash boost for Antur Stiniog


Heddiw ar Faes yr Eisteddfod yn y Bala cyflwynnodd cwmni Energy Solutions sydd yn rhedeg safle Atomfa Trawsfynydd, siec am £30,000 tuag at datblygu cynlluniau cyffroes Antur Stiniog.
Fel dwi eisioes wedi datgan ar y blog hwn, mae'r cynlluniau yma yn rhai uchelgeisiol ac arwyddogaol all rhoi hwb economaidd enfawr i'r ardal yma os can't ei gwireddu.
Dwi'n ddiolchgar dros ben i gwmni Energy Solutions am ei rhodd ac yn mawr obeithio y cawn weld y cynlluniau yma'n dwyn ffrwyth maes o law.


A big thank you to Energy Solutions who today on the Eisteddfod Field in Bala presented a cheque for £30,000 towards the development of exciting plans by Antur Stiniog for developing high quality outdoor pursuit facilities in the area.
As I have stated previously on this bolg, this is a very ambitious project, which, if succesful could give the town a much welcom economic boost.
I hope that this kind gift will go some way in doing that.

Llythyr o'r 'Steddfod (4) ...Ew roedd hi'n braf yn y Bala heddiw Wa!


O dan awyr las a haul poeth dreulias diwrnod braf ym Mhrifwyl y Bala heddiw 'ma.
Roedd y Maes yn fwrlwm gyda miloedd yn tyrru yno gan fod hi mor braf.
Mae pobol yn eu cannoedd yn dal i arwyddo ein deiseb addysg ac mae ymwelwyr cyson yn dal i ymweld a'n stondin ar y Maes.
Yn eu plith, y Cyn Archdderwydd, Robin o Lyn, Pennaeth Addysg Gwynedd a'r Cyfarwyddwr Strategol gyd achyfrifoldeb dros addysg....penderfynodd y ddau diwethaf peidio ac arwyddo'r ddeiseb, serch hynny cafwyd sgwrs digon hwyliog gyda'r ddau oedd yn amlwg yn mwynhau'r diwrnod gyda'u teuluoedd yn yr heulwen.
Oddi wrth y stondin tra'n crwydro'r Maes mi ddos ar draws, Arweinnydd Seneddol Plaid Cymru, Elfyn Llwyd AS ac mi fanteisiais ar y cyfle i'w longyfarch am ei safiad cryf tra'n trafod ffawd y merched o Batagonia ar y Newyddion neithiwr - anghofiais ddiolch iddo am y cymorth mae yntau wedi rhoi i Mr Tudor Roberts o'r Blaenau, felly mi wnai hynny rwan....diolch yn fawr iawn Elfyn, mae Mr Roberts yn hapus iawn gyda'r canlyniad, diolch i'n hymdrechion ni i gyd ar ei ran.
Roedd sesiwn holi ac ateb ar stondin Cymunedau'n Gyntaf Bowydd a Rhiw ynglyn a dyfodol Blaenau Ffestiniog, chefais ddim cyfle i wrando ar y drafodaeth i gyd ond mi roedd hi'n swnio'n ddifyr iawn ac fel rydych eisioes wedi darllen ar y blog hwn, dwi'n cefnogi sawl ymdrech lleol i adfywio'r ardal, yn ymarferol iawn ers i mi gael fy hethol ac mae gweld y cynlluniau yma'n cael ei ddatblygu gan griw effeithiol a chydwybodol o fobol lleol yn sicr yn llenwi fi gyda gobaith at y dyfodol a balchder am fy milltir sgwar.
Sydd yn dod a mi at gyfarfod trefnwyd y prynhawn yma gan Cymdeithas yr Iaith ym Mhabell y Cymdeithasau i drafod Cymunedau Cymraeg Cynaliadwy. Er i mi gyrraedd y cyfarfod yn hwyr a methu cyfraniad Carl Clowes, mi ddaru mi glywed areithiau Ffred Ffransis a Dyfed Edwards ac ymateb Dylan Edwards, Cynghorydd Sir y Bala ac i fod yn gwbwl onest doedd yna ddim llawer nad oeddwn i yn ei glywed nad oeddwn yn anghytuno ac o er fod gennyf gwestiynau sylfaenol am ambell i bwyntiau wnaethpwyd ynglyn ac addysg ac diffyg gweithredu gan lywodraethau ayb...ond tai ddim ar ei ol nhw rwan.
Roedd awyrgylch y cyfarfod yn un positif a chafwyd cyfraniadau da o'r llawr tua'r diwedd, pam felly ddaru Dafydd Iwan, gyrhaeddodd tua 10 munud cyn y diwedd ymosod ar Llais Gwynedd tra ar yr un gwynt yn dweud pa mor bwysig oedd cydweithio er fod rhaid derbyn bydd gwahaniaeth barn o bryd i'w gilydd. Mi aeth llawer o fobol o'r cyfarfod oedd hyd hynny yn gyfarfod gwych, gyda argraffiadau gwael iawn o Llywydd Plaid Cymru sydd bellach genai ofn yn amlygu hunain i fod yn ddyn bach chwerw iawn ac mae hynny yn drueni.
Tua a diwedd prynhawn a minnau wedi hen flino ac yn barod i'w throi hi tuag adref, dyma daro i mewn i Dylan Iorwerth. Rwan i fod yn deg dwi wedi bod yn hynod feirniadol o Dylan ac o gylchgrawn GOLWG ar y blog hwn am modd mae nhw wedi adrodd rhai pethau am Llais Gwynedd ac amdanaf innau yn bersonnol. Efallai ar adegau dwi wedi bod yn orsensetif ac wedi amddiffyn fy hunain drwy gyhuddo Dylan o puteinio ei hunain...dwi'n falch o ddweud cefais gyfle i gael sgwrs digon cyfeillgar gyda fo ar y Maes ac mi ddaru mi ymddiheuro am y disgrifiad hynny ohonno ac mi ddaru yntau ymddiheuro am camgymeriad diweddar wnaeth GOLWG tra'n cyhoeddi stori amdanai.
Mae hi yn syndod sut mae mymrun bach o haul yn gallu newid agweddau pobl yn tydi!?
I gloi...llongyfarchiadau i Merched y Wawr am drefnu cadwyn o bra's o amgylch y Pafiliwn prynhawn yma fel rhan o ymgais i gefnogi elusen Oxfam roedd o'n syniad da ar gyfer codi proffil y mudiad ac ymgyrch yr elusen.Mae hen edrych ymlaen at Eisteddfod y flwyddyn nesa' rwan pan, yn ol rhai mai cadwyn o thongs fydd hi yno!? Navy Blue!, fel tasa Gwilym Owen yn ei ddweud.

Gweld y Golau - Seeing the Light


Falch iawn o weld hanes Mr Tudor Roberts yn y Daily Post heddiw.
Mae'r Cyng Dafydd Lloyd Hughes a mi wedi bod yn ei gefnogi ac yn ceisio datrys yr achos yma ers sawl wythnos ac dwi'n falch fod yr Asiantaeth yr Amgylchedd wedi gweld y golau bellach ac nad ydynt yn gwrthwynebu'r hyn mae Mr Roberts yn ei wneud.
Yn y dydd a'r oes yma pan ein bod yn son am leihau hoel troed carbon ac yn y blaen, dylai Mr Roberts a'i ddyfeisgarwch gael ei ddangos fel engraifft da i pob un ohonom.
Pob hwyl iddo ac roedd cael ei gefnogi yn bleser ac yn anrhydedd.


I was pleased to read the story about Mr Tudor Roberts in today's Daily Post.
Both Cllr. Dafydd Lloyd Hughes and I have been supporting Mr Roberts and trying to sort the situation out for him for several weeks now. The fact that the Environment Agency has seen the light by not objecting to Mr Roberts' scheme and that common sense has prevailed is to be warmly welcomed.
In this day and age when we hear so much about reducing the carbon footprint and all that, Mr Roberts should be congratulated for his inginuity and should be used as an example to all of us.
Good luck to him and supporting him has been both an honour and a privilage.

04/08/2009

Llythyr o'r Steddfod (3)


Gan na fues i ar y Maes heddiw, llythyr gan rhai o gynghorwyr Llais Gwynedd oedd yno ydi hwn.
Y neges sydd yn dod drwodd yn glir wrth i ganoedd arwyddo ein deiseb ydi...
Fod llawer o gefnogaeth gan pobl o ardal Dyffryn Ceiriog wrth ymyl Wrecsam,oeddan nhw'n methu deallt Plaid Cymru yn cefnogi ysgolion bach yn yr ardal yna ac ddim yn Gwynedd ac oeddan nhw ddim yn rhy hapus, hefyd oedd i'n amlwg bod pobol Cymru yn cefnogi safbwynt Llais Gwynedd ar ysgolion gwledig o Sir Fon i Sir Benfro, o Caerdydd i Powys ac i fyny at Wrecsam! Dau beth sydd wedi amlygu eu hunian heddiw ydi'r ffaith bydd Plaid Cymru'n colli mwy o bleidleisiau yng Ngwynedd os byddent yn parhau gyda'r cynlluniau i ad-drefnu addysg presennol ac yn ail byddai pobl wrth ei bodd yn cael Plaid wleidyddol fel Llais Gwynedd yn cefnogi ysgolion bach yn eu hardaloedd nhw.

Ar fater gwbwl wahanol, llongyfarchiadau i Elfyn Llwyd AS ar ei gyfweliad gwych ar raglen Newyddion S4C heno wrth drafod y sefyllfa gwarthus y ddwy wraig ifanc o Patagonia. Roedd o'n gwbl naturiol, diffuant ac yn flin iawn am y sefyllfa...pwy a wyr, efallai ddaw o draw i'n gweld yn ystod yr wythnos ac i arwyddo'r ddeiseb?

Dwr glas clir - Clear blue water


Dyna sydd bellach rhwng Llais Gwynedd a'r Pleidiau eraill ar Gyngor Gwynedd ar y mater ad-drefnu addysg gynradd.
Pam?...Yn syml, mae'r broses bresennol yn ddiffygiol ac mae hynny yn berffaith amlwg wedi dim ond un dalgylch gael ei adolygu.
Yn nhalgylch Tywyn, mae 6 ysgol gynradd, mae un o rheini yn ymddangos yn anghynaliadwy gan fod nifer y disgyblon sydd yno yn isel ac nid oes disgyblion newydd am fynychu'r ysgol am oleiaf 2 flynedd. Mae Llywodraethwyr 3 ysgol arall yn erbyn ad-drefnu a dim ond un ysgol hyd y gwn i sydd o blaid sefydlu ysgol ardal yn y cylch.
Mewn cyfarfod o'r gweithgor yn yr ardal honno rhai wythnosau'n ol mi ddaru Pennaeth y Gwasanaeth Addysg ddweud mewn ateb i gwestiwn fod yn rhaid i'r Cyngor gau 25 o ysgolion....ffaith sydd wedi ei gadarnhau gan pobol oedd yn bresennol yn y cyfarfod.
Mae hynny yn gwbwl groes i'r hyn a fwriadwyd ar gyfer y broses hon ac yn groes i'r hyn roedd cynrychiolydd Llais Gwynedd ar y gweithgor, y Cyng.Seimon Glyn ac ni fel ei gyd aelodau yn ei gredu.
Eisioes mae rhai cefnogwyr Plaid Cymru yn ceisio dweud mai stynt wleidyddol ydi tynnu allan o'r broses –dim o gwbwl! Be’ sydd yma ydi safiad egwyddorol yn erbyn trefn anheg, anghyfiawn sydd yn groes i'r ysbryd newydd honedig oedd yn bodoli ar ol yr etholiadau lleol yn 2008.
Mae eraill yn dadlau mai ffactorau ariannol sydd wrth wraidd hyn ac mai Plaid Cymru yw'r unig Blaid sydd yn ymgyrchu i newid hynny –drwy ddiwygio fformiwla Barnett. Mae hynny yn rhanol gywir ond y gwir plaen ydi, pe dymunant, mi allai Plaid Cymru a'r Blaid Lafur fel Llywodraeth Cymru wneud llawer, llawer mwy i warchod ysgolion bychan gwledig ym Mae Caerdydd ond eto fyth yn y fan honno ac ar Gyngor Gwynedd, mae'r Blaid yn rhagdybio o blaid cau ysgolion yn hytrach nai gwarchod – er mwyn arbed arian!
Mae'r Cyngor yn benderfynol i weithredu eu cynlluniau hwy yn groes i ddymuniad llywodraerthwyr, athrawon a rhieni ardal Tywyn.
Dyna yw eu bwriad mae'n ymddangos ymhob dalgylch arall nes byddent wedi cau o leiaf 25 o ysgolion, sydd yn golygu bydd rhai ysgolion yn cael eu trin yn wahanol iawn ar ddechrau'r broses diffygiol yma o'i gymharu ac sut y bydd ysgolion eraill yn cael eu trin pan fydd y Cyngor bron a chyraedd eu targed o 25.
O rwan ymalen byddwn yn ceisio diogelu cyllideb digonol ar gyfer addysg yng Ngwynedd er mwyn gwarchod ein hysgolion, tra yn yr un modd yn pwyso ar y Cynulliad i newid ei polisi sydd o’i weithredu yn mynd i newid fabric cefn gwlad yn gyfan gwbwl os nad yw calonau sawl cymuned – yr ysgol bentref yn cael ei warchod.
Ar diwedd y diwrnod, gadewch i ni gofio mai addysg a lles ein plant sydd wrth wraidd hyn ac yn hynny o beth y gallwn gytuno. Ac mae’r ffaith fod y mater yn enyn brwdfrydedd a thrafodaeth cyn gymaint o fobol yn rhywbeth i’w groesawu mewn oes ble mae difaterwch a diffyg diddordeb mor gyffredin.


That's what's between Llais Gwynedd and all the other political parties on Gwynedd Council on the matter of primary education re-organisation.
Why?...quite simple, the current process of consultation on a catchment area basis has proved to be flawed during the first consultation in the Tywyn area.
In that area, there are currently 6 primary schools. Sadly one does not look like it is sutsainable as pupil numbers are so low and the fact that no new children will be on the register for at least another two years means that it does face a bleak future.The governors of three other schools do not want to see a change in the status quo and only one school in that area as far as I know is in favor of the establishment of an area school.
In a meeting in that area a few weeks ago, the Head of Gwynedd's Education Service whilst answering a question stated that 25 schools would have to be closed,a fact that has been confirmed by people who attended that meeting.
This is totally against the principals that the "new" process was heralded following the Local Elections that were held in May 2008 and against what the Llais Gwynedd representative on the schools re-organisation, Cllr.Simon Glyn and we, his fellow members were led to believe.
Already some Plaid supporters have stated that withdrawing from the consultation process is a political stunt - not at all! What's going on here is a principled stand here against an unjust and unfair sham dressed up as a "consultation" that was drawn up after the 2008 election.
Others argue that this is happening due to financial constraints on the public sector purse and that the Barnett Formula needs changing and that Plaid is the only party lobbying for this change.
In fairness that is true up to a point however Plaid and their Labour partners in the Welsh Assembly Government could do much,much more than what they are doing to protect small rural schools than what they are doing in Cardiff Bay and on Gwynedd Council as Plaid on both bodies are prejudgeing in favour of closing schools and that's only to save money!
The Council is determined to press on with their plans in the Tywyn area despite the objections of parents, teachers and governors.
That clearly seems to be their plans for the other catchment until they have closed at least 25 schools which means that some schools at the beginning of the process will undoubtedly be treated differently in comparison to those that will be reviewed towards the end of the process, when the target of 25 becomes closer.
From now on we will be campaining to ensure that the neccesary funding is safeguarded to protect small rural schools across Gwynedd and that the Welsh Assembly to change their policy, which if pushed through will change the fabric of rural communities across Wales as the very heart of so many of these communities, the village school is under threat.
At the end of the day, it is the education and wellbeing of our children which is at the centre of all of this, and at least on that I'm sure we can all unite and agree upon.And the very fact that it has been the centre of debate and campaigning is certainly not a bad thing particularly in this day and age when many people have turned their backs on politics and political debate.