
Cefais gyfarfod prynhawn yma gyda swyddogion o'r Cynulliad, TRAC, Taith, Cynghorau Gwynedd a Chonwy, Network Rail a Partneriaeth Cymunedau'n Gyntaf i drafod yr adroddiad terfynol i uwchraddio Rheilffordd Dyffryn Conwy.
Mae'r casgliadu yr adroddiad yn siomedig gan eu bod yn nodi ar hyn o bryd nad oes gwerth economaidd cynnaliadwy i sefydlu gwasanaeth cludo nwyddau yma yn y Blaenau gan nad oes unrhyw gyfle i ddenu buddsoddiad o'r sector breifat i'r fath fwriad ac gan nad oes gofyn gan y sector breifat am fath wasanaeth ar hyn o bryd.
Serch hynny mae'r adroddiad yn nodi sawl ffactor pwysig y dylid mynd yn ei gylch sydd yn ymwenud a chludo teithwyr yma ac oddi wrth yr ardal hon ac byddaf yn pwyso ar y Cynulaid i sicrhau gwellianu yn y ddarpariaeth o wasanaeth a safon y cerbydau er mwyn uchafu'r budd i'r ardal yn sgil rhai o'r datblygiadu cyffroes sydd ar y gweill yma ar hyn o bryd.
Felly, fel mae un drws yn cau am y tro, dwi'n mawr obeithio y byddwn yn agor un arall maes o law.
DIWEDDARIAD: Dwi bellach wedi ysgrifennu at y Gweinidog Trafnidiaeth, Ieuan Wyn Jones i ofyn am welliannu i'w gael ei wneud i wasanaethau cludo teithwyr ar y rheilffordd.
I had a meeting this afternoon with officers from the Assembly,TRAC, Taith,Gwynedd and Conwy Councils, Network Rail and The Communities First Partnership to discuss the final report into the possible upgarding of the Conwy Valley Railwy line.
Whilst the conclusion and recommendations within the report are somehwat dissapointing as it notes that there would be no identifiable economically sustainable case for the development of such a service at present.
However the report does highlight a number of important factors that could and should be looked at closer with regards to passanger transportation on the line to and from this area. I will now be pressing upon the Assembly to make improvements to the service as well as to the standard of rolling stock on the line in order to maximise any potential benefits to the area from the substantial investment already being made in the area by WAG and its partners.
So as one door shuts for the time being, I sincerely hope that we will open another in due course.
UPDATE: I've now written to the Transport Minister, Ieuan Wyn Jones asking for improvements to be made to passanger services on the railway


2 comments:
ti wedi gwneud dy orau. Pem i fyny!
Do, a phwab arall sydd ynghlwm a'r cynllun...ond nid da lle gellir gwell, dwi ac eraill yn awyddus iawn i weld gellianu i'r gwasanaeth cludo teithwyr a dyna be fydd yn hoelio'r sylw rwan.
Post a Comment