
Newydd ddod nol o benwythnos i ffwrdd yn Swydd Efrog.
Bues yn ffodus iawn i gael tocynnau ar gyfer y gem bel-droed fawr p'nawn ma rhwng Lerpwl a Man Utd yn Old Trafford fel anrheg penblwydd.
Sut ddaru mi eistedd yn llonydd a pheidio gweiddi pan sgoriodd Torres (roeddwn yn eistedd gyda cefnogwyr Man U!), Duw yn unig a wyr.
Yn anffodus doedd hi ddim i fod, gyda United yn ennill 2-1, ac mi fethodd Rafa a'r cochion rhoi yr eisin ar gacen fy mhenblwydd.
Ta waeth, dwi wedi cael amser braf iawn ond nol i'r gwaith yfory gyda sawl her a mater pwysig angen sylw yn ystod yr wythnos i ddod.
Just got back from a weekend in Yorkshire.
I had been fortunate enough to get tickets for this afternoon's game between Liverpool and United at Old Trafford as a birthday present.
How on earth I managed to sit still and remain quite after Torres put Liverpool ahead, heaven only knows?(I was sat among United fans!).
Unfortunately it was only a token goal as United eventually ran out winners by 2-1, so Rafa and the Reds failed to put the icing on my birthday cake.
Not to worry, I've had a very nice time, but its back to work tomorrow with plenty of matters needing urgent attention during what's sure to be a busy week ahead.


0 comments:
Post a Comment