
Roeddwn yn siomedig ac yn flin iawn o ddarllen yn y Cambrian News y bore 'ma,
hanes fy nghyd Gynghorydd, Mrs Anne Lloyd Jones sydd wedi derbyn llythyr milain di-enw drwy'r post.
Dwi yn adnabod Anne ers dros degawd bellach ac er nad ydym yn gweld llygad yn lygad yn aml iawn yn siambr y Cyngor, mae hi'n ddynes dda, sydd wedi ceisio gwneud ei gorau dros pobol Tywyn.
Tydi hi na neb arall yn haeddu llythyrau milain di-enw gan crancs di-asgwrn cefn! Os oes gennych chi broblem efo Anne, ffoniwch hi, gofynwch am gyfarfod efo hi a dwedwch be ydi eich barn yn ei gwyneb hi, neu oleiaf arwyddwch eich llythyr a dorwch gyfeiriad iddi ymateb.
Does dim lle o gwbwl i ymddygiad fel yma, be bynnag ydi'r achos. Fel un sydd wedi derbyn fy siar o "fan mail" milain dros y blynyddoedd credaf fod gennyf hawl i siarad allan yn erbyn hyn....Felly os ydi'r crancs, 'sgrifennodd at Anne yn darllen hwn, dorwch gora' iddi rwan neu tyfwch asgwrn cefn a byddwch ddigon "dewr" i roi eich enw a'ch cyfeiriad ar eich llith anghynes!
I was saddened and angered to read the story in this morning's Cambrian News about the poision pen letters that have been sent to Councillor Anne Lloyd Jones.
I have known Anne for over a decade and although I don't always see eye to eye with her in the Council Chamber, I think she's a nice woman who has tried her best for the people of Tywyn.
She or nobody else deserves to receive poison pen letters from cranks, who in my opinion are spinless and pitiful. If you've got beef with Anne, call her, ask for a meeting and tell her in her face what you think, or at least be "brave" enough to sign your letter and provide an address for her to reply.
There is no room at all for such behaviour as this, whatever the case. As someone who has had his fair share of crank "fan mail" over the years, I feel that its right for me to speak out against this horrible behaviour....So if the cranks that wrote to Anne read this, stop it now or at least grow a back bone and be "brave" enough to put your name and address on your attacks!